Cau'r bwlch rhwng mentrau bach, canolig a mawr yng Nghymru

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
bespoke report

Mae Dirnad Economi Cymru (DEC) wedi cyhoeddi'r adroddiad diweddaraf ar gwmnïau canolig eu maint a strwythur busnes Cymru

Gellir gwneud mwy i annog datblygiad busnesau bach a chanolig yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf i fusnesau canolig eu maint a strwythur busnes Cymru gan Dirnad Economi Cymru (DEC).

Ac yntau wedi cael ei sefydlu yn 2018 fel cydweithrediad rhwng Ysgol Busnes Caerdydd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Banc Datblygu Cymru, mae DEC yn monitro gweithgaredd busnesau bach a chanolig Cymru, ffactorau sy'n effeithio ar eu datblygiad a chynnydd yr economi ranbarthol.

Cyhoeddwyd heddiw (21 Tachwedd), yn yr adroddiad diweddaraf o'r felin drafod bod gan Gymru, yn debyg i rannau eraill o'r DU, nifer gymharol fach o gwmnïau canolig a mawr yn y strwythur busnes o gymharu â chwmnïau llai. Yn rhinwedd eu maint, mae'r cwmnïau hyn yn gwneud cyfraniad anghymesur o bwysig i'r economi ranbarthol o ran trosiant, cyflogaeth a chynhyrchedd.

Fodd bynnag, mae'r adroddiad wedi canfod bod mentrau canolig wedi cofnodi cyfraddau twf cymharol isel mewn cyfrif a chyfran menter yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddarparu peth tystiolaeth o gyfraddau esblygiad busnes isel i gwmnïau canolig.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno cymariaethau rhwng Cymru a'r DU a gweinyddiaethau a rhanbarthau datganoledig eraill, yn ogystal â rhwng gwledydd y DU a'r UE. Mae'r cymariaethau o ran dosbarthiad mentrau a pherfformiad cwmnïau o ddosbarthiadau o wahanol faint o ran cynhyrchiant.

Mae'r adroddiad yn awgrymu, yn economi gyfoes Cymru, ei bod yn bwysig i ymyriadau annog twf ac arloesedd cynhyrchiant waeth beth fo maint y cwmni.

Wrth groesawu cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru: “Rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ein buddsoddiadau ar fusnesau meicro, bach a chanolig eu maint, a byddwn yn gweithio gyda busnesau Cymru a phartneriaid eraill i annog twf , arloesedd a dilyniant rhwng ac o fewn dosbarthiadau maint busnes. 

“Trwy waith DEC, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y materion unigryw sy’n wynebu economi Cymru a’i busnesau bach a chanolig a sicrhau bod gennym y gymysgedd iawn o arian i fuddsoddi mewn busnesau Cymreig. Dyna pam mae asesiadau cywir ac amserol DEC ar gyflwr economi Cymru mor bwysig; mae'r data yn ein helpu i gynyddu ein heffaith ar economi Cymru i'r eithaf trwy strwythuro ein pecynnau cyllido i ddiwallu anghenion entrepreneuriaid a busnesau micro, bach a chanolig eu maint. “

Dywedodd Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd:
“Mae’r adroddiad hwn yn awgrymu bod cwmnïau canolig eu maint yn rhan bwysig o’r economi ranbarthol gyfoes. Mae Cymru yn perfformio'n gymharol dda o'i chymharu â'r DU gyfan o ran cyflogaeth ac allbwn mewn cwmnïau canolig eu maint. Fodd bynnag, mae angen deall y ffactorau hynny sy'n pennu esblygiad cwmnïau o faint bach i ganolig. ”

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i weld developmentbank.wales/other-services/economic-intelligence-wales