Maggie Cross Jewellery

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi

Mae’r benthyciad o £5,000 gan y Banc Datblygu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr oherwydd mae’n golygu bod gen i’r cyfalaf gweithio i’w fuddsoddi yn fy nghynnyrch. Mae eu cefnogaeth hefyd yn golygu bod gen i’r hyder bod gan y busnes y potensial i fynd ymhell. Dwi’n ddiolchgar iawn am eu help.

Maggie Cross, Sylfaenydd, Maggie Cross Jewellery

Trosolwg o’r cwmni

Mae Maggie Cross yn rhedeg cwmni gemwaith. O’i stiwdio yn Aberteifi, mae’r entrepreneur ifanc yn gwneud gemwaith bach ond llawn hwyl gan ddefnyddio technegau gofannu arian traddodiadol a metelau gwerthfawr wedi’u hailgylchu.

Hyfforddodd yn Ysgol Gemwaith Birmingham ac mae’n defnyddio gweithdai yn Ardal Gemwaith enwog y ddinas. Mae Maggie hefyd yn aciwbigwr hyfforddedig.

Pwrpas y busnes

Mae Maggie’n gwneud gemwaith llawn hwyl gan ddefnyddio technegau gofannu arian traddodiadol a metelau gwerthfawr wedi’u hailgylchu. Mae ganddi drwydded tyllu’r corff hefyd.

Mae hi wedi ymrwymo i wneud ei brand mor gynaliadwy â phosib. Ar y fainc, mae hi’n defnyddio dalen arian eco ac mae’r cwmni castio y mae’n gweithio gyda nhw yn defnyddio metelau wedi’u hailgylchu yn unig. Mae hi hefyd wedi gallu cynnig gwasanaeth tyllu’r corff yn ei stiwdio yn Aberteifi. Fel entrepreneur ifanc, cysylltodd Maggie â ni am gyllid i helpu i dyfu ei busnes ymhellach.

Cyllid

Maggie-Cross

Fe wnaethom fuddsoddi £5,000 i alluogi Maggie i fuddsoddi mewn stoc, castio a deunyddiau wrth iddi baratoi i uwchraddio i ateb y galw gan gwsmeriaid. Roedd y benthyciad hefyd yn caniatáu i Maggie hyfforddi mewn tyllu’r corff, a chreu a rhentu ei gofod stiwdio delfrydol.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Roeddwn i’n anelu at wneud y brand mor gynaliadwy â phosib drwy ddefnyddio dim ond deunyddiau wedi’u hailgylchu ac sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Ers cwblhau fy ngradd, dwi wedi treulio fy amser yn adeiladu fy sylfaen cleientiaid a fy nghefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, a nawr yw’r amser i ehangu fy nghynnig.

Mae’r benthyciad o £5,000 gan y Banc Datblygu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr oherwydd mae’n golygu bod gen i’r cyfalaf gweithio i’w fuddsoddi yn fy nghynnyrch. Mae eu cefnogaeth hefyd yn golygu bod gen i’r hyder bod gan y busnes y potensial i fynd ymhell. Dwi’n ddiolchgar iawn am eu help.

Maggie Cross, Sylfaenydd, Maggie Cross Jewellery

Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gydag entrepreneuriaid ifanc fel Maggie, gan gydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w cefnogi.

Mae Maggie wedi bod yn datblygu’r busnes ers rhai blynyddoedd ac mae eisoes wedi ennyn cefnogaeth gadarn. Mae hi’n frwd dros yr hyn mae hi’n ei wneud felly rydyn ni’n gwbl hyderus y bydd y busnes yn llwyddo.

Charlotte Price, Swyddog Gweithredol Buddsoddi Cynorthwyol, Micro Fenthyciadau, Banc Datblygu Cymru

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni