1st Choice Accident Repair yn caffael safle newydd yng Nghaerdydd ac yn bwriadu creu 20 o swyddi newydd

Mark-Halliday
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Staff of 1st Choice Accident Repair Centre stood in front of truck

Mae arbenigwyr atgyweirio wedi damweiniau 1st Choice Accident Repair yn disgwyl creu hyd at 20 o swyddi newydd wrth i'r busnes ddyblu mewn maint ar ôl cael adeilad newydd ar Ipswich Road yng Nghaerdydd.

Mae benthyciad o £975,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn cael ei ddefnyddio i ariannu’n rhannol y symudiad o Ipswich Road i uned fwy 30,204 troedfedd sgwâr ar yr un ffordd ag yr oedd Sytner yn arfer bod. Bydd pob un o’r 31 o staff yn trosglwyddo i’r safle newydd ym mis Mai 2022 a disgwylir i hyd at 20 o swyddi newydd gael eu creu ar draws y busnes gan gynnwys recriwtio technegwyr paent a phaneli.

Bydd y gofod ychwanegol yn caniatáu ar gyfer ehangu gwasanaethau gan gynnwys atgyweirio olwynion, teiars, cynnal a chadw fflyd a gwasanaethu cerbydau ochr yn ochr â chyfleusterau storio gwell. Mae cyfleoedd i ddarparu gwefru cerbydau trydan a storio batris hefyd yn cael eu hystyried.

Sefydlwyd First Choice Accident Repairs yn 2002 fel gweithdy atgyweirio damweiniau pwrpasol. Prynodd y cyfarwyddwyr Mike Summers, Calum Young a Sion Coughlin y busnes dim ond pedair blynedd yn ôl yn 2018 ar ôl i’r Banc Datblygu ariannu’n rhannol allbryniant gan y rheolwyr gyda buddsoddiad ecwiti o £1.1 miliwn . Cymerodd Mervyn Ham o Iridium gyfran ecwiti a rôl y Cadeirydd. 

Mae'r cwmni yn atgyweiriwr cymeradwy ar gyfer y rhan fwyaf o ddarparwyr yswiriant mawr blaenllaw ac mae’n cynnig gwasanaeth rheoli damweiniau cynhwysfawr, adferiad 24 awr, rheoli hawliadau a cherbydau cwrteisi. Mae sicrwydd gwarant cyflawn yn safonol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Mike Summers: “Mae ein strategaeth fusnes hir dymor wedi’i seilio ar ychwanegu gwerth i’n cwsmeriaid a’n cyfranddalwyr felly mae’n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein heiddo a’n prosesau i wella effeithlonrwydd gweithredol ac ehangu ein harlwy.

“Fel ein partneriaid ecwiti, mae’r Banc Datblygu wedi parhau i’n cefnogi gyda’n twf strategol tra ein bod wedi addasu i’r heriau o fod yn berchen ar fusnes ac wedi goroesi storm Covid-19. Gyda bywyd bellach yn dychwelyd i normal a thraffig yn dychwelyd ar ein ffyrdd, rydym yn gweld galw cynyddol am ein gwasanaethau ac felly wedi bod yn rhedeg ar sail ein gallu eithaf ers peth amser. Bydd y symudiad hwn yn rhoi’r lle i ni dyfu a datblygu cyfleuster gwych a fydd o fudd i gwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd.”

Dywedodd Mervyn Ham: “ Nid siop atgyweirio cyrff ceir yn unig ydi 1st Choice bellach. Mae'r tîm wedi gwneud yn arbennig o dda; dod i fyny o lawr y siop a bachu ar y cyfle i yrru’r busnes yn ei flaen hyd yn oed drwy gyfnodau o ansicrwydd.

“Mae’r buddsoddiad strategol bwysig hwn nawr yn caniatáu i ni fynd â’r busnes i’r cam nesaf; creu llif go iawn ac felly gwella effeithlonrwydd ynghyd â rhoi lle i ni ehangu ein gwasanaethau ac ehangu ein portffolio o ddarparwyr yswiriant. Yn bwysig, bydd gennym y cyfleusterau i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i’n staff presennol a recriwtiaid newydd fel y gallwn ddatblygu sgiliau a manteisio ar y farchnad cerbydau trydan sy’n tyfu.”

Mark Halliday o Fanc Datblygu Cymru: “Dyma enghraifft wych o sut rydym yn gweithio gyda’n cwsmeriaid portffolio ecwiti i helpu i sbarduno twf a gwerth hirdymor i bawb. Mae'r safle newydd bron ddwywaith maint y gweithdy presennol ac mae'n cynnig cynllun llawer gwell a fydd yn galluogi'r busnes i gynyddu trwy-gyrchedd ac effeithlonrwydd.

Mae First Choice yn gwmni rhagorol sydd wedi cyflawni'n gyson yn erbyn y targed; defnyddio ein cyfalaf ecwiti cychwynnol i greu’r gofod ar gyfer ehangu a chyflawni eu cynllun strategol tymor hwy. Mae'r tîm yn gwneud yn dda iawn drwy dyfu'r busnes i'w lawn botensial ac maent yn awr yn edrych i'r cam nesaf o dwf; creu swyddi ac arallgyfeirio i gryfhau’r busnes ar gyfer y dyfodol.”

Ariennir Cronfa Busnes Cymru gwerth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda thelerau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru. 

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr. Y digwyddiadau a'r newyddion dechrau busnes diweddaraf

 

Gwiriwr cymhwysedd Ymgeisio nawr