LITELOK

Mark-Sommers
Swyddog Portffolio

Busnes gweithgynhyrchu gydag Ymchwil a Datblygu parhaus yn cymryd amser. Yn fwy na hynny, chwaraeodd y Banc Datblygu ran hanfodol wrth leihau'r risg i'n buddsoddiad ar gyfer cyllidwyr eraill. Rhoddodd eu diwydrwydd dyladwy a'u cefnogaeth sefydliadol yr hyder i angylion fuddsoddi ochr yn ochr â nhw.

Yr Athro Neil Barron, LITELOK

Y busnes

Wedi'i sefydlu gan yr Athro Neil Barron, mae LITELOK yn wneuthurwr cloeon diogelwch safon uchel wedi'i leoli yn Fforestfach, Abertawe. Mae'r cwmni'n dylunio ac yn cynhyrchu cloeon ysgafn a pherfformiad uchel ar gyfer beiciau a beiciau modur gan ddefnyddio deunyddiau cyfansawdd patent. Gyda ffocws cryf ar arloesedd a chynaliadwyedd, mae gwaith cynhyrchu LITELOK yn digwydd yng Nghymru yn gyfan gwbl yng Nghymru ac mae’n allforio'n fyd-eang, gan gynnwys i farchnad yr Unol Daleithiau.

Yr her

LITELOK

 

Lansiwyd LITELOK yn 2015 gydag ymgyrch Kickstarter lwyddiannus, gan werthu 2,749 o unedau ar draws 57 o wledydd a chodi £232,000 mewn dim ond un mis. Ond daeth y cynnydd cynnar â heriau newydd. Pan stopiodd eu partner gweithgynhyrchu gwreiddiol fasnachu, bu’n rhaid i LITELOK gymryd y cynhyrchiad yn fewnol. Roedd ehangu’n gofyn nid yn unig am gyfalaf, ond am bartner buddsoddi hirdymor a oedd yn deall cymhlethdodau datblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch.

Y datrysiad

 

Buddsoddodd Banc Datblygu Cymru yn LITELOK gyntaf yn 2017, gan ddarparu ecwiti cam cynnar i gefnogi twf a sefydlu gweithrediadau gweithgynhyrchu yng Nghymru. Wrth i'r busnes esblygu, felly hefyd y cyllid. Darparodd y Banc Datblygu gyllid dyled ar gyfer offer awtomeiddio—heb fod angen gwarantau personol—gan ganiatáu i LITELOK fuddsoddi mewn effeithlonrwydd a chynyddu ei raddfa.

Cefnogodd y Banc Datblygu ei lywodraethu a’i ddatblygiad strategol hefyd, gan helpu LITELOK i broffesiynoli ei fwrdd a chysylltu ag ecosystem busnes ehangach Cymru. Arweiniodd y cyflwyniadau hyn at bartneriaethau gwerthfawr a gefnogodd dwf pellach.

Yr effaith

 

Mae LITELOK wedi tyfu o dîm bach i fod yn fusnes llewyrchus gyda 26–30 o weithwyr yn gweithio o gyfleuster a bwerir gan ynni solar/heulol yn Abertawe. Cymerwyd cam sylweddol ymlaen gyda datblygiad 'Barronium' —deunydd cyfansawdd patent sy'n gallu gwrthsefyll ymosodiadau gyda pheiriant llifannu.

Yn 2022, aeth lansiad LITELOK X1 wedi'i gryfhau â Barronium yn firaol, gyda fideo YouTube yn denu dros 15 miliwn o ymweliadau. Enillodd y cynnyrch gydnabyddiaeth ryngwladol ac mae wedi'i raddio fel y gorau yn ei ddosbarth gan lawer o adolygwyr annibynnol. Yn ddiweddar, mae LITELOK wedi cael ei enwi yn rhestr y 100 cwmni sy'n tyfu gyflymaf yn y DU gan y Sunday Times.

Uchafbwyntiau twf busnes:

  • 26–30 o swyddi wedi'u creu yn Abertawe
  • Twf refeniw o £5.2M (2024) i £7M rhagamcanedig (2025)
  • Caiff ei weithgynhyrchu yn gyfan gwbl yng Nghymru gyda 25% o werthiannau yn yr Unol  Daleithiau
  • Gweithrediadau proffidiol sy'n canolbwyntio ar ansawdd ac effeithlonrwydd

Uchafbwyntiau arloesedd:

  • Rhoddwyd saith patent ar ei gyfer, ac mae mwy o geisiadau wedi'u cyflwyno
  • Cydnabuwyd fod Barronium yn torri cwys newydd ym maes diogelwch
  • Cynhyrchion sy'n cael eu graddio'n gyson fel y gorau yn eu dosbarth

Beth mae'r sylfaenydd yn ei ddweud

Rydym yn falch o fod yn gwmni Cymreig sy'n gweithgynhyrchu yng Nghymru ac yn gwerthu'n fyd-eang. Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn rhan bwysig o wneud hynny'n bosibl.

Mae eu dull gweithredu cyfalaf amyneddgar wedi bod yn amhrisiadwy. Dydyn nhw ddim yn rhoi pwysau am ymadawiadau cyflym, ac maen nhw'n deall bod adeiladu busnes gweithgynhyrchu gydag Ymchwil a Datblygu parhaus yn cymryd amser. Yn fwy na hynny, chwaraeodd y Banc Datblygu ran hanfodol wrth leihau'r risg i'n buddsoddiad ar gyfer cyllidwyr eraill. Rhoddodd eu diwydrwydd dyladwy a'u cefnogaeth sefydliadol yr hyder i angylion fuddsoddi ochr yn ochr â nhw.

Nid yr arian yn unig sy’n bwysig. Y llywodraethu, y ddisgyblaeth, y cyflwyniadau i fusnesau a mentergarwyr eraill—mae hynny wedi bod yn werthfawr iawn.

Yr Athro Neil Barron

Edrych tua’r dyfodol

Mae uchelgeisiau LITELOK yn ymestyn y tu hwnt i gloeon beiciau a beiciau modur. Mae'r cwmni'n archwilio cymwysiadau ehangach ar gyfer technoleg Barronium ar draws sawl sector diogelwch. Gyda chefnogaeth barhaus gan Fanc Datblygu Cymru, mae LITELOK mewn sefyllfa dda i dyfu ei ôl troed byd-eang wrth gyfrannu at economi Cymru.