Parc Gwyliau Pelcomb Bridge

Richard-Easton
Swyddog Portffolio

Roedd y cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi gallu prynu’r busnes a bwrw ymlaen â’n cynlluniau i uwchraddio’r cyfleusterau gwersylla ac i ail wampio’r Rising Sun.

Andrea & Gethin Bateman, Cyfarwyddwyr

Mae parafeddygon cymwys Andrea a Gethin Bateman wedi ymgymryd â menter fusnes newydd ac yn bwriadu rhoi bywyd newydd i'r parc gwyliau yn Pelcomb Bridge, Hwlffordd.

Ers prynu'r safle ddiwedd 2021, mae'r Bateman's wedi dechrau cyfres o waith adnewyddu, er mwyn adeiladu ar enw da'r safle yn y busnes lleol hirsefydlog yn Sir Benfro.

Gweithio gyda ni i ariannu'r parc gwyliau

Ym mis Chwefror 2022, gwnaethom fenthyg £300,000 i Andrea a Gethin, gan ganiatáu iddynt ddod yn berchnogion balch ar Barc Gwyliau Pelcomb Bridge.

Prynodd y Batemans y safle tair erw, sy'n cynnwys y Rising Sun Inn a maes carafanau cysylltiedig gyda meysydd carafanau a phebyll, cyfleusterau storio dros y gaeaf, tri chalets (dau ohonynt yn cael eu defnyddio fel unedau rhentu) a charafán sefydlog.

Roedd y gwaith o adnewyddu Bwyty a Gril y Rising Sun eisoes wedi dechrau, a recriwtiodd y Batemans y prif gogydd Matthew Cox o Cwtch yn Nhyddewi, a oedd, yn ogystal â datblygu bwydlenni cyffrous, yn arwain datblygiad y gegin i gynyddu capasiti.

Roedd y benthyciad hefyd yn caniatáu i bedair swydd gael eu creu, gan gynnwys y prif gogydd newydd, yn ychwanegol at y saith aelod o staff a arhosodd gyda’r Batemans ar ôl iddyn nhw gymryd awenau’r busnes drosodd.

Eglurodd Andrea a Gethin: “Mae’r ddau ohonom yn canolbwyntio’n fawr ar bobl ac yn mwynhau cyfarfod â phobl newydd, felly roeddem am ddefnyddio’r sgiliau hyn i roi cynnig ar fenter newydd a roddodd y cyfle i ni fuddsoddi yn ein dyfodol; rhywbeth a gyfunodd ein cariad at yr awyr agored, gwersylla, carafanio a bwyd. Roedd  The Rising Sun yn ticio’r blychau i gyd ac mae'n lleol i'n trefi genedigol, Hwlffordd a Thyddewi.

“Arweiniodd sgwrs ar hap a damwain ni i fan hyn a gwelsom y cyfle yn syth bin i roi bywyd newydd i’r busnes a gwireddu ei lawn botensial. Roedd y cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi gallu prynu’r busnes a bwrw ymlaen â’n cynlluniau i uwchraddio’r cyfleusterau gwersylla ac i ail wampio’r Rising Sun.

“Roeddem yn newydd i redeg busnes, ond rydym wrth ein bodd ein bod yn cael adborth mor dda ac mae gennym eisoes sgôr Trip Advisor o bum seren.”

Sut mae Pelcomb Bridge wedi dod yn fwy ecogyfeillgar?

Llwyddodd Andrea a Gethin i ddefnyddio rhywfaint o’n cyllid i fuddsoddi mewn adeiladu model cynaliadwy a fyddai o fudd i’w cwmni am flynyddoedd lawer.

Fe ddechreuon nhw eu cynlluniau i wneud y busnes yn fwy ecogyfeillgar trwy osod system garthffosiaeth newydd o'r radd flaenaf sy'n glanhau gwastraff yn drylwyr, sy’n gollwng dŵr sydd bron a bod yn gwbl lân. Mae hyn yn fwy ecogyfeillgar gan ei fod yn rhyddhau dŵr na fydd yn halogi cyrsiau dŵr.

Dilynodd Andrea a Gethin hyn drwy osod paneli solar, gan helpu i leihau eu biliau trydan tra’n diogelu’r amgylchedd a lleihau eu hôl troed carbon.

Maent hefyd yn bwriadu plannu gwahanol goed brodorol dros y safle, gan helpu i ailsefydlu ei ecosystem, lleihau erydiad trwy arafu glaw a dal dŵr, tra'n rhoi mwynhad a harddwch i'w cymuned.

Dywedodd Clare Sullivan, un o’n swyddogion buddsoddi: “Daeth Andrea a Gethin atom angen cymorth i brynu’r busnes proffidiol hwn sydd wedi hen ennill ei blwyf fel y gallai’r perchnogion blaenorol ymddeol.

“Fel busnes gweithredol, roedd yn gynnig deniadol oherwydd ei fod yn cynnig ffrydiau incwm amrywiol ac roedd cyfle i ni helpu i ddiogelu swyddi saith o bobl leol.

“Yn sicr mae ganddyn nhw'r sgiliau a'r agwedd benderfynol i wneud iddo weithio ac rydyn ni'n arbennig o falch eu bod nhw eisoes yn buddsoddi mewn mesurau bioamrywiaeth ac effeithlonrwydd ynni ar y safle a fydd yn helpu i leihau ôl troed carbon. Dymunwn bob llwyddiant i’r tîm.”

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni