- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Prynu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £1 miliwn
"Byddwn yn parhau i gael ein hadnabod am ein cryfderau mewn datrysiadau i swyddfeydd; fodd bynnag mae dyfodiad 5G a band eang ffibr cyflym iawn yn golygu cyfleoedd pwysig i ni i ehangu ein hapêl. Bydd arbenigeddau Onecom mewn gwasanaethau symudol yn ein galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd hynny’n gyflym ac i helpu ein cwsmeriaid mewn mwy o ffyrdd nag erioed o’r blaen."
Yn 2017, allbrynodd y rheolwr gyfarwyddwr Kelly Bolderson o Glamorgan Telecom Group, ynghyd ag aelodau o'r uwch dîm rheoli'r cyfarwyddwr / sylfaenydd cyfran Neal Pughe i ddod â’r cwmni o dan reolaeth lawn y bwrdd presennol.
Cefnogodd Banc Datblygu Cymru'r tîm rheoli a chymryd cyfran ecwiti o 15 y cant yn y grŵp ar adeg yr AllB. Ers hynny, rydym wedi parhau i gefnogi eu strategaeth dwf wrth iddynt dyfu i ddod yn brif ddarparwr datrysiadau telathrebu a chysylltedd ledled Cymru a'r De Orllewin.
Yn 2020, caffaelodd Onecom, darparwr telathrebu busnes annibynnol mwyaf y DU y Glamorgan Telecom Group fel rhan o strategaeth uchelgeisiol i ehangu'r busnes yn sylweddol dros y tair blynedd nesaf. Dyma'r ymadawiad cyntaf o Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Bydd y caffaeliad yn helpu'r ddau sefydliad i fanteisio ar alw cynyddol am eu gwasanaethau, cyrhaeddiad daearyddol estynedig a chyfleoedd traws-werthu newydd.
I ganfod mwy, darllenwch y datganiad i'r wasg yn fan hyn.
Gwybodaeth am y cwmni
- Lleoliad
-
Caerdydd