Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Amyneddgar
Cyfalaf amyneddgar i helpu eich busnes i ffynnu
Hyblyg
Sector agnostaidd gydag amrywiaeth o opsiynau ariannu
Cefnogol
Partner strategol sy'n cymryd cyfran leiafrifol ac a all eich helpu i adeiladu gwerth yn eich busnes
Dibynadwy
Gwnaed buddsoddiadau mewn dros 200 o gwmnïau technoleg arloesol

Pwy ydym ni a beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Mae Banc Datblygu Cymru yn fuddsoddwr sefydliadol profiadol sy'n darparu cyfalaf hadau a menter ar gyfer cwmnïau technoleg arloesol yng nghyfnod cynnar ar draws ystod amrywiol o sectorau.

Rydym yn buddsoddi cyn-hadu hyd at Gyfres A a thu hwnt, o brawf o gysyniad hyd at ehangu ac ymadael.

Dull gweithredu hirdymor

Ffocws masnachol cryf gyda chyfalaf hirdymor ac amyneddgar i helpu busnesau i ffynnu. Rydym bob amser yn cymryd cyfran leiafrifol a gallwn ariannu sawl rownd, gan ganolbwyntio ar weithio gyda'r bwrdd i greu gwerth parhaol dros enillion tymor byr.

Cymorth parhaus

Rydym yn buddsoddi fel partner strategol gydag arbenigedd 'cynhwysfawr' i'ch helpu gyda heriau allweddol gan gynnwys adeiladu eich tîm rheoli a'ch bwrdd, llywodraethu a strategaeth creu gwerth.

Rhwydwaith helaeth

Rydym yn darparu cyfleoedd cyd-fuddsoddi trwy ein rhwydwaith mawr o angylion, syndicetiau, VCs a buddsoddwyr masnach. Hefyd cysylltiadau allweddol â'r byd academaidd, gwasanaethau proffesiynol ac fel partner buddsoddi Innovate UK.

Profiad dibynadwy

Buddsoddwr blaenllaw yn y DU gyda dros ddegawd o brofiad technoleg a hanes cryf gyda chwmnïau newydd, cwmnïau deillio a busnesau technoleg cyfnod cynnar ar draws sawl sector.

Beth allwn ni ei gynnig?

Gallwn gynnig cyllid ecwiti i fusnesau Cymru o gyfnod cyn-hadu i Gyfres A, gan gynnwys:

  • Cyllid cychwynnol i gefnogi'r lansiad
  • Ecwiti i ariannu costau ymchwil a datblygu cyn refeniw
  • Cyd-fuddsoddiad gan gwmnïau Cyfalaf Mentrau, syndicetiau, angylion ac unigolion â gwerth net uchel
  • Cysylltiadau profiadol i gryfhau timau rheoli a'r bwrdd
  • Benthyciadau a phecynnau ecwiti i ariannu camau diweddarach ymchwil a datblygu
  • Buddsoddiad dilynol i helpu i gyrraedd cerrig milltir allweddol
  • Diwydrwydd dyladwy proffesiynol sy'n eich paratoi ar gyfer rowndiau buddsoddi yn y dyfodol
  • Cewch fynediad yma at ein tîm buddsoddi arbenigol a all eich cefnogi a’ch arwain drwy gydol y broses


I ddarganfod ble mae eich busnes ar y raddfa o fusnesau sydd wedi dechrau o’r newydd, a sut y gallwn ni eich helpu chi, gallwch glicio ar bob un o'r camau drwy'r bariau isod i gael rhagor o wybodaeth.

 

Taith fuddsoddi wedi'i chefnogi

Cyfnod y buddsoddiad
Arian rydyn ni'n ei fuddsoddi
Mae’r cam cyn-sbarduno fel arfer yn cynnwys busnesau cynnar iawn, sydd â phrototeip neu gyflwyniad cynnar, neu sydd angen dilysu technegol. Mae buddsoddiad sbarduno i gefnogi datblygiad ac adeiladu ar eich cynnyrch hyfyw lleiaf (CLlH) ac ymchwil a datblygu i alluogi cynnyrch i fod yn addas i'r farchnad a thyniant cynnar.
Mae cyllid Cyfres A i gyflymu eich twf ac fel arfer dyma'r rownd gyntaf o gyllid cyfalaf menter y byddai busnes yn ei gymryd.


Cyllid sbarduno
Cyfalaf menter
Cyllid sbarduno
Cyfalaf menter

Mathau o fuddsoddiad

Mae cyllid sbarduno yn fath o gyllid ecwiti a ddefnyddir gan gwmnïau yn eu camau cynnar iawn i'w helpu i fasnacheiddio eu cynhyrchion neu dechnolegau a'u dwyn i'r farchnad.

Am ragor o wybodaeth am gyllid sbarduno, cliciwch yma.

Mae cyfalaf menter (CM) yn fath o gyllid ecwiti lle mae cyfalaf yn cael ei fuddsoddi yn gyfnewid am ecwiti, fel arfer cyfran leiafrifol, mewn cwmni sy'n edrych yn barod am dwf sylweddol. Gelwir person sy'n gwneud y buddsoddiadau hyn yn gyfalafwr menter.

