Banc Datblygu Cymru yn gweini hyd at £15,000 ar gyfer siop goffi ddi-glwten fydd yn agor yn yr Eglwys Newydd

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Dechrau busnes
Against the Grain

Bydd siop goffi gyfan gwbl ddi-glwten gyntaf Caerdydd yn agor ar ddydd Sadwrn, Mehefin 25ain ar Heol Merthyr yn yr Eglwys Newydd.

Mae'r gwaith o gydosod 'Against the Grain' bellach wedi'i gwblhau gyda'r perchennog, y Cyfarwyddwr, Frazer Twigg, wedi sicrhau benthyciad micro o £15,000 gan Fanc Datblygu Cymru i helpu i ariannu ei fenter busnes newydd. Gweinir amrywiaeth o goffi Barista a diodydd oer, prydau ysgafn a byrbrydau cartref sydd i gyd yn ddi-glwten, a bydd y siop goffi yn galluogi cwsmeriaid a phobl sydd ag anoddefiad i glwten i fwynhau bwyd a diod yn ddiogel heb y risg bosibl o groeshalogi.

Gyda chefndir mewn gwasanaeth cwsmeriaid, mae Frazer wedi'i ysbrydoli i sefydlu'r busnes gan ei bartner hirdymor Chris a gafodd ddiagnosis ei fod yn dioddef o glefyd coeliag yn 2018. Darganfu'r cwpl nad oedd unrhyw siopau coffi na becws lleol a oedd yn gyfan gwbl ddi-glwten yn unig - felly aethpwyd ati i ddechrau cynllunio'r busnes newydd.

Mae Frazer wedi mynychu nifer o weithdai a chyrsiau sy’n cael eu rhedeg gan Busnes Cymru i’w helpu i baratoi ar gyfer rhedeg ei fusnes ei hun ac mae hefyd wedi cwblhau cwrs Sgiliau Barista City & Guilds. Mae'n disgwyl cyflogi tri o bobl a chydag ethos sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol, bydd yn cyrchu cymaint o gynhwysion a chynhyrchion mor agos i'w cartref â phosibl.

Meddai Frazer: “Mae cymaint ag un o bob deg o bobl yn anoddefgar i glwten ac mae gan un o bob 100 afiechyd coeliag ond mae’n gallu bod yn hynod o anodd bwyta allan heb fod ofn croeshalogi. Mae tuedd gynyddol hefyd sy'n golygu bod pobl sy'n ymwybodol o iechyd yn dewis cynhyrchion di-glwten yn gynyddol. Mewn gwirionedd, disgwylir i'r farchnad fyd-eang ar gyfer bwyd di-glwten ehangu'n sylweddol erbyn 2025, o $3.73biliwn i $6.43biliwn.

“Mae Against the Grain yn bersonol iawn i ni a dyna pam rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Banc Datblygu am eu cymorth i wneud iddo ddigwydd. Fel cwmni newydd, rydw i wedi bod yn awyddus i fanteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael fel ein bod ni yn y sefyllfa gryfaf bosibl i ddechrau gweithredu ac adeiladu busnes llwyddiannus a chynaliadwy. Ni allwn aros i agor ein drysau a chroesawu ein cwsmeriaid cyntaf.”

Ychwanegodd Donna Strohmeyer o Fanc Datblygu Cymru: “Mae Frazer yn enghraifft wych o sut y gall ein micro fenthyciadau helpu mentergarwyr ac unig fasnachwyr i ddechrau neu ehangu eu busnes gyda benthyciadau o hyd at £50,000. Roedd ymrwymiad ac angerdd Frazer yn sefyll allan o’r sgwrs gyntaf a gawsom felly mae wedi bod yn bleser ei helpu ar ei daith ac rydym yn edrych ymlaen at ein hymweliad cyntaf ag Against the Grain.”

Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £30 miliwn yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng blwyddyn a deng mlynedd.