Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Tyfu’r economi werdd a gwneud teuluoedd yn well eu byd yn 2025

Rhian-Elston
Cyfarwyddwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae’r newid i sero net yng Nghymru wedi hen ddechrau wrth i ni ddechrau ar 2025.

Cyhoeddwyd Adroddiad Economaidd a Chyllidiol Cymru 2024 Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr.   Mae’n rhoi’r cyd-destun economaidd a chyllidol ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn amlinellu sut mae’r gostyngiad o 36% yn allyriadau Cymru ers y flwyddyn sylfaen ym 1990, ynghyd â thueddiadau economaidd ehangach, wedi canolbwyntio sylw ar bwysigrwydd ‘swyddi gwyrdd’ fel ysgogydd allweddol ar gyfer gwella bywydau pawb yng Nghymru.

Gyda £2 biliwn yn cael ei reoli a phortffolio o 3492 o gwsmeriaid, gallwn gefnogi polisi’r llywodraeth drwy ddatblygu offerynnau ariannol arloesol sy’n hyrwyddo’r uchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwyrdd yng Nghymru ac yn helpu i wneud cymunedau a theuluoedd yn well eu byd.

Mae’r hinsawdd ariannol gyffredinol yr ydym yn gweithredu ynddi yn parhau i fod yn heriol wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, ond rydym yn parhau i ganolbwyntio ar annog creu busnesau newydd a thwf economaidd yng Nghymru tra’n cefnogi’r newid i economi carbon is. Rydym am i Gymru fod y lle gorau i ddechrau a thyfu busnes tra hefyd yn gwneud yr hyn a allwn i helpu perchnogion tai i leihau eu hôl troed carbon.

Buddsoddiad i ariannu gweithredu cadarnhaol

Fel buddsoddwr profiadol rydym yn deall y pwysau y mae busnesau yn ei wynebu a’r blaenoriaethau cystadleuol ar gyfer adnoddau a buddsoddiad, yn enwedig o ran gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio. Mae rhwystrau allweddol fel gwybod ble a sut i fuddsoddi, bod yn brin o amser a chael y cyllid angenrheidiol yn atal busnesau rhag cymryd camau cadarnhaol.

Dyna pam mae ein cynnyrch a’n gwasanaethau bob amser yn esblygu ac yn awr yn cynnwys amrywiaeth o raglenni sy’n cynnig pecyn cymorth i fusnesau Cymru sy’n helpu i leihau allyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys darparu cyngor ymarferol yn ogystal â chyllid cynaliadwy ar ffurf benthyciadau ac ecwiti.

Rydym yn gweithio gyda chwsmeriaid newydd a phresennol i nodi meysydd sy’n effeithio ar yr amgylchedd a hyrwyddo’r camau gweithredu sydd eu hangen i drosglwyddo i sero net wrth gyfeirio busnesau’n rhagweithiol at gydweithwyr yn Busnes Cymru am gymorth gyda chynaliadwyedd.

Cefnogaeth i BBaChau

Rydym hefyd yn cynnal astudiaeth beilot ar gyfer cynllunio pontio i fusnesau bach a chanolig. Mae hyn yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan y Tasglu Llwybrau Pontio ac Adolygiad diweddar o’r Farchnad Cyllid Pontio, a nododd y ddau ddiffyg fframwaith clir ar gyfer BBaChau yn y DU. Bydd y peilot yn cefnogi ein cwsmeriaid i symud o asesiadau carbon i osod targedau, cynlluniau lleihau a gweithredu'r rhain, tra'n bodloni safonau rhyngwladol a safonau'r DU ar gyfer adrodd gan gwmnïau.

