Canllaw ar sut i gadw gweithwyr

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
employee retention

Mae recriwtio’r doniau gorau bob amser yn her ac yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol o amser ac arian. Yn ddiweddar, mae’r her i lawer o fusnesau wedi bod yn fwy nag erioed, gyda phrinder staff dybryd yn cael ei brofi ar draws bron pob sector. Mae cadw gweithwyr yn un strategaeth a all helpu cwmnïau i reoli'r prinder.

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

Mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos er bod y twf cyflym mewn swyddi gweigion a welwyd yn ystod haf 2021 wedi arafu’n sylweddol, mae’r niferoedd uwch o swyddi gweigion, ochr yn ochr â lefelau isel o ddiweithdra, yn dynodi marchnad lafur hanesyddol o dynn. Rhwng Mai a Gorffennaf 2022, arhosodd nifer y bobl ddi-waith i bob swydd wag ar y lefel isaf erioed, sef 1.0.

Dywedodd Pavan Arora, Prif Swyddog Masnachol yn asiantaeth recriwtio Yolk Recruitment o Gaerdydd, cwmni yr ydym wedi buddsoddi ynddo, wrthym fod “nifer y swyddi gwag yn y DU yn dechrau sefydlogi, er ei fod yn dal i fod ar y lefelau uchaf erioed. Fodd bynnag, mae ymchwydd enfawr bellach mewn busnesau sydd, heb unrhyw fai arnyn’ nhw eu hunain, yn gorfod canolbwyntio ar benodi staff i amnewid y staff sy’n chwilio am swyddi newydd i wrthsefyll costau byw cynyddol a chwyddiant.

“Tâl cydnabyddiaeth ar hyn o bryd yw’r prif ffactor sy’n denu gweithwyr; fodd bynnag, mae yna bethau eraill y gall busnes eu gwneud i reoli prinder staff. Un strategaeth yw canolbwyntio ar gadw. Mae llawer o bobl sy'n ymuno â'r farchnad gyflogaeth yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn teimlo nad yw trafodaethau gyrfa yn digwydd mwyach yn y sefydliad y maent yn gweithio iddo. Felly, mae'n ymwneud â chyfathrebu, cynnal gwerthusiadau rheolaidd, a helpu gweithwyr i ddeall pa sgiliau y mae angen iddynt eu datblygu yn eu rôl bresennol.

“Rydym yn gweld nad yw'r sgyrsiau hynny sy'n canolbwyntio ar gadw yn digwydd yn gyffredinol. Nid yw’r busnesau sy’n gwneud hyn yn dda iawn ac sy’n canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa yn cael y sefyllfa staffio mor anodd.”

Gan gadw hyn mewn golwg, rydym wedi llunio'r canllaw hwn ar gadw gweithwyr. Rydym yn edrych ar beth yn union yw cadw gweithwyr a'r buddion sydd ganddo i’w gynnig i fusnesau, cyn i ni fynd ati i ddarparu rhai awgrymiadau allweddol.

Gobeithio, drwy ganolbwyntio ar gadw, y byddwch yn lleihau’r angen i fynd drwy’r broses recriwtio gostus. Nid yn unig hynny, ond trwy wneud eich busnes y math o le y mae cyflogeion am aros ynddo, byddwch yn gwella brand eich cyflogwr ac yn ei chael yn haws i ddenu’r doniau gorau.

Os oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich busnes, boed hynn er mwyn ehangu eich tîm neu at ddiben gwahanol, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy, neu gwnewch gais nawr.

Beth mae cadw gweithwyr yn ei olygu?

Mae cadw gweithwyr yn cyfeirio at yr holl arferion a pholisïau y mae cwmni'n eu mabwysiadu er mwyn cadw gweithwyr o safon a thrwy hynny leihau trosiant gweithwyr digroeso.

Fe'i mynegir yn aml fel canran sy'n ymwneud â chyfran y gweithlu sy'n aros gyda chwmni dros gyfnod penodol o amser.

Er mwyn cyfrifo cyfradd cadw eich cyflogai, byddech yn rhannu nifer y cyflogeion a arhosodd yn eich busnes drwy gydol cyfnod penodol â nifer y cyflogeion a ddechreuodd ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod hwnnw, ac yna’n lluosi â 100.

Er enghraifft, os oes gan eich cwmni ddeg o weithwyr ar 1 Ionawr, a bod wyth o'r gweithwyr hynny yn parhau yn y mis Ionawr canlynol, eich cyfradd cadw cyflogeion am y flwyddyn fyddai 80%.

Mae llawer o fesurau y gall busnes eu cymryd i wella eu cyfradd cadw gweithwyr. Byddwn yn amlinellu rhai o'r rhain isod – fodd bynnag, yn gyntaf, gadewch i ni edrych yn agosach ar pam mae cadw gweithwyr mor bwysig i fusnesau.

Pam mae cadw gweithwyr yn bwysig?

Mae gweithwyr da yn gwneud byd o wahaniaeth i berfformiad cwmni. Mae aelodau dawnus, gweithgar o'r tîm yn ased hynod werthfawr a gall fod yn anodd cael rhywun yn eu lle.

Dyma rai o'r prif ffyrdd y gall cadw gweithwyr fod o fudd i'ch busnes.

Llai o gostau

Gall llogi gweithwyr newydd fod yn ddrud ac fe all gymryd llawer o amser. Mae llawer o gamau i'w cymryd, gan gynnwys hysbysebu'r swydd, sgrinio a chyfweld ymgeiswyr, a'u derbyn a'u hyfforddi.

Mwy o gynhyrchiant

Gall trosiant gweithwyr uchel arwain at golli cynhyrchiant. Mae'n bosibl y bydd bwlch amser i ddechrau rhwng gweithiwr yn gadael a derbyn y gweithiwr newydd, ac yna fe all gymryd amser i'r gweithiwr newydd ddod i arfer â'r swydd a gweithio ar ei lefel fwyaf cynhyrchiol.

Bydd gweithwyr sydd wedi aros yn y busnes ers peth amser, ar y llaw arall, fod yn fwy tebygol o fod wedi datblygu yn eu rôl a chael dealltwriaeth ddofn o'r sefydliad. Efallai eu bod yn cymryd mwy o ran ac yn teimlo eu bod wedi buddsoddi mwy yn llwyddiant y busnes. Hefyd, yn bwysig, byddant yn gallu rhannu eu gwybodaeth a'u profiad gydag eraill.

Gwell morâl

Os yw cydweithwyr yn aml yn ymddiswyddo, gall fod yn anoddach adeiladu diwylliant cwmni cadarnhaol, a gallai gael effaith andwyol ar forâl. Efallai y bydd angen i aelodau presennol y tîm ysgwyddo llwyth gwaith ychwanegol, a allai arwain at straen ac anfodlonrwydd.

Gwell profiad cwsmer

Os yw'ch gweithwyr yn llawn cymhelliant ac yn hapus, yna maent yn fwy tebygol o fod eisiau sefydlu perthynas dda gyda chwsmeriaid a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Bydd gan weithwyr profiadol hefyd y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddatrys problemau cwsmeriaid. Ar y llaw arall, os yw'ch gweithwyr bob amser yn mynd a dod, gall fod yn heriol datblygu perthnasoedd cryf â chwsmeriaid, a gallai hyd yn oed effeithio'n negyddol ar sut mae'ch brand yn cael ei weld yn allanol.

Gall yr holl fanteision hyn yr ydym wedi'u trafod - profiad gwell i gwsmeriaid, costau llogi is, a chynhyrchiant cynyddol - gael effaith sylweddol ar refeniw, elw, a thwf eich busnes.

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau meddwl ynghylch sut y gallech wella eich gallu i gadw gweithwyr.

1. Darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol

Gall pawb yn eich sefydliad elwa o ganolbwyntio ar ddysgu a datblygu. Yn enwedig nawr, pan fo llawer o gyflogwyr yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ymgeiswyr sydd â’r sgiliau cywir, mae’n gwneud hyd yn oed mwy o synnwyr i ddarparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i uwch sgilio neu ail sgilio eich cyflogeion presennol.

Ac o safbwynt eich gweithwyr, maent yn debygol o deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cymell yn fwy os byddwch yn rhoi mynediad iddynt at yr adnoddau dysgu sydd eu hangen arnynt i ennill sgiliau newydd a dod yn fwy gwybodus a hyderus yn y gwaith.

Gall dysgu a datblygu ynddo’i hun wneud llawer i wella eich gallu i gadw gweithwyr; fodd bynnag, bydd ei gysylltu â chyfleoedd dilyniant mewnol yn cael hyd yn oed mwy o effaith.

Gall gwobrwyo datblygiad gyda dyrchafiadau a chodiadau cyflog roi hwb sylweddol i forâl – ac nid yn unig i’r gweithwyr sy’n cael dyrchafiad. Bydd cael a rhannu'r straeon llwyddiant mewnol hyn yn amlygu i gydweithwyr eraill y gallant hwythau hefyd symud ymlaen yn y sefydliad.

Gan gadw hyn mewn golwg, mae'n bwysig cynnal cyfathrebu rheolaidd a chlir gyda'ch gweithwyr ynghylch datblygiad gyrfa. Wrth gwrs, dylech osgoi gwneud unrhyw addewidion na allwch eu cadw, ond bydd y sgyrsiau hyn yn eich helpu i ddeall sut maen nhw'n dod o hyd i'w swydd bresennol a beth yw eu nodau tymor byr, canolig a hir. Yna gallwch weithio gyda'ch gilydd i geisio datblygu eu rôl mewn ffordd sydd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion strategol eich sefydliad.

2. Gwella'r broses ymuno

Pan fyddwch chi wedi treulio amser ac arian yn llogi gweithiwr newydd, y peth olaf rydych chi ei eisiau yw eu colli yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, cyn iddynt ddod yn fwyaf cynhyrchiol. Yn ôl ymchwil gan y Brandon Hall Group, mae sefydliadau sydd â phroses ymuno cryf yn gwella eu cyfradd cadw staff a logir o’r newydd o 82% a chynhyrchiant dros 72%.

Mae proses ymuno effeithiol yn dechrau cyn diwrnod cyntaf y cyflogai - dyma'r hyn y cyfeirir ato'n aml fel 'cyn-fyrddio'. Yn ystod yr amser rhwng derbyn y cynnig swydd a’r dyddiad dechrau, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgysylltu â nhw. Bydd anfon e-bost croeso gyda gwybodaeth ddefnyddiol yn helpu i leddfu unrhyw bryderon sy’n ymwneud â’r diwrnod cyntaf hwnnw. Gallech hyd yn oed eu gwahodd i'ch swyddfa neu i unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol fel y gallant gwrdd â'u cydweithwyr newydd.

Mae hefyd yn syniad da gwneud cymaint o'r gwaith papur â phosibl cyn iddynt ddechrau. Fel hyn, gallwch ganolbwyntio ar wneud iddynt deimlo bod croeso iddynt a'u cynnwys yn eu dyddiau cyntaf, yn hytrach na'u cael i dreulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn llofnodi dogfennau.

Nid yw'r broses ymuno yn dod i ben ar ôl wythnos gyntaf y dechreuwr newydd, neu hyd yn oed eu mis cyntaf. I fod yn fwyaf effeithiol, dylai bara o leiaf ychydig fisoedd.

Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud eich rhaglen fyrddio'n llwyddiannus - o osod disgwyliadau clir a darparu hyfforddiant priodol i amserlennu cofrestriadau rheolaidd. Gallech hyd yn oed neilltuo mentor neu gyfaill i'r cyflogai newydd. Yn y bôn, fodd bynnag, bydd proses ymuno dda yn gwneud i'r gweithiwr deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, yn rhan o'r tîm, ac yn frwdfrydig am y rôl - heb eu llethu a'i ymddieithrio.

3. Hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith

Mae cydbwysedd bywyd a gwaith yn agwedd hanfodol sy’n rhan o gadw gweithwyr, gan gael effaith fawr ar foddhad mewn swydd, yn ogystal ag iechyd a lles cyffredinol eich gweithwyr. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar gyfer eich gweithwyr.

Un ffordd yw cynnig gwaith o bell neu hybrid, sy'n lleihau amser a straen cymudo. Ers y pandemig, mae'r opsiwn i weithio o bell o leiaf peth o'r amser wedi dod yn rhan annatod o’r drefn i lawer o bobl, gydag arolwg Robert Half yn dangos y byddai 50% o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gartref yn chwilio am swydd newydd pe bai angen iddynt ddychwelyd i'r swyddfa i weithio’n llawn amser.

Bydd darparu'r opsiwn i weithio gartref (neu unrhyw le) hefyd yn rhoi mynediad i chi at gronfa o ddoniau sy’n llawer ehangach. Mae'n bwysig cydnabod, fodd bynnag, y gall gweithwyr cyflogedig losgi allan hyd yn oed wrth weithio o bell. Mewn gwirionedd, weithiau gall y ffiniau aneglur rhwng y cartref a'r gwaith wneud pobl hyd yn oed yn fwy agored i orbryderu.

I wrthweithio hyn, gallech ystyried cyflwyno trefniadau gwaith hyblyg eraill fel oriau hyblyg. Mae hefyd yn bwysig cofio efallai na fydd eich cyflogeion bob amser yn mynegi hynny pan fyddant yn cael trafferthion. Felly, gwyliwch am arwyddion o straen, gwnewch amser i gysylltu â nhw'n rheolaidd ac adolygu eu llwythi gwaith, eu hannog i gymryd eu gwyliau blynyddol â thâl, a meithrin amgylchedd lle mae pobl yn teimlo y gallant gyfathrebu'n agored.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am wahanol ddulliau o weithio hyblyg a rhai o'r ystyriaethau allweddol i fusnesau, edrychwch ar yr erthygl hon gan Yolk Recruitment ar weithio hyblyg yn 2022.

4. Datblygu ac adolygu eich pecyn buddion

Bydd cadw anghenion eich gweithwyr mewn cof wrth feddwl am y buddion a gynigiwch yn eich helpu i greu pecyn buddion gwirioneddol ddeniadol a chyflawn. Edrychwch ar eich gweithlu cyfan a cheisiwch wneud yn siŵr eich bod yn darparu rhywbeth o werth i bawb.

Y ffordd fwyaf effeithiol o ddeall yr hyn y mae eich cyflogeion ei eisiau mewn gwirionedd yw trwy gael adborth. Darganfyddwch pa fuddion y maent ac nad ydynt yn eu defnyddio eisoes a beth yw eu blaenoriaethau.

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol, wrth gwrs, y gall pecynnau buddion fod yn ddrud, a bydd y costau’n codi wrth i’ch busnes dyfu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gynllunio’n ariannol. Ond yn gyffredinol, mae datblygu pecyn buddion da yn fuddsoddiad gwerth chweil, gan eich helpu i ddenu a chadw staff dawnus. Mae yna hefyd fuddion y gallwch eu darparu am ychydig neu ddim cost i chi, fel cod gwisg hamddenol, dosbarthiadau ioga, neu amseroedd gwaith hyblyg.

Unwaith y byddwch wedi adeiladu eich pecyn buddion, peidiwch ag anghofio cyfathrebu yn ei gylch, fel bod eich gweithwyr yn gwbl ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddynt. Ac, yn olaf ond nid lleiaf pwysig, adolygwch eich buddion yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddeniadol i'ch cyflogeion.

I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl hon gan Yolk Recruitment ar ailwampio eich pecyn buddion, sy'n cynnwys crynodeb o'r buddion y maent yn eu cynnig fel sefydliad.

Os ydych chi eisiau darganfod sut mae busnes go iawn arall wedi gweithredu strategaethau cadw gweithwyr yn llwyddiannus, yna edrychwch ar ein hastudiaeth achos cadw gweithwyr.