Medical Connections sy'n seiliedig yn Abertawe yn cwblhau all-bryniant rheolwyr

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
medical connections

Mae Medical Connections Limited o Abertawe wedi llwyddo i gwblhau all-bryniant gan y rheolwyr.

Sefydlwyd y cwmni pecyn cymorth meddalwedd delweddu meddygol hwn gan y diweddar Doctor David Harvey ym 1998. Fel radiolegydd ymgynghorol, roedd yn angerddol o blaid datblygu Technoleg Gwybodaeth (TG) gofal iechyd i ddarparu gwell gofal i gleifion. Mae'r cwmni'n ddarparwr pecyn cymorth delweddu meddygol sydd wedi'i hen sefydlu ac mae wedi'i gydnabod fel arweinydd byd-eang wrth hwyluso datblygiad systemau TG gofal iechyd i hyrwyddo rhyng-driniaethau.

Wedi'i ariannu gan Fanc Datblygu Cymru, arweiniwyd yr all-bryniant gan y rheolwyr gan Philippa Webb (y Cyfarwyddwr Gweithrediadau) Qian Wang (y Cyfarwyddwr Technegol) a Rapten Bhutia (y Cyfarwyddwr Datblygu) fel perchnogion newydd.

Dywedodd Philippa Webb: “Fel tîm, rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda’r Doctor David Harvey a datblygu busnes mor llwyddiannus”.

“Mae sicrhau’r pecyn cyllido cywir wedi ein galluogi i strwythuro bargen all-brynu sy’n iawn i bawb dan sylw heb yr angen i ystyried gwerthiant i chwaraewr byd-eang. Yn holl bwysig, mae gennym hefyd y budd o gael cefnogaeth barhaus y tîm ym Manc Datblygu Cymru; mae eu profiad o helpu timau rheoli a'u hymrwymiad i ddod i ddeall ein busnes  wirioneddol wedi bod yn galonogol iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth a'u cyngor parhaus wrth i ni ganolbwyntio ar symud y busnes yn ei flaen."

Meddai Alun Thomas, Rheolwr Rhanbarthol Banc Datblygu Cymru: “Mae Medical Connections ar flaen y gad o ran trosglwyddo data meddygol ac mae ganddo gyrhaeddiad byd-eang o’r fan hyn yn Abertawe.

“Fel darparwr meddalwedd sefydledig ac uchel ei barch ar gyfer y sector gofal iechyd, mae'r tîm yn elwa o bortffolio o dros 200 o gwsmeriaid ffyddlon ac mae'n canolbwyntio'n llwyr ar lwyddiant parhaus fel arbenigwr dibynadwy a phartner yn y maes arbenigol hwn o TG gofal iechyd. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Cefnogwyd Medical Connections Limited gan Gyfreithwyr John Morse a Chyfrifwyr Carr, Jenkins & Hood ynghyd â Cosgrove Brown Financial Planning.

Daeth yr arian o Gronfa Busnes Cymru sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan yr ERDF trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud i Gymru.

Be' nesaf?

Mewn llai na phum munud, gallwch wirio a yw eich busnes yn gymwys neu os ydych chi'n credu bod eich busnes yn gymwys, gallwch ddechrau eich cais ar-lein nawr. 

Siaradwch â'n tîm Ymgeisio nawr