Mae pedwar o'n cwsmeriaid ecwiti yn cymryd rhan yn y cynllun peilot, gan roi fframwaith a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i reoli'n well y cyfleoedd a'r risgiau sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch i Sero Net. Mae eu cymhellion ar gyfer cymryd rhan yn y peilot yn cynnwys gweithredu effeithlonrwydd gweithredol megis arbed ynni a lleihau gwastraff, cadw ac ennill contractau newydd, denu a chadw talent a thrwy wneud hynny wneud eu rhan i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn falch o fod yn aelodau o Brosiect Perseus, cydweithrediad rhwng banciau'r DU, arbenigwyr carbon, y llywodraeth, a sefydliadau eraill i symleiddio cyfrifon carbon ar gyfer busnesau bach a chanolig trwy adalw data mesuryddion clyfar yn awtomatig. Rydym yn cydweithio i ddangos y defnydd o'r system Perseus i gefnogi ein benthyca gwyrdd tra'n lleihau'r baich busnes ar ein cwsmeriaid. 

Benthyciadau busnes gwyrdd

Mae Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru wedi cefnogi 28 o fusnesau hyd yma ac wedi creu a diogelu 2291 o swyddi gyda chyllid o £6.1 miliwn. Mae Halen Môn o Ynys Môn yn enghraifft wych o’r cwmnïau yr ydym yn eu helpu i gymryd y cam nesaf ar y daith ddatgarboneiddio. Mae benthyciad o £77,000 gan y Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd wedi galluogi'r busnes i osod system panel solar 100kw newydd. Bydd y paneli newydd a'r system gynhyrchu sy'n cyd-fynd â nhw yn sicrhau arbediad carbon o fwy na 380 tunnell y flwyddyn ac yn caniatáu i'r busnes allforio ynni dros ben yn ôl i'r grid. Yn fwy na hynny, cafodd y system PV newydd ei dylunio a'i gosod gan fusnes arall yng Ngogledd Cymru, Hafod Renewable Energy o Lanelwy.

Gyda Deddf Cyllid 2024 wedi gwneud y gyfundrefn gostau lawn yn barhaol, mae lwfansau cyfalaf wedi dod yn arf cynyddol werthfawr ar gyfer lleihau elw trethadwy. Mae costau llawn – lwfans blwyddyn gyntaf o 100% – ar gael ar y rhan fwyaf o offer a pheiriannau. Mae lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar gael ar gyfer rhai asedau cyfalaf 'oes hir'. Nid oes cap ar swm y gwariant a all fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad, gan roi hwb pellach i atyniad buddsoddi mewn offer datgarboneiddio fel systemau paneli solar.

Helpu perchnogion tai i dorri costau a charbon

Yn y cyfamser, gall perchnogion tai ledled Cymru hefyd gael mynediad at Cartrefi Gwyrdd Cymrucynllun peilot sy'n darparu benthyciadau di-log i helpu i ariannu'r gwaith o weithredu mesurau arbed ynni ac arbed carbon. Mae'n gam cyffrous i helpu perchnogion tai i wneud dewisiadau gwyrdd ac ynni-effeithlon i wella ansawdd a chysur hirdymor eu cartref.

Fel rhan o’r cynllun, gall perchnogion tai gael cyllid i gael cyngor arbenigol gan gydlynydd ôl-osod i helpu i benderfynu pa fath o dechnoleg datgarboneiddio sy’n gweithio i’w cartref. Gall gwaith cymwys gynnwys gosod pwmp gwres ffynhonnell aer, inswleiddio waliau allanol a systemau ynni cartref clyfar. Mantais ychwanegol Cartrefi Gwyrdd Cymru yw ein bod yn mynd ati i gefnogi datblygiad y farchnad a chryfhau ein cadwyni cyflenwi lleol.

Cydweithio i wneud newid cadarnhaol

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, a, gyda’r ystod o gymorth sydd ar gael, ni fu erioed amser gwell i fuddsoddi i arbed a gwneud newid cadarnhaol tuag at ddyfodol gwyrddach. Gyda’n gilydd, gallwn dyfu ein heconomi werdd a gwella bywydau pawb yng Nghymru.