Arbenigwyr ceir hen ffasiwn yn sefydlu busnes newydd gyda benthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Chris-Stork
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
JNB Autos

Mae dau o selogion hirdymor hen geir clasurol wedi sefydlu eu garej eu hunain i arbenigo mewn atgyweirio ac adnewyddu ceir clasurol, gyda chefnogaeth benthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Dechreuwyd JNB Autos, sydd wedi'i leoli yn Nhonyrefail, gan y ffrindiau Benjamin Morgans a Jonathan Clement. Gan ddod â'u profiad o weithio ar geir clasurol ynghyd, bydd JNB Autos yn gwasanaethu ac yn cynnal a chadw hen geir clasurol gan gynnwys Porsche, Jaguar, Mustang, Mercedes, BMW ac eraill. Bydd hefyd yn cynnig gwasanaethu ac atgyweirio ceir nad ydynt yn glasurol.

Fe wnaeth y benthyciad o £50,000, drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, helpu’r busnes i sefydlu mewn garej yn Ystâd Ddiwydiannol Gelligron.

Dywedodd Benjamin Morgans, cyd-berchennog JNB Autos: “Roedd amseriad y benthyciad hwn yn wych i ni. Mae gen i a Jonathan brofiad personol a phroffesiynol o adfer a gweithio ar geir hen ffasiwn, ac roedden ni eisiau cymryd y cam i sefydlu busnes ar ein pennau ein hunain.

“Gwelsom yr adeilad yng Ngelligron ac roedd yn hawdd iawn i ni allu ei weld yn diwallu ein hanghenion. Roedd y gefnogaeth a gawsom gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod yn gallu mynd i’r afael ag o a’i ailffitio’n gyflym, gan roi’r lle a’r hyder yr oeddem ei angen i ddechrau ymgymryd â gwaith o’r diwrnod cyntaf un.”

Meddai Chris Stork, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae ein buddsoddiadau ar gael er mwyn helpu busnesau i ddechrau a thyfu, ac mae JNB Autos yn enghraifft ardderchog o dîm sydd wedi dechrau busnes o’r newydd a oedd yn gwybod beth roedden nhw ei eisiau, gyda phrofiad cryf yn eu maes. Mae ein buddsoddiad wedi eu helpu nhw i ddechrau ymgymryd â’r gwaith yn gyflym, gan roi’r cyfle iddyn nhw ganolbwyntio ar adeiladu eu sylfaen cwsmeriaid a’u henw da.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn yn cefnogi busnesau Cymru gyda thelerau o hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael o £25,000 i £10 miliwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i weld https://developmentbank.wales/cy/benthyciadau-busnes-bach-yng-nghymru