Adloniant i'r teulu cyfan wrth i gyfadeilad hamdden newydd agor yn Llanelli

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Pinopolis

Mae canolfan adloniant newydd i deuluoedd wedi agor yn Llanelli, gan greu 30 o swyddi gyda 17,000 troedfedd sgwâr o gyfleusterau chwarae meddal, ali fowlio, cwrt chwaraeon a gwibgartio dan do.

Yn cael ei rhedeg gan Georgia a David Edwards a oedd gynt yn berchen The Play King yn Nafen, mae Pinopolis wedi agor yn hen ystafell arddangos ceir CEM Days ar Sandy Road. Ariannwyd y gwaith ail wampio yn rhannol gan fenthyciad chwe ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru yn dilyn cyflwyniad gan Croeso Cymru.

Gyda lonydd Bowlio Spark Brunswick y cyntaf a’r unig un rai yng Nghymru, mae Pinopolis ar agor rhwng 10yb a 10yh saith diwrnod yr wythnos ac mae ganddo drwydded i werthu alcohol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr David Edwards: “Roedd Covid yn golygu ein bod wedi penderfynu cau The Play King a throsglwyddo’r asedau i greu’r ganolfan adloniant teuluol newydd hon ond ni fyddai wedi digwydd heb gefnogaeth y Banc Datblygu. Rydym mor ddiolchgar eu bod wedi camu i’r adwy gyda’r cyllid sydd ei angen i gwblhau’r gwaith ail wampio a dod â’r cyfleuster newydd anhygoel hwn yn fyw er budd ein cwsmeriaid, yn hen ac ifanc fel ei gilydd.”

Dywedodd yr Uwch Swyddog Buddsoddi, Navid Falatoori: “Pinopolis yw’r cyntaf o’i fath yn Sir Gaerfyrddin ac mae’n ased gwirioneddol i bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd; mae’n darparu cyfleusterau hamdden pob tywydd y mae mawr eu hangen ac mae’n creu swyddi. Mae’n atyniad cyrchfan blaenllaw i’r ardal a fydd yn cael ei ddatblygu’n barhaus gan David a Georgia dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf i sicrhau ei fod yn gadarn ar fap twristiaeth Cymru.”

Darparwyd cyngor cyllid corfforaethol i Pinopolis gan John Saunders o Cadre Advisory o Gaerdydd. Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r perchnogion a’r Banc Datblygu ar hyn dros gyfnod o 2 flynedd i ddod â’r prosiect cyffrous newydd hwn, a gafodd ei oedi yn sgil Covid, i’r farchnadle.”

Daeth y cyllid ar gyfer Pinopolis o Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn. Wedi’i ariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig, sy’n amlwg yn sefyll allan ac sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gall prosiectau gynnwys cynnyrch arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr sy’n nodweddiadol Gymreig, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, lleoedd anarferol i aros ac atyniadau blaenllaw.