Yn dechnegol, mae cyfalaf menter yn fath o ecwiti preifat. Ond fel arfer defnyddir y term 'ecwiti preifat' i olygu buddsoddiadau a wneir mewn busnesau mwy aeddfed gan gwmnïau EP.

Am ragor o wybodaeth am gyfalaf menter, cliciwch yma.

Ochr yn ochr â'n cyllid ni, mae gennym hefyd rwydwaith o fuddsoddwyr angel o'r enw Angylion Buddsoddi Cymru a all helpu busnesau i ddod o hyd i'r buddsoddiad ariannol sydd ei angen ar gyfer twf. Yn ogystal â buddsoddiad, gall ein hangylion busnes ychwanegu gwerth at eu buddsoddiadau trwy ddarparu sgiliau a chysylltiadau sy'n deillio o flynyddoedd o brofiad.

Mae rhagor o wybodaeth am Angylion Buddsoddi Cymru ar gael yma.

 

Sut allwn ni helpu eich busnes?

Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod i gael gwybod mwy am sut y gallwn eich helpu.

Cyllid sbarduno

Rydym yn cynnig cyllid sbarduno trwy fuddsoddiadau ecwiti i gwmnïau technoleg newydd sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

Dysgwch fwy

Cyfalaf menter

Gallwn ddarparu benthyciadau a buddsoddiad ecwiti i fusnesau technoleg Cymru sydd wedi hen ennill eu plwyf.

Dysgwch fwy

Sylfaen gwybodaeth busnes technoleg newydd

Mae gennym dîm buddsoddiadau menter technoleg pwrpasol (BMT) sy'n chwilio i fuddsoddi mewn busnesau technoleg newydd sy'n dechrau yng Nghymru.

Cwrdd â'r tîm

 

Llywio’r dirwedd fuddsoddi fel cwmni newydd ym maes technoleg fod yn her fawr i ddarpar mentergarwyr. I fuddsoddwyr, mae gwerthuso busnesau newydd yn aml yn cael ei ystyried yn fwy o gelfyddyd na gwyddoniaeth bur. Darllenwch ein canllaw ar gyfer 15 o bethau y mae buddsoddwyr yn eu hystyried wrth asesu busnes technoleg sy’n dechrau o’r newydd.

 

Mae ein canllaw cyflwyno cynigion i fuddsoddwyr yn cwmpasu'r tri phrif beth i'w hystyried cyn i chi gynnig: cyflwyno'ch hun, cyflwyno'ch cynnyrch a'r ymchwil y bydd angen i chi ei wneud ymlaen llaw.

Gall cynllun busnes sydd wedi'i ymchwilio'n dda helpu i ddiogelu rhag rhedeg allan o arian parod, peidio â chael y tîm cywir yn ei le a marchnata gwael, sydd i gyd yn ymddangos yn y 10 prif reswm y mae busnesau newydd yn methu. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw pam fod angen cynlluniau busnes o hyd.

 

Mae cyflwyniad cynnig yn arf hanfodol pan fyddwch chi'n codi arian ar gyfer eich busnes newydd.

Yn ei hanfod, mae’n gyflwyniad byr lle rydych chi'n darparu trosolwg o'ch cwmni i fuddsoddwyr, ac, os caiff ei wneud yn dda, bydd yn ennyn eu diddordeb, yn ysgogi sgwrs, ac yn eich gosod ar y llwybr i ennill buddsoddiad ar gyfer eich busnes.

Yn ein canllaw, sy'n cynnwys fideo, rydyn ni'n rhoi rhai awgrymiadau allweddol ac yn dadansoddi'r gwahanol gydrannau o greu cyflwyniad cynnig.

Gall fod yn anodd darganfod faint yw gwerth cwmni, yn enwedig os ydych chi'n fusnes cychwynnol heb fawr ddim data hanesyddol i feincnodi yn ei erbyn. Er nad oes un fformiwla i gyfrifo prisiad, mae'n bosibl pennu gwerth sy'n gwneud synnwyr i chi ac sy'n rhesymol i fuddsoddwyr.

Cymerwch gip ar ein canllaw i roi gwerth ar fusnes technoleg sydd wedi dechrau o’r newydd i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Eiddo Deallusol (ED) yn cyfeirio at greadigaethau'r meddwl, sy'n cynnwys meddwl, creadigrwydd ac ymdrech ddeallusol. Unwaith y caiff ei greu, nid yw perchnogaeth eiddo deallusol fawr yn wahanol i fod yn berchen ar fathau eraill o eiddo mwy diriaethol, yn yr ystyr y gellir ei brynu neu ei werthu neu hyd yn oed ei ddefnyddio fel gwarant yn erbyn dyled.

Mae Hawliau Eiddo Deallusol (HEDau) megis patentau, nodau masnach a hawlfraint yn bodoli i’ch galluogi i ddatgan a diogelu eich perchnogaeth o’r eiddo hwnnw. Maent hefyd yn darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer cymryd camau yn erbyn rhywun arall sy'n ymyrryd ar eich HEDau drwy eu dwyn neu eu camddefnyddio.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw eiddo deallusol ar gyfer busnesau newydd ym maes technoleg.