Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael cefnogaeth gan Angylesau Cymru. Mae ganddyn nhw brofiad amrywiol a helaeth fel arweinwyr busnes a buddsoddwyr, ac mae cael eu cefnogaeth yn golygu llawer mwy na buddsoddiad cyfalaf yn unig.
Alison Ettridge, Prif Weithredwr, Stratigens
Trosolwg o’r busnes
Mae Stratigens yn adnodd meddalwedd gwybodaeth am dalent sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n cyfuno data am y gweithlu a’r gweithle mewn un lle.
Mae Stratigens, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, wedi dod yn adnodd meddalwedd gwybodaeth am dalent sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n galluogi arweinwyr busnes i gysylltu’r dotiau rhwng sgiliau strategaeth, lleoliad a pharhad busnes drwy nifer o bwyntiau data i adeiladu timau talentog ar gyfer busnesau ar draws y byd.
Sylfaenydd
Alison Ettridge, Prif Weithredwr - Mae Alison wedi treulio dros 20 mlynedd ym myd pobl a thalent. Ei swydd gyntaf oedd recriwtio swyddogion gweithredol, cyn symud i werthu yn monster.com, ac yna i fyd ymchwil a deallusrwydd talent. Dyma lle gwelodd y cyfle ar gyfer Stratigens – gan geisio pontio’r bwlch rhwng strategaeth a gweithredu gyda data.
Pwrpas y busnes
Mae’n bwysig bod cwmnïau’n gwybod bod ganddyn nhw’r bobl iawn, gyda’r sgiliau iawn, am y gost iawn os ydynt am osgoi cynllunio gweithlu gwael.
Mae gan Stratigens genhadaeth i helpu cwmnïau i gysylltu’r dotiau rhwng y gweithlu a’r gweithle er mwyn i gyflogwyr allu gwneud penderfyniadau cyflym, cost-effeithiol sy’n seiliedig ar ddata. Mae’r feddalwedd wedi cael ei datblygu a’i hadeiladu gan arbenigwyr mewn gwybodaeth am dalent, gan gyfuno data am y farchnad lafur, economeg a lleoliadau drwy gasglu miliynau o bwyntiau data am sgiliau mewn dros 550 o ddinasoedd ar draws dros 200 o wahanol wledydd.
Mae fersiwn ddiweddaraf y feddalwedd yn cyfuno data o dros 2,000 o wahanol ffynonellau cyn ei droi’n wybodaeth y gellir ei defnyddio i lywio penderfyniadau busnes strategol fel agor swyddfeydd newydd a deall sbardunau allweddol yn well, gan gynnwys argaeledd talent a dulliau recriwtio sydd gan gystadleuwyr.
Cyllid
Stratigens oedd buddsoddiad cyntaf Angylesau Cymru, sef y syndicet buddsoddi angylion busnes a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru a sefydlwyd i gefnogi menywod yn y gymuned fuddsoddi cyfnod cynnar.
Derbyniodd Talent Intuition £60,000 gan y syndicet, £20,000 gan Matthew Epps, angel busnes Angylion Buddsoddi Cymru, ynghyd â £80,500 gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Banc Datblygu Cymru, a £50,000 gan Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru – buddsoddiad o £211,000.
Gallwch ddarllen mwy am Stratigens a Merched Angylion Cymru yn Cardiff Life Magazine.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael cefnogaeth gan Angylesau Cymru. Mae ganddyn nhw brofiad amrywiol a helaeth fel arweinwyr busnes a buddsoddwyr, ac mae cael eu cefnogaeth yn golygu llawer mwy na buddsoddiad cyfalaf yn unig – mae’n arwydd o hyder ac ymddiriedaeth gan fenywod busnes uchel eu parch o bob rhan o Gymru.
Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gydag Angylesau Cymru a chefnogwyr eraill wrth i ni barhau i ehangu a chynyddu ein cynnig i’r farchnad.
Alison Ettridge, Prif Weithredwr, Stratigens
Hoffwn longyfarch Angylesau Cymru ar wneud y buddsoddiad cyntaf o nifer, wrth iddyn nhw barhau â’u nod o gefnogi mwy o fusnesau sy’n eiddo i fenywod ac sy’n cael eu harwain gan fenywod ar draws Cymru. Mae’n arbennig o braf gweld y syndicet yn cefnogi Talent Intuition, busnes cyffrous sydd wedi bod yn rhan o bortffolio’r Banc Datblygu ers 2018.
Mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft wych o nifer o angylion yn dod at ei gilydd i ddarparu symiau bach o gyfalaf i helpu i leihau risg buddsoddiad, gan ddod â rhwydwaith gefnogaeth eang at ei gilydd i’r cwmni.
Carol Hall, Rheolwr Rhanbarthol, Angylion Buddsoddi Cymru
Roeddem ni i gyd yn falch iawn o fuddsoddi yn Alison a meddalwedd Stratigens – roedd ei hangerdd, ei brwdfrydedd a’i gwybodaeth yn amlwg, ac roedd yn hawdd iawn i bob un ohonom ni yn Angylesau Cymru weithio gyda hi. Roedd hi’n deall yn glir effaith a goblygiadau buddsoddiad gan yr angylion, ac mae ei huchelgais, ei gweledigaeth a’i blaengynllunio’n rhoi llwybr clir i ni ymadael.
Mae’r meddalwedd yn mynd i’r afael â bwlch clir iawn yn y farchnad, ac mae’r ffaith bod Alison yn rhedeg busnes sefydledig gyda hanes da yn rhoi rheswm cryf i ni fod yn hyderus.
Jill Jones, Prif fuddsoddwr, Angylesau Cymru