Laser Wire Solutions

Mark-Halliday
Uwch Swyddog Portffolio

Os ydych chi’n fusnes Cymreig sydd ag uchelgeisiau byd-eang, peidiwch ag edrych tuag y Banc Datblygu am gyllid yn unig—edrychwch am arweiniad ganddynt. Fe wnaeth eu harbenigedd mewn allforio, eu cysylltiadau a’u cefnogaeth ymarferol ein helpu i dyfu’n hyderus i farchnadoedd newydd gan gadw ein gwreiddiau yn Ne Cymru.

Dr. Paul Taylor, Prif Weithredwr a Sylfaenydd, Laser Wire Solutions

Y busnes

Wedi'i sefydlu gan Dr. Paul Taylor yn 2011, mae Laser Wire Solutions yn gwmni gweithgynhyrchu manwl gywir wedi'i leoli yn y QED Centre yn Ne Cymru. 

Mae'r busnes yn dylunio ac yn adeiladu peiriannau prosesu laser perchnogol ar gyfer cymwysiadau hollbwysig yn y sectorau meddygol, awyrofod, modurol a chanolfannau data. Mae'r holl offer wedi'i ddylunio a'i gynhyrchu'n fewnol, gan arddangos rhagoriaeth peirianneg Cymru ar lwyfan byd-eang.

Yr her

Nod Laser Wire Solutions oedd gwasanaethu diwydiannau mwyaf heriol y byd—lle nad oes modd trafod cywirdeb, dibynadwyedd a chydymffurfiaeth. O gathetrau â gwifrau teneuach na gwallt dynol i gydrannau awyrofod a seilwaith data, roedd angen y canlynol ar y cwmni:

  • Cyfalaf i ddatblygu technoleg berchnogol
  • Peiriannau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar gyfer cynhyrchu manyleb uchel
  • Cymorth wrth lywio rheoliadau rhyngwladol cymhleth

Roedd torri i mewn i'r marchnadoedd byd-eang rheoleiddiedig hyn yn gofyn am fwy na chyllid—roedd yn galw am bartner strategol a oedd yn deall twf diwydiannol hirdymor.

Y datrysiad

 

Daeth Banc Datblygu Cymru i’r fei fel y partner hwnnw i'r cwmni. Galluogodd eu buddsoddiad Laser Wire Solutions i:

  • Gynyddu graddfa eu gweithrediadau gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn Ne  Cymru
  • Datblygu technolegau prosesu laser safon uwch
  • Adeiladu peiriannau pwrpasol wedi'u teilwra i anghenion y diwydiant byd-eang

Y tu hwnt i gyllid, helpodd proses diwydrwydd dyladwy'r Banc Datblygu i ddenu cyd-fuddsoddiad ac adeiladu ymddiriedaeth gyda chwsmeriaid rhyngwladol. Trwy ei rwydwaith, hwylusodd y Banc Datblygu gysylltiadau strategol hefyd a darparodd gefnogaeth barhaus ar gyfer datblygu'r farchnad ryngwladol.

Yr effaith

Mae Laser Wire Solutions wedi tyfu i fod yn fusnes byd-eang gyda bron i 60 o weithwyr—y rhan fwyaf wedi'u lleoli yn Ne Cymru, gydag aelodau tîm yn yr Unol Daleithiau, Mecsico, a Costa Rica. Rhwng 2022 a 2024, cynyddodd y trosiant 67%, gan gyrraedd dros £10 miliwn.

Uchafbwyntiau twf allweddol:

  • Refeniw o £10M+ (2024)
  • 90%+ o allforion i UDA, Mecsico, a Costa Rica
  • Twf refeniw o 67% mewn dwy flynedd
  • Cyfleuster 40,000 troedfedd sgwâr yn y QED Centre

Uchafbwyntiau arloesedd a chefnogaeth:

  • Ariannodd grant SMART Cymru Ficrosgop Sganio Electron ar gyfer contractau meddygol
  • Grant hyfforddi Sgiliau Hyblyg (2023–2025)
  • Cyllid arloesi Cymorth Arloesi Hyblyg Smart /CAHS (o 2024 ymlaen)
  • Partneriaethau strategol gyda Schleuniger a Komax

Cydnabyddiaeth:

 

  • Gwobrau Twf Cyflym lluosog
  • Ymhlith Cwmnïau sy'n Tyfu Gyflymaf yn Ewrop y Financial Times
  • Derbynnydd Gwobr y Frenhines
  • Ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Brenin am Fasnach Ryngwladol (2026)

Beth mae'r sylfaenydd yn ei ddweud

 

Os ydych chi’n fusnes Cymreig sydd ag uchelgeisiau byd-eang, peidiwch ag edrych tuag y Banc Datblygu am gyllid yn unig—edrychwch am arweiniad ganddynt. Fe wnaeth eu harbenigedd mewn allforio, eu cysylltiadau a’u cefnogaeth ymarferol ein helpu i dyfu’n hyderus i farchnadoedd newydd gan gadw ein gwreiddiau yn Ne Cymru.

Dr. Paul Taylor, Prif Weithredwr a Sylfaenydd, Laser Wire Solutions

Edrych tua’r dyfodol

Mae Laser Wire Solutions yn parhau i arloesi o'i ganolfan yn Ne Cymru, gan ehangu ei ôl troed mewn marchnadoedd byd-eang ac aros yn driw i'w wreiddiau Cymreig ar yr un pryd. Gyda chefnogaeth barhaus gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r cwmni mewn sefyllfa dda i arwain mewn gweithgynhyrchu hollbwysig ar draws sawl sector.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni