Sut i ariannu eich busnes: canllaw i’r opsiynau ariannu

Portrait of Sophie Perry
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Ariannu
funding options

Os ydych wrthi’n dechrau busnes, yn y cyfnod cynnar neu’n fusnes wedi ei sefydlu ers peth amser, mae nifer cynyddol o opsiynau ariannu allanol ar gael i chi gychwyn neu dyfu. Yn ôl Arolwg Cyllid Busnes 2017, mae BBaCh nawr yn edrych o gwmpas pan fyddant eisiau codi arian, gyda nifer llai yn ystyried dim ond un darparwr ac yn holi’r ‘pedwar banc mawr’ yn unig.

Bydd penderfynu ar ffynhonnell arian yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau eich busnes chi. Dyma rai ffactorau i’w cadw mewn cof:

  • Faint fydd y cyllid yn ei gostio? Mae hyn yn cynnwys llogau, ffïoedd trefnu a chostau parhaus. Os ydych yn cymryd benthyciad, beth yw’r telerau ad-dalu?
  • Ai dim ond arian sydd ei angen arnoch? Neu a fuasech hefyd yn elwa o arbenigrwydd buddsoddwr?
  • Faint o arian sydd ei angen arnoch? A fydd y cyllid yn ddigon ar gyfer cost llawn prosiect neu dim ond rhan ohono? A fuasech yn medru ei gyfuno gyda chyllid o ffynhonellau eraill?
  • Beth yw’r amodau a’r telerau? A fyddai cyfyngiadau ar gael cyllid gan ddarparwyr eraill?
  • Faint mor fuan ydych chi angen yr arian? Mae gan rai dulliau ariannu broses gwneud cais hwy nag eraill.

 

I helpu, rydym wedi crynhoi rhai o’r opsiynau ariannu cyffredin isod a phryd y gallech ystyried eu defnyddio. Mae’r rhan fwyaf yn syrthio i un o ddau gategori: benthyciadau neu gyllid ecwiti. Mae benthyciadau yn golygu benthyg arian i’w ad-dalu gyda llog, ac mae ecwiti yn golygu codi arian trwy werthu cyfranddaliadau yn y busnes.

Cyllid banc

Mae banciau’r stryd fawr yn cynnig nifer o opsiynau benthyca, gan gynnwys:

  • Benthyciad banc

Fel gyda’r rhan fwyaf o fenthyciadau, mae eich busnes yn benthyg swm o arian ac yn ei ad-dalu gyda llog. Gall benthyciad fod yn un wedi ei ddiogelu, sy’n golygu eich bod yn rhoi ased fel gwarant gyfochrog (er enghraifft, eiddo neu beiriannau), neu heb ei ddiogelu, sy’n caniatáu i chi fenthyg heb ddefnyddio asedau. Gan fod benthyciad diogel yn golygu llai o risg i’r banc, mae cyfraddau llog yn nodweddiadol is nag ar gyfer benthyciadau heb eu diogelu, ac fel rheol medrwch fenthyg mwy.

  • Cyllid anfoneb

Mae cyllid anfoneb yn ffordd o ryddhau arian sydd wedi ei glymu mewn anfonebau heb eu talu. Yn hytrach nag aros i’r cwsmer dalu, rydych yn cael yr arian a thalu canran o swm yr anfoneb i’r benthycwr. Gall hon fod yn ffordd effeithiol o wella llif arian, gan eich galluogi i dalu staff a chyflenwyr ac ailfuddsoddi’r arian i dyfu eich busnes.

  • Gorddrafft busnes

Mae gorffdrafft busnes yn gyfleustra benthyca sy’n caniatáu i chi ddefnyddio arian ychwanegol y tu allan i’ch balans banc hyd at swm a gytunwyd. Mae cyfraddau llog yn cael eu codi ar y swm hwn a bydd fel rheol ychydig yn uwch na’r hyn y buasech yn ei dalu gyda benthyciad busnes safonol. Mae gorddrafft fel rheol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofynion ariannu byrdymor, er enghraifft i ddelio gydag amrywiadau mewn llif arian neu i dalu costau nas rhagwelwyd.

Cyllid asedau

Os ydych angen offer neu beiriannau newydd, mae cyllid asedau yn caniatáu i chi ledaenu’r gost ac osgoi problemau llif arian. Medrwch naill ai rentu’r ased dros gyfnod amser a gytunwyd (prydlesu), neu medrwch ddewis prynu a bod yn berchen ar yr ased (hur bwrcas). Mae’r ddau opsiwn yn golygu taliadau rheolaidd, fel rheol ar gyfradd llog sefydlog. Bydd hur bwrcas fel rheol yn gofyn am ffi ar ddiwedd cyfnod y brydles er mwyn cael meddiant o’r ased.

Cyllido torfol a benthyca cymheiriad i gymheiriad

Mae cyllido torfol yn golygu cyflwyno eich syniad busnes neu brosiect ar wefan cyllido torfol er mwyn codi symiau bach o arian gan nifer fawr o bobl. Gall unigolion neu sefydliadau fuddsoddi yn gyfnewid am gyfranddaliadau yn y busnes (cyllido torfol ecwiti) neu i gael gwobr rydych yn ei diffinio (cyllid torfol seiliedig ar wobr). Mae benthyca cymheiriad i gymheiriad yn debyg iawn i gyllido torfol ond yn seiliedig ar ddyled, sy’n golygu eich bod yn ad-dalu eich buddsoddwyr gyda llog ychwanegol. Mae’r benthyca fel rheol heb ei ddiogelu, a bydd cyfraddau llog yn dibynnu ar eich sgôr credyd. Gall cyllido torfol felly fod yn opsiwn mwy addas i’ch busnes os ydych newydd gychwyn a/neu os ystyrir eich bod yn risg uwch.

Angylion buddsoddi

Os nad ydych eisiau cymryd benthyciad, gallai cyllid ecwiti fod yn well ffordd o godi cyfalaf. Mae angylion buddsoddi yn un math o gyllid ecwiti, lle mae buddsoddwyr yn defnyddio eu cyllid personol eu hunain i fuddsoddi yn nhwf eich busnes newydd neu fusnes sydd yn y cyfnod cynnar. Mae hyn fel rheol yn gyfnewid am gyfranddaliadau (nawdd ecwiti) yn y busnes. Gall angylion buddsoddi fod yn uniolion gyda gwerth net uchel neu’n grŵp o fuddsoddwyr sy’n cronni eu hadnoddau. Yn ychwanegol at y cyllid, medrent ddarparu profiad a chysylltiadau gwerthfawr. Mae’r swm a fuddsoddir yn unrhyw beth rhwng £10,000 a £500,000, ond gall fod yn fwy os bydd mwy nag un o angylion yn dod at ei gilydd.  

Cyfalaf menter ac ecwiti preifat

Mae ffynonellau eraill cyllid ecwiti yn cynnwys cyfalaf menter a chwmnïau ecwiti preifat. Mae’r rhain yn buddsoddi mewn busnesau, yn helpu i gyflymu eu twf ac yn ddiweddarach yn gwneud arian allan o werthu eu cyfranddaliadau yn y cwmni. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw bod cwmnïau ecwiti preifat yn tueddu i fuddsoddi mewn busnesau mwy sefydledig, tra bo cwmnïau cyfalaf menter fel rheol yn buddsoddi mewn busnesau newydd gyda photensial mawr i dyfu.

Grantiau’r llywodraeth

Mae grantiau yn symiau o arian nad oes angen eu had-dalu a roddir i’ch busnes gan y llywodraeth, fel rheol i ariannu prosiect penodol yn hytrach nag ariannu gweithgareddau busnes cyffredinol. Mae llawer o grantiau wedi eu hanelu at sectorau penodol, neu’n hyrwyddo twf economaidd mewn rhanbarthau penodol. Mae grant fel rheol yn talu dim ond rhan o gyfanswm costau prosiect, ac efallai y bydd disgwyl i chi ddarparu cyllid cyfatebol. Ar gyfer grantiau busnes yng Nghymru, ewch i Busnes Cymru.

Ffrindiau a theulu

Un o’r ffynonellau mwyaf cyffredin o gyllid i fusnesau newydd yw ffrindiau a theulu, boed ar ffurf rhodd, benthyciad neu fuddsoddiad ecwiti. Mae’r cyllid a ddarperir gan eich rhwydwaith personol yn debygol o fod yn gymharol hyblyg, a gall fod yn ateb da i’ch helpu i ddechrau eich busnes. Mae’n bwysig ei drin fel trefniant ariannol ffurfiol, sy’n cynnwys cyflwyno cynllun busnes, cael cyngor proffesiynol a llunio cytundeb ysgrifenedig.

Banciau datblygu

Banc Datblygu Cymru yw’r unig un o’i fath yn y DU ac mae’n adnawdd unigryw i Gymru. Rydym yn darparu benthyciadau a buddsoddiad ecwiti ar gyfer busnesau Cymru hyd at £5 miliwn, a medrwn fenthyca neu fuddsoddi gyda’r mathau eraill o ddarparwyr cyllid a grybwyllwyd uchod (banciau, cyllido torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill). Rydym hefyd yn rheoli Angylion Buddsoddi Cymru, y rhwydwaith mwyaf o angylion buddsoddi yng Nghymru.