- Rhanbarth
-
Gorllewin Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Datblygu menter technoleg
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £500,000
“Gwnaeth y cyllid ecwiti a chymorth gan y Banc Datblygu wahaniaeth i’n busnes, gan ein galluogi i fod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd gyda datblygu atebion sy’n helpu i leihau allyriadau carbon.”
Adrian Sutton, Prif Weithredwr Vortex IoT
Ymadawodd tîm Mentrau Technoleg y Banc Datblygu Vortex IoT – cyflenwr synwyryddion amgylcheddol, rhwydweithiau a datrysiadau data yng Nghastell-nedd – yn gynnar yn 2022.
Mae Vortex IoT - a sefydlwyd gan y Prif Weithredwr Adrian Sutton a PST Behzad Heravi - yn cynnwys tîm tra medrus o 35, gyda'u harbenigedd yn cwmpasu technolegau sy'n dod i'r amlwg, Deallusrwydd Artiffisial (AI), 5G, technoleg laser LiDAR a dysgu peirianyddol.
Mae eu gwaith yn helpu i gefnogi ymdrechion datgarboneiddio a chynaliadwyedd yn fyd-eang, trwy roi’r systemau a’r data sydd eu hangen ar sefydliadau a llywodraethau lleol ar draws nifer o ffactorau amgylcheddol, wedi’u monitro a’u casglu drwy’r Rhyngrwyd Pethau (RhoB).
Fel cyllidwyr ecwiti, buddsoddodd y Banc Datblygu £500,000 dros ddau gylch buddsoddi ym mis Rhagfyr 2018 a mis Rhagfyr 2019, wedi’i gyd-fuddsoddi â buddsoddwyr angel a’r Start-up Funding Club (SFC Capital) yn Llundain.
Darparwyd cefnogaeth gan y Banc Datblygu i'r cwmni gan uwch swyddogion buddsoddi Richard Thompson ac Alexander Leigh, a helpodd y busnes i dyfu o dri gweithiwr mewn swyddfeydd a rennir yn y TechHub yn Abertawe i fod yn safle cynhyrchu ar raddfa lawn yn ffatri hanesyddol 'Metal Box' Castell-nedd.
Yn ystod y cyfnod ehangu hwn, defnyddiodd y cwmni gyfuniad o ecwiti a grantiau i fuddsoddi'n helaeth mewn ymchwil a datblygu i gynhyrchu technoleg flaengar.
Ar ôl helpu Vortex IoT i gynyddu graddfa mewn dim ond tair blynedd, gadawodd y Banc Datblygu Vortex IoT yn gynnar yn 2022 ar ôl iddo gael ei gaffael gan Marston Holdings, prif ddarparwr atebion trafnidiaeth integredig, wedi'i alluogi gan dechnoleg yn y DU.