Xscape Rooms

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Rydym yn teimlo’n angerddol ynghylch ein tref enedigol ym Mangor a'n cariad at bosau. Mae’r cyllid/cymorth gan y Banc Datblygu a’r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref wedi ein galluogi i lenwi bwlch yn y farchnad a chreu gweithgaredd hwyliog a fforddiadwy i bobl o bob oed ei fwynhau.

Jordan Williams, Cyd-sylfaenydd

Trodd y brodyr o Fangor, Jordan a Nick Williams, eu hangerdd am bosau yn fenter fusnes newydd gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a chydweithwyr yn Busnes Cymru.

Ar ôl agor ym mis Tachwedd 2021, Xscape Rooms yw Ystafelloedd Dianc cyntaf Bangor ac maen nhw’n darparu oriau o hwyl i deuluoedd lleol a thwristiaid. 

Defnyddiwyd micro-fenthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru i osod y dechnoleg a’r offer diweddaraf yn y tair ystafell tra bod grant o £10,000 gan Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Llywodraeth Cymru yn talu’r costau rhentu cychwynnol.

Cafodd y brodyr hefyd gefnogaeth un-i-un gan gynghorydd profiadol Busnes Cymru ac maen nhw wedi mynd ymlaen i greu dwy swydd newydd.

Dywedodd Jordan Williams: “Rydym yn aml wedi mwynhau Escape Rooms wrth ymweld â threfi a dinasoedd eraill, felly roedd yn gwneud synnwyr llwyr i lansio ein menter ein hunain yma ym Mangor gan nad oes dim byd tebyg yma. Rydyn ni wedi dylunio’r gemau i gyd ein hunain ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cyllid gan y Banc Datblygu a Chronfa Entrepreneuriaeth Canol y Dref.” 

Gellir archebu tocynnau ar gyfer Xscape Bangor ar-lein yn www.xscapebangor.co.uk.