Croeso i Gymru: Pam fod buddsoddwyr corfforaethol yn croesawu'r amgylchiadau ar gyfer dechrau busnes yng Nghymru?

Rhian-Elston
Cyfarwyddwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Rhian Elston

Mae Rhian Elston yn Gyfarwyddwr Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru sydd newydd ei ffurfio. Mae hi'n dweud mai Cymru wirioneddol yw'r lle i fod ar gyfer buddsoddwyr corfforaethol...

Dim ond dwy awr i'r gorllewin o Lundain mae yna fyd o gyfleoedd newydd. Mae cymuned fusnes fywiog sy'n tyfu yn denu sylw buddsoddwyr corfforaethol yn gynyddol. Croeso i Gymru.

Yma yng Nghymru, mae gennym stori wych i'w dweud. Mae cyfleoedd newydd, mentrau newydd a phartneriaethau newydd yn sbarduno arloesedd ar hyd a lled Cymru wrth i ni weld galw cynyddol gan fuddsoddwyr corfforaethol sy'n awyddus i fanteisio ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.

Mewn gwirionedd, yn ôl ymchwil gan y dadansoddwr Beauhurst, roedd buddsoddiadau ecwiti yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 wedi cynyddu o 30%, ac yn 2017 hyd yn hyn mae 42 o fuddsoddiadau ecwiti wedi'u gwneud ar hyd a lled y wlad. Rwy'n falch o ddweud bod dros hanner y cytundebau hynny yn ymwneud â'r banc datblygu, fel unig neu fel cyd-fuddsoddwr.

Yn ogystal â hynny, mae ein lefelau buddsoddi wedi dyblu bron yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf o £31 miliwn yn 2012/13 i £56 miliwn yn 2016/17 a chafodd hyn ei gyfateb gyda sail cwsmeriaid cynyddol a chymhareb 1: 1 yn cael ei drosoli o'r sector breifat. Mae ein £500 miliwn ni wedi cael ei gyfateb gyda rhyw £600 miliwn o fuddsoddiad preifat, sy'n golygu bod cyfanswm o £1.1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi yn economi Cymru ers i ni gael ein lansio fel Cyllid Cymru yn 2001. Ein huchelgais nawr yw hwyluso buddsoddiad pellach o £1 biliwn yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Cysylltu pobl a lleoedd

Ein sector technoleg sy'n ehangu yn gyflym sydd o ddiddordeb penodol i fuddsoddwyr. Mae nifer o ffactorau wedi cyfuno i gefnogi'r gyriant hwn, sy'n digwydd mewn amgylchedd gwleidyddol lle mae annog buddsoddiad rhanbarthol wedi dod yn flaenoriaeth nodedig gan Lywodraeth y DU.

Pan benderfynodd y cwmni ecwiti preifat LDC ym 2016 i fynd ati i sefydlu ei swyddfa gyntaf yng Nghymru, gyda mandad o fuddsoddi hyd at £100 miliwn fesul bargen mewn busnesau bach a chanolig sy'n canolbwyntio ar dwf a busnesau canolig, rhoddodd hwb o ddifri i hyder buddsoddwyr. Mae ffigurau gan Gymdeithas Cyfalaf Menter Prydain yn cefnogi hyn gyda busnesau yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi gyda chymorth ecwiti yn awr â throsiant cyfunol o bron i £1.5 biliwn a bron i 8000 o weithwyr.

Mae buddsoddwyr corfforaethol a sefydliadol yn gweld Cymru yn lle da i wneud busnes. Mae'r seilwaith sydd ei angen i helpu busnesau i gael yr hwb cychwynnol a dechrau hedfan wedi cymryd camau enfawr ymlaen yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae symudiadau diweddar fel Be the Spark, sy'n dwyn ynghyd ffigurau blaenllaw o fusnes ac academia, yn rhan o'r amgylchedd deinamig hwn. Mae cangen Caerdydd o Entrepreneurial Spark, sy'n rhan o’r cyflymydd pobl am ddim mwyaf yn y byd ar gyfer mentrau yn eu ystod eu camau a’u cyfnodau twf cynnar, a'r   deoryddion busnes a gefnogir gan brifysgolion Cymru yn gwneