Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Sole Mate

Aled-Robertson
Swyddog Portffolio

Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Chanolfan Fenter Merthyr Tudful. Dydy hi ddim yn hawdd dechrau eich busnes eich hun, ond maen nhw wir wedi gwneud eu gorau glas i wneud yn siŵr ein bod ni’n barod ac yn cael y dechrau gorau posibl.

Paul Thomas, Cyfarwyddwr, Sole Mate

Trosolwg o’r Busnes

Mae Sole Mate yn siop nwyddau rhedeg annibynnol ac arbenigol. Sefydlwyd y busnes arobryn ym mis Mawrth 2023, ar stryd fawr Pontmorlais ym Merthyr Tudful.

Sylfaenydd

Sole-Mate

 

Paul Thomas - Yn ogystal â rhedeg ei fusnes ei hun, Paul ar hyn o bryd yw arweinydd y Grŵp Rhedeg Cymdeithasol sy’n rhedeg o’r siop bob dydd Mawrth. Mae hefyd yn rhedwr brwd ei hun sy’n rhedeg pellteroedd marathon a mwy. 

Pwrpas y Busnes

Sole-Mate

 

Mae Sole Mate yn cynnig cynnyrch arbenigol ar gyfer y sector rhedeg ac athletau, gan gynnwys esgidiau ar gyfer ffyrdd a llwybrau, dillad, offer ac ategolion. Mae cefnogaeth ar gael hefyd i redwyr sydd â thraed fflat, fferau gwan neu sy'n dioddef o lid y ffasgell wadnol.

Daeth Sole Mate i'r brig fel y manwerthwr chwaraeon annibynnol yng Ngwobrau Manwerthu Annibynnol Cymru 2024, ac mae hefyd wedi cael ei enwebu yng Ngwobrau Busnesau Newydd y DU yn y categori Manwerthu ac E-fasnach ar gyfer 2025.

Sefydlwyd y busnes i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fanteisio ar fuddion bod yn actif a rhedeg ar eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.

Yn unol â naws y siop, ac yntau wedi bod yn rhan o sawl clwb rhedeg hefyd, mae Paul yn hysbysebu digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio, Rhedeg a Chynllun Soffa i 5k i gwsmeriaid. Dyma lle gall pobl sydd angen cwmni, neu a fyddai’n hoffi cwrdd â phobl eraill sy’n dioddef o Iechyd Meddwl gwael, i gyd ddod at ei gilydd.

Hefyd, mae gan Sole Mate gronfa gymunedol lle mae arian yn cael ei roi’n garedig gan gwsmeriaid wrth y til. Mae arian hefyd yn cael ei godi gan gwsmeriaid sy’n gwneud heriau gwallgof. Mae’r cronfeydd hyn wedi cael eu defnyddio i ariannu sesiynau therapi iechyd meddwl, ariannu cynlluniau fel “Ysgol Awyr Agored” i gael mwy o bobl i ymddiddori ym myd natur, a hefyd i helpu i ddarparu dillad i blant mewn angen.

Cyllid

Sole-Mate

 

Llwyddodd Paul Thomas i baratoi am ail flwyddyn lwyddiannus mewn busnes gyda chymorth dau ficro-fenthyciad ar wahân gan Fanc Datblygu Cymru. 

Roedd benthyciad cychwynnol o £50,000 gan y Banc Datblygu wedi helpu i ariannu’r gwaith o osod a phrynu’r stoc gychwynnol. Yna defnyddiwyd ail fuddsoddiad o £25,000 i ehangu arwynebedd y llawr gydag ystod ehangach o stoc, gan gynnwys Adidas.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Roeddwn i’n gweithio ym maes TG am 20 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd rhedeg a bod yn actif yn achubiaeth i’m hiechyd meddwl. Nawr, rwyf eisiau helpu cynifer o bobl â phosibl i elwa ar yr un manteision drwy gael gwared ar rwystrau rhag rhedeg. Dyna pam nad dim ond gwerthu esgidiau a dillad rhedeg rydyn ni’n ei wneud; rydyn ni’n rhoi cyngor ar bob agwedd ar hyfforddiant a chyfarpar. 

Mae gennym ni hefyd ein clwb rhedeg cymdeithasol ein hunain, ac mae gennym Gronfa Gymunedol sy’n codi arian i helpu pobl ar eu taith redeg gyda hyfforddiant a therapi pan fo angen.

Ond fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Chanolfan Fenter Merthyr Tudful. Dydy hi ddim yn hawdd dechrau eich busnes eich hun, ond maen nhw wir wedi gwneud eu gorau glas i wneud yn siŵr ein bod ni’n barod ac yn cael y dechrau gorau posibl. Alla’ i ddim diolch digon iddyn nhw.

Paul Thomas, Cyfarwyddwr, Sole Mate

Mae Paul wedi troi ei gariad at redeg yn fusnes llwyddiannus sy’n cefnogi pobl o bob oed i fwynhau ffordd hapusach ac iachach o fyw. Mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael yn y gymuned leol.

Aled Robertson, Swyddog Gweithredol Portffolio, Banc Datblygu Cymru