Quantum Coffee Roasters

Aled-Robertson
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Rydym wedi tyfu'r busnes yn fawr iawn mewn llai na blwyddyn ac yn naturiol fe ddaethom yn ôl at y Banc Datblygu pan oedd angen cyllid arnom i ehangu a sefydlu ochr gyfanwerthol y busnes.

Katia Fotiadis, Perchennog

Mae Quantum Coffee Roasters yn siop goffi sy'n eiddo i'r teulu ac mae'n cael ei rhedeg ym Mae Caerdydd.

Defnyddiodd y busnes ficro-fenthyciad cyflym o £10,000 gennym i ail-leoli eu tŷ rhostio coffi o Lundain i Gaerdydd.

Yna fe wnaeth Quantum sicrhau ail fenthyciad micro gennym er mwyn iddynt ehangu. Maen nhw wedi lansio gwefan newydd sy'n eu galluogi i werthu amrywiaeth eang o ffa coffi ar-lein. Maen nhw hefyd yn tyfu eu marchnad gyfanwerthu, lle bydd cwsmeriaid yn derbyn pecyn gwasanaeth llawn. Mae hyn yn cynnwys prynu peiriannau, llifanwyr a ffa coffi, yn ogystal â hyfforddiant barista.

Darllenwch y datganiad i'r wasg am fwy o wybodaeth.