Naissance

Dave-Perez
Uwch Swyddog Portffolio

Planhigion a phobl yw canolbwynt popeth a wnawn. Bydd y lleoliad anhygoel hwn yn ffynhonnell rhai o’n cynhwysion naturiol yn ogystal â lle i chi gael profiad ymarferol o’r hyn sy’n gwneud Naissance yn wahanol.

Jem Skelding, Rheolwr Gyfarwyddwr

Trosolwg o’r busnes

Mae Naissance yn gwmni byw'n iach figan o ffynonellau moesegol. Wedi’i leoli yng Nghastell-nedd, mae’r busnes teuluol yn creu olewau hanfodol di-greulondeb a masnach deg, olewau cludo, sebonau, halwynau a chlai, yn ogystal â chynhyrchion tylino. 

Sefydlwyd Naissance yn 2005, ac mae’n defnyddio cynhwysion naturiol yn unig yn ogystal â chanolbwyntio ar ddod o hyd i gynnyrch cyfrifol gyda Masnach Deg a chwmnïau cydweithredol eraill ar draws y byd.

Sylfaenydd

Jem-Skelding

Jem Skelding, Prif Weithredwr - Dysgodd Jem sut i fod yn entrepreneuraidd wrth dyfu i fyny fel plentyn yn Sambia. Mae ganddo ddyheadau i bobl gydnabod Naissance ledled y byd fel cwmni sy’n flaenllaw mewn cynhyrchion gofal naturiol, moesegol, llesiant a phersonol.

Magwyd Jem lle’r oedd yn gyffredin i bobl ddefnyddio cynhwysion naturiol i wneud eu meddyginiaethau eu hunain gan nad oedd yn hawss cael gafael ar gynhyrchion wedi’u gwneud ymlaen llaw. Ei nod o’r dechrau oedd dod o hyd i'r cynhwysion naturiol gorau a mwyaf pur o bob cwr o’r byd.

Pwrpas y busnes

Naissance

Mae Naissance wedi chwilio ar draws y byd i ddod o hyd i gynhwysion sydd wedi’u dewis yn ofalus.  Maen nhw bob amser yn ymdrechu i ddod â’r cynnyrch o'r ansawdd gorau i’w cwsmeriaid, fel eu bod nhw bob amser yn gwybod beth yn union maen nhw’n ei roi ar eu croen.

Mae Naissance yn frwd dros y byd rydyn ni’n byw ynddo. Maen nhw’n erbyn cynnal profion ar anifeiliaid, ac mae pob un o’u cynnyrch wedi’i gymeradwyo’n ddi-greulondeb o dan y Rhaglen Leaping Bunny gan Cruelty Free International. Maent yn parhau i addo peidio byth â phrofi eu cynnyrch ar anifeiliaid.

Ar ben hynny, mae gan y busnes amrywiaeth o gynhyrchion organig, sydd wedi cael eu hardystio gan Gymdeithas y Pridd, sef y prif gorff mewn ardystio organig y DU. Mae hyn yn tynnu sylw at eu hymrwymiad i ddarparu’r cynnyrch o ansawdd gorau sydd ar gael. Mae popeth o’r cynnyrch i’r deunydd pacio yn cael ei wirio gan Gymdeithas y Pridd i sicrhau bod y cynhwysion yn cael eu cynhyrchu yn y ffordd fwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar posibl.

Hefyd, mae bron pob un o’u cynnyrch yn addas i figaniaid ac wedi’u cofrestru gyda’r Gymdeithas Figaniaid. Maent yn un o'r sefydliadau figan mwyaf adnabyddus yn Ewrop, sy’n sicrhau bod busnesau’n cyrraedd safonau figan caeth, a does dim un cynnyrch figan yn cynnwys cynhwysion anifeiliaid, a dydy’r cynhwysion erioed wedi cael eu profi ar anifeiliaid.

Cyllido

Fel cwsmer tymor hir, defnyddiodd Naissance ein buddsoddiad diweddaraf i helpu i brynu pencadlys corfforaethol newydd ym Mhowys ar ôl llwyddo i ehangu farchnadoedd Ewrop ac UDA.  Llwyddodd y cytundeb hwn i sicrhau mai Cymru oedd cartref corfforaethol y busnes. Mae swyddogaethau marchnata, strategaeth a swyddogaethau rheoli eraill bellach wedi’u lleoli yn eu swyddfeydd corfforaethol newydd yn Sir Drefaldwyn.

Gall cwsmeriaid ymweld â Glansevern i brofi Naissance a dysgu am y broses o ddod o hyd i gynnyrch a chynhwysion a’u gweithgynhyrchu’n gynaliadwy. Gan fod cynaliadwyedd yn flaenoriaeth i Naissance, mae’r Pencadlys yn caniatáu i nwyddau gael eu tyfu ar y safle a’u defnyddio yn eu caffi a chreu cynnyrch, yn ogystal â sefydlu ffynonellau ynni cynaliadwy.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Mae hwn yn gam nesaf gwych i Naissance. Mae eu pencadlys newydd yn eu galluogi i roi eu gwerthoedd cynaliadwy ar waith gydag amrywiaeth o bolisïau amgylcheddol cadarnhaol, o wresogi biodanwydd i dyfu rhai o’u deunyddiau ffynhonnell a ddefnyddir yn eu cynnyrch ar y safle – gan leihau eu hôl troed carbon. Rydyn ni’n falch iawn o allu gweithio gyda’r tîm i ddatblygu’r busnes gwych hwn yng Nghymru ymhellach, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld cam nesaf eu gwaith ehangu.

Dave Perez, Uwch Swyddog Gweithredol Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru

Mae planhigion a phobl wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Bydd y lleoliad gwych hwn yn ffynhonnell i rai o’n cynhwysion naturiol, a hefyd yn lle i chi gael profiad ymarferol o’r hyn sy’n gwneud Naissance yn wahanol.

Jem Skelding, Sylfaenydd, Naissance