Dewis Cydlynydd Ôl-osod – Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Iwan-Berry
Swyddog y Wasg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynaliadwyedd
Retrofitting solar panels on a house roof

Ydych chi'n berchennog tŷ sy'n bwriadu uwchraddio eich cartref? Rydym yn rhedeg cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, sy'n helpu perchnogion tai yng Nghymru i wella eu cartrefi gyda mesurau uwchraddio effeithlonrwydd ynni, gan leihau carbon ac arwain at filiau ynni is yn y tymor hir.

Mae'r gair "ôl-osod" yn cael ei grybwyll yn aml pan fyddwn yn trafod y cynllun. Sydd wedyn yn arwain at y cwestiwn - beth yw ôl-osod? A beth yw "cydlynydd ôl-osod"?

Er ei fod yn swnio'n gymhleth, mae ôl-osod yn golygu ychwanegu rhywbeth at adeilad nad oedd yn cael ei ystyried yn angenrheidiol, neu nad oedd ar gael, ar yr adeg y cafodd ei adeiladu. Felly mae'n codi llawer pan fyddwn yn siarad am uwchraddio a gwelliannau ynni, oherwydd nid oedd llawer o'r gwelliannau hynny yn rhywbeth cyffredin pan adeiladwyd cyfran fawr o gartrefi yng Nghymru.

Mae rhai ohonyn nhw - fel pympiau gwres ffynhonnell aer, pympiau gwres ffynhonnell daear, paneli solar / heulol, inswleiddio / ynysu waliau allanol a systemau ynni cartrefi clyfar - wedi bod ar gael ar lefel defnyddwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig.

Gan fod llawer o hyn yn eithaf newydd ac o bosibl yn gymhleth, mae'n well ceisio cyngor cydlynydd ôl-osod wrth edrych ar wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'ch cartref.

Beth yw cydlynydd ôl-osod?

Mae cydlynwyr ôl-osod yn weithwyr proffesiynol cymwys sy'n edrych ar allbwn ynni cyfan eich eiddo – ychydig yn debyg i syrfëwr wedi'i groesi â rheolwr prosiect, ond gydag arbenigedd penodol ar ddefnydd ynni, ynghyd â materion mwy fel cynllunio, cydymffurfio a sicrhau ansawdd.

Gallant edrych ar sut mae eich cartref yn defnyddio ynni ar hyn o bryd, ble gallai fod gwastraff ynni yn digwydd neu lle gallai gwelliannau gael eu gweithredu o bosib, a gwneud argymhellion.

A thrwy gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, gall perchnogion tai gael cyngor arbenigol gan gydlynydd ôl-osod i helpu i benderfynu pa fath o dechnolegau newydd fyddai'n gweithio orau i'w cartrefi. Nid dim ond gwneud asesiadau maen nhw yn unig. Ar ôl edrych ar eich cartref, byddant yn datblygu cynllun gwella wedi'i deilwra yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar eich cartref, a'r hyn rydych chi am ei wneud. Byddant yn sicrhau bod yr argymhellion a gyflwynir ganddynt yn gadarn, yn gost-effeithiol ac yn unol â safonau. A byddant yn helpu i gynllunio'r gwaith fel bod popeth yn gweithio yn y drefn gywir.

Dewis eich cydlynydd ôl-osod

Yr un fath ag y buasech unrhyw adeg arall wrth i chi chwilio am weithiwr proffesiynol i weithio ar eich cartref, mae hi wastad yn werth gwirio'r cydlynwyr ôl-osod yn eich ardal chi. Os oes ganddyn nhw astudiaethau achos neu eirdaon cryf, mae hynny'n arwydd da. Bydd angen iddyn nhw hefyd fod wedi cofrestru â Marc Ansawdd TrustMark ac yn cydymffurfio â PAS 2035 i gyflawni gwaith o dan y cynllun, ynghyd â dal achrediad masnach Cydlynu Ôl-osod.

Yn ogystal â rhywun sy'n deall y jargon a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag ôl-osod cartrefi, bydd angen iddyn nhw hefyd allu eich helpu i gymharu dyfynbrisiau a phwyso a mesur eich opsiynau o ran cael y gwaith wedi'i wneud - yn ogystal â blaenoriaethu'r mesurau uwchraddio  hynny sy'n fwy cost-effeithiol ac y gellir eu hariannu.

Bydd angen iddyn nhw hefyd gael gwybodaeth ymarferol dda am gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru a'i feini prawf, oherwydd bydd hynny'n golygu y gallant dargedu'r cynllun at y gwelliannau sydd eu hangen arnoch chi.

A bydd angen iddyn nhw fod yn rhan o'r gwaith gosod a gweithio ar eich cartref, yn barod i roi cyngor ar unrhyw adeg. 

Gweithio gyda chydlynydd ôl-osod – Cwestiynau Cyffredin 

A fydd y cynllun yn helpu gyda chostau asesu?

Yn ogystal â darparu cefnogaeth benthyciad ar gyfer y gwaith, mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ariannu'r asesiad cychwynnol hyd at werth o £600.

A fyddaf yn cael fy rhoi dan bwysau i uwchraddio?

Bydd y cydlynydd ôl-osod yn argymell gwelliannau, ond ni fyddwch o dan unrhyw bwysau i wneud unrhyw beth. Chi, fel perchennog y tŷ, fydd bob amser yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol ynghylch a fyddwch chi'n bwrw ymlaen ag unrhyw waith ai peidio .

Beth os ydw i'n byw mewn eiddo hŷn?

Bydd eich cydlynydd ôl-osod yn gallu awgrymu gwelliannau yn seiliedig ar fanylion eich cartref, ac wedi'u teilwra i'w anghenion. Ni fydd ganddyn nhw ddull gweithredu cyffredinol, fel un maint sy’n gweithio i bawb wth gwrs.

Sut gall cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru helpu

Mae cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru yno i edrych ar bob llwybr posibl i helpu i wneud y cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Er enghraifft, efallai na fydd rhai cartrefi yn gweld eu hallbwn ynni'n gwella dim ond trwy osod paneli solar / heulol – efallai y bydd angen i alluoedd casglu ynni’r paneli solar / heulol hynny gael eu rheoli trwy gyfrwng dull clyfar ac yn gweithio ochr yn ochr â system ynni newydd.

Os ydych chi'n bwriadu cymryd y camau nesaf, gweithio gyda chydlynydd ôl-osod a lleihau biliau ynni eich cartref, ewch i weld beth all cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru ei wneud i chi drwy ymweld â'n tudalen we: Cartrefi Gwyrdd Cymru