Bodysocks

Richard-Easton
Swyddog Portffolio

Rydym yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i dyfu'r busnes ar hyd a lled y byd o'r fan hon, yma yn Sir Benfro.

Jack Lear, Perchennog

Fe'i sefydlwyd yn 2011 gan Jack Lear, oedd yn 17 oed bryd hynny, mae Bodysocks bellach yn gwerthu dros 50,000 o wisgoedd gwisg ffansi i blant ac oedolion i fwy na 70 o wledydd bob blwyddyn, gan gynnwys UDA.

Mae 95% o'r holl werthiannau yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy sianeli ar-lein gyda 75% o'r holl werthiannau yn cael eu hallforio. Bydd benthyciad o £250,000 gan Banc Datblygu Cymru yn cael ei ddefnyddio i ariannu twf pellach gyda phryniant stoc ychwanegol i fodloni'r galw rhyngwladol cynyddol.