Cwmni Da

Gyda chymorth y Banc Datblygu, rydym yn gwreiddio Cwmni Da hyd yn oed yn fwy cadarn yng Nghaernarfon fel y gall y cwmni barhau i ffynnu o ddifri, gan ddarparu swyddi da, sy'n talu'n dda a chyfrannu at yr economi leol.

Dylan Huws, Cyd-sylfaenydd, Cwmni Da

Diogelwyd 50 o swyddi yn un o brif gwmnïau cynhyrchu teledu Cymru ar ôl i berchnogaeth y cwmni drosglwyddo i'w weithwyr, yn dilyn cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Cwmni Da, sy'n seiliedig yng Nghaernarfon, a sefydlwyd ym 1996, yn gynhyrchydd pwysig sydd â hanes hir o wneud rhaglenni ffeithiol, adloniant, plant a drama, yn bennaf trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ar gyfer S4C.

Helpwyd y Banc Datblygu i sicrhau dyfodol Cwmni Da gyda buddsoddiad werth £750,000 yn ddechrau 2019. Yn dilyn y buddsoddiad, rhoddwyd perchnogaeth y cwmni cynhyrchu i’r gweithwyr trwy Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr.

Cwmni Da

 

Cefnogwyd y symudiad at yr ymddiriedolaeth gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, a ddarparwyd cyngor a chymorth llywodraethol i’r ymddiriedolaeth newydd. Ers hynny, mae’r cwmni wedi creu pedwar swydd lawn-amser newydd.

Credir mai'r ymddiriedolaeth hon yw'r cyntaf o'i bath yn y diwydiant darlledu ym Mhrydain.

Gall Ganolfan Gydweithredol Cymru helpu cwmnïoedd yng Nghymru trawsnewid i berchnogaeth gweithlu.

Os ydych yn edrych i ddod yn gwmni o dan berchnogaeth gweithwyr, gall arbenigwyr y Canolfan Cydweithredol Cymru eich helpu.