Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi mewn cartref gofal tai Maesteg

Rhiannon-Brewer
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
maesteg care home

Mae gan Gartref Gofal Maesteg yn Aberpennar berchennog newydd.

Gyda chyllid ar ffurf micro-fenthyciad gan y Banc Datblygu Cymru, morgais gan Fanc Barclays a chyllid personol, mae Doctor Neelanjan Bhaduri wedi prynu'r busnes, sy'n gartref i 11 o drigolion dros 65 oed. Mae'r eiddo ar wahân wedi'i osod mewn tiroedd aeddfed helaeth ar ochr ddeheuol Ffordd Aberdâr.

Wedi iddo fod yn gartref gofal preswyl ers dros 20 mlynedd, mae Cartref Gofal Maesteg yn cael ei reoli gan Melanie Cryer ac mae'n cyflogi 17 o staff lleol. Mae'r tîm yn darparu gofal 24 awr, gofal galwedigaethol ac seibiant.

Mae Doctor Neelanjan Bhaduri wedi caffael y busnes gan Linda Ackroyd ac mae'r pryniant yn dod i rym ar unwaith. Meddai: "Mae Cartref Gofal Maesteg yn darparu cartref am oes i'r trigolion yn eu cymuned leol. Mae Melanie a'i thîm yn gweithio'n galed i ddarparu cefnogaeth a gofal personol gydag ymagwedd ofalgar a chynnes sy'n cael ei werthfawrogi gan y trigolion a'u teuluoedd fel ei gilydd.

"Mae hyn yn gyfle perffaith i mi allu canolbwyntio ar ddarparu gofal preswyl safonol i bobl leol a'r ansawdd bywyd gorau posibl mewn amgylchedd sy'n lân, yn gyfforddus, yn ddiogel ac yn groesawgar.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i Rhiannon a'r tîm yn y banc datblygu am ein cynorthwyo ac am eu cymorth amhrisiadwy. Eu hyblygrwydd a'u dealltwriaeth sydd wedi fy ngalluogi i fanteisio ar y cyfle busnes a'r ffordd o fyw hwn."

Mae Rhiannon Brewer yn uwch swyddog buddsoddi gyda'r tîm micro-fenthyciadau gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: "Gallwn helpu gweithwyr proffesiynol fel Doctor Bhaduri i fuddsoddi mewn cyfleoedd busnes gyda benthyciadau hyblyg sydd wedi'u teilwra i ddiwallu union anghenion.

"Mae rôl gofal yn ganolog i gymunedau cryf a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gofal yn un o'r sectorau sylfaen a gefnogir gan y Cynllun Gweithredu Economaidd. Mae o wastad yn rhywbeth arbennig o foddhaol cefnogi busnesau â phwrpas cymdeithasol gan eu bod yn chwarae rhan bwysig wrth dyfu ein heconomi yn gynhwysol, gan ledaenu cyfle a hyrwyddo lles. Dymunwn bob llwyddiant i Doctor Bhaduri."

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Gronfa Benthyciadau Micro-fusnesau Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael i fusnesau bach ac unig fasnachwyr yng Nghymru gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng un a deng mlynedd.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr