Avantis Marine

Tom-Rook
Uwch Swyddog Portffolio

Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru a HSBC UK am eu cefnogaeth i wireddu’r trafodiad hwn.

Tom David, Prif Weithredwr

Trosolwg cwmni

Wedi’i sefydlu yn 2019, mae Avantis Marine yn arbenigwr byd-eang ym maes peirianneg forol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn arbenigo mewn perfformiad amgylcheddol a thechnolegau glân ar gyfer y marchnadoedd cludo, olew, nwy a chludiant teithwyr. Maent yn darparu seilwaith i fusnesau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon.

Tîm rheoli

Management Team

Tom David, Prif Weithredwr - Wedi'i benodi'n 30 oed, mae Tom yn cael ei gefnogi gan y Cadeirydd Chris David, y Prif Swyddog Gweithredu Jack Jenkins a'r Prif Swyddog Masnachol Leon Solder.

Pwrpas busnes

Gweledigaeth Avantis Marine yw bod y cyfrannwr byd-eang mwyaf blaenllaw at beirianneg glyfar ac amgylcheddol. Mae Avantis yn darparu gwasanaethau rhyngwladol o ansawdd uchel fel integreiddiwr technoleg lân, megis eu Systemau Glanhau Nwy Gwacáu, Systemau Trin Dŵr Balast, Technoleg Sylffwr Isel a mentrau “gwyrdd” eraill, gan ganiatáu i fusnesau ledled y byd gydymffurfio â charbon yn hawdd.

Maent yn cefnogi cleientiaid presennol a newydd, ledled y byd, trwy'r broses heriol o integreiddio technoleg werdd. Mae eu tîm o arbenigwyr yn darparu datrysiadau technolegol uwch i fusnesau sydd am ddod yn ynni-effeithlon - yn enwedig wrth wneud gwelliannau i dechnoleg lân newydd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac ail-lunio asedau cyfredol i gael effaith wyrddach a mwy effeithlon.

Ariannu

Avantis Marine & Development Bank

Helpodd ein buddsoddiad a’n benthyciad ecwiti i’r tîm rheoli gwblhau allbryniant rheolwyr gan sicrhau y byddai’r busnes yn cael ei reoli’n ganolog a rhoi rheolaeth iddynt dros weithrediadau dydd i ddydd a chwilota.

Ochr yn ochr â’n buddsoddiad, darparodd HSBC UK gyfalaf gweithio i gefnogi cynlluniau twf Avantis, yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio’r diwydiant morol ac olew a nwy, tra’n sicrhau cyfleoedd cyflogaeth hirdymor yn ne Cymru ac yn rhyngwladol.

Yr hyn y mae pobl yn ei ddweud

Wrth ddarparu gwasanaethau effeithlonrwydd ynni i’r diwydiant morol byd-eang, mae Avantis yn arloesi gyda thechnoleg werdd a lleihau ôl troed carbon gyda model busnes sy’n canolbwyntio ar ysbryd mentergarol a hyblygrwydd.

Mae'n arbennig o braf bod Tom a'r tîm yn elwa o'n Cronfa Olyniaeth Rheolaeth gwerth £25 miliwn gan ei fod yn benodol ar gyfer timau rheoli yng Nghymru sydd eisiau rhedeg a bod yn berchen ar eu busnes eu hunain. Mae hon yn stori lwyddiant gartrefol go iawn ac rydym yn arbennig o falch o fod yn cefnogi Tom fel mentergarwr ifanc o Gymru.

Ruby Harcombe a Navid Falatoori, Uwch Swyddogion Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

Ers sefydlu Avantis dim ond tair blynedd yn ôl, rydym wedi cyflawni twf parhaus a bron wedi dyblu ein trosiant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Teimlai’r fargen hon fel y cam rhesymegol nesaf i sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ein gweledigaeth fel tîm rheoli wedi’i leoli yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru a HSBC UK am eu cefnogaeth i wireddu’r trafodiad hwn.

Tom David, Prif Weithredwr, Avantis

Roeddem yn falch o gefnogi’r busnes arloesol hwn i gyflawni ei gyfnod twf nesaf. Gyda swyddfeydd yn Rio De Janeiro a Dubai, yn ogystal â’i bencadlys yng Nghaerdydd, mae Avantis yn enghraifft wych o fusnes byd-eang sydd wedi datblygu enw rhagorol yn y farchnad dechnoleg.

Warren Lewis, Pennaeth Bancio Corfforaethol Cymru, HSBC UK

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni