Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi arian cyllido ar gyfer datblygiad porthordy moethus gwerth miliwn o bunnoedd yn Sir Ddinbych

Scott-Hughes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Dechrau busnes
Andrew Williams-Owen, Jamie Hughes, Scott Hughes, Rhian Jones (DBW Portfolio Monitoring).

Mae datblygiad porthordai moethus diweddaraf gwerth miliynau o bunnoedd yn Sir Ddinbych wedi sicrhau cefnogaeth Banc Datblygu Cymru.  

Caeodd Gwesty a Pharc Porthordai Bryn Morfydd yn Llanrhaeadr, ger Dinbych, ym mis Ionawr 2009 ac fe ddadfeiliodd. Bydd y safle 15 erw nawr yn cael ei ail ddatblygu gan Jamie Hughes o HHH Park No 1 Limited gyda benthyciad o £2.2 miliwn gan Gronfa Busnes Cymru yn cael ei ddefnyddio i ran-ariannu adeiladu 68 o borthordai moethus.

Cwblhawyd y cytundeb gyda chymorth Lanyon Bowdler, cwmni cyfreithiol yng Ngogledd Cymru, a weithredodd ar ran HHH Park Rhif 1 Limited. Gweithredodd James Guile o Hugh James ar ran Banc Datblygu Cymru. 

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector parciau gwyliau fel perchennog Hughes Holiday Homes Limited, mae Jamie hefyd yn cael cefnogaeth y cyd-gyfarwyddwr a’r buddsoddwr Andrew Williams-Owen a’r arbenigwyr adeiladu hamdden o Swydd Gaer, Peter Harding & Co Limited, sy’n gwneud yr holl waith seilwaith.  

Dywedodd Jamie Hughes: “Mae Gogledd Cymru yn gartref i rai o’r parciau porthdai mwyaf unigryw a gwerth uchel yn y DU ond mae’r galw’n parhau i fod yn fwy na’r cyflenwad. Mae aros yn y wlad hon ar wyliau a gweithio gartref yn cyfrannu at hyn wrth i bobl chwilio am ffordd wahanol o fyw.  

“Gyda chefnogaeth y Banc Datblygu, mae caffael a datblygu Bryn Morfydd yn rhoi’r cyfle i ni ddod â’r safle amlwg hwn yn ôl i’w hen ogoniant ac yn y pen draw fe fydd yna 89 o borthordai moethus a gwesty 39 ystafell wely. Bydd wir yn dod yn hafan ddiogel a hardd i’r rhai sy’n chwilio am foethusrwydd sy’n byw mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.”  

Dywedodd Scott Hughes o Fanc Datblygu Cymru: “Mae gan Jamie hanes rhagorol ac mae’n adnabod y farchnad fel cefn ei law. Mae ganddo gefnogaeth tîm hynod brofiadol sy’n rhannu ei angerdd dros ddatblygu parciau porthordai moethus pum seren . Bydd ein buddsoddiad yn hwb i’w groesawu i’r economi leol yn sgil ail ddatblygu’r safle diffaith ynghyd â chreu mwy o letai gwyliau o ansawdd uchel a swyddi i bobl leol.”  

Dywedodd Ed Nutting o Lanyon Bowdler Solicitors: “Mae twristiaeth eisoes wedi chwarae rôl hanfodol yn economi Gogledd Cymru, felly mae adfywiaeth y safle hwn yn hwb ardderchog i’r holl ardal. Roedd yn bleser i ni allu helpu gyda’r materion cyfreithiol a oedd angen eu cwblhau cyn i HHH Park No 1 Limited allu prynu’r safle, a dymunwn pob llwyddiant iddynt am y dyfodol.” 

Ariennir Cronfa Busnes Cymru gwerth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda thymhorau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.