Adroddiad yn gweld twf yn y gweithlu mewn bron i draean o fusnesau gyda chefnogaeth Covid-19 Llywodraeth Cymru

Sian-Price
Rheolwr ymchwil a phartneriaeth
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Busnesau technoleg

Mae adroddiad newydd gan Dirnad Economi Cymru sy’n asesu effaith ymyriadau Llywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Cadernid Economaidd (CCE) yn dangos bod 30% o’r busnesau bach a arolygwyd wedi gweld nifer eu gweithwyr yn tyfu ers y pandemig – gyda bron i hanner yn rhagweld twf pellach yn y 12 mis nesaf.

Yr adroddiad, a gomisiynwyd ar y cyd gan Dirnad Economi Cymru, Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru, yw’r trydydd mewn cyfres sy’n gwerthuso effeithiolrwydd y gronfa cadernid.

Mae'n archwilio data o'r ERF5 hyd at ERF8, a gyflawnodd £54m ac a gefnogodd fwy na 65,800 o swyddi.

Mae'r ymchwil hefyd yn cynnwys dadansoddiad o arolwg manwl o fwy na 1,600 o fusnesau a gafodd gymorth gan ERF3 i ERF7.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi cipolwg ar iechyd a chadernid busnesau bach a chanolig Cymru yn ystod ergydion economaidd ôl-bandemig fel Brexit, pwysau chwyddiant ac argyfwng costau byw – sydd i gyd wedi effeithio ar eu gallu i wneud busnes.

Mae rhai o ganfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Dywedodd 30% o'r ymatebwyr fod nifer y gweithwyr wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig
  • Credai 44% o ymatebwyr y bydd ganddynt fwy o weithwyr yn y 12 mis nesaf
  • Roedd 97% o’r busnesau a gefnogwyd yn ystod camau cyllid ERF3 i ERF7 yn dal i fasnachu ar adeg yr arolwg rhwng Chwefror a Mai 2022
  • Dywedodd 46% o ymatebwyr eu bod wedi datblygu gwasanaethau neu gynhyrchion newydd mewn ymateb i bandemig Covid-19
  • Datgelodd 43% o ymatebwyr eu bod yn buddsoddi mewn datblygiad staff
  • Roedd 86% o’r ymatebwyr wedi cael cymorth gan Gynllun Cadw Swyddi’r DU
  • Cytunodd 89% o’r ymatebwyr fod y cymorth a gawsant gan Lywodraeth Cymru yn gweithio’n dda ar y cyd â chymorth arall gan y llywodraeth

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS: “Mae’r gyfres o adroddiadau a gynhyrchwyd gan Dirnad Economi Cymru yn dangos effaith cymorth Llywodraeth Cymru yn ystod ac ar ôl pandemig Covid-19. Helpodd cymorth â ffocws a ddarparwyd drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i sicrhau swyddi a diogelu busnesau yn ystod cyfnod anodd.

“Rwy’n falch o weld busnesau nid yn unig wedi mynd ymlaen i gyflogi mwy o bobl ers y pandemig, ond mae llawer hefyd yn credu y byddant yn gweld niferoedd eu gweithwyr yn tyfu yn y 12 mis nesaf.

“Er gwaethaf anawsterau economaidd parhaus yn dilyn dirywiad digynsail, rwy’n falch o weld y busnesau rydym yn eu cefnogi wedi cynnal optimistiaeth ofalus ac yn dal i weld achos am dwf er gwaethaf rhagolygon economaidd anodd.”

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “ Mae’r dadansoddiad parhaus o gymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, ac asesiad amserol o iechyd y busnesau hynny a gefnogwyd yn ystod y pandemig, yn hynod werthfawr ar adeg pan fo llawer o gwmnïau’n parhau i wynebu ansicrwydd economaidd pellach ac amgylchiadau masnachu anodd.”

“Mae’r adroddiad yn nodi manteision amlwg y Gronfa Cadernid Economaidd, gan ddangos sut mae cymorth wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru wedi cael effaith gref, gadarnhaol ar adegau o’r fath – a byddwn ni ym Manc Datblygu Cymru yn parhau i weithio ochr yn ochr â’n holl bartneriaid i gefnogi busnesau Cymru.”

Dywedodd Max Munday o Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, un o awduron yr adroddiad: “Mae wedi bod yn galonogol gweld effeithiau cadarnhaol y Gronfa Cadernid Economaidd ar greu a diogelu swyddi, yn ogystal ag ar gadernid a goroesiad busnes.”

“Fodd bynnag, mae set newydd anodd o amodau economaidd bellach yn wynebu busnesau Cymru, a byddwn yn archwilio’r rhain drwy’r don olaf o waith arolygu ac yn adrodd arnynt yn ddiweddarach eleni.”

Bydd yr adroddiad pwrpasol terfynol yn y gyfres hon yn cynnwys dadansoddiad o arolwg hydredol o dderbynwyr ymyriadau ariannol Covid-19 Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ton olaf o arolygon a gynhelir yn ystod hanner cyntaf 2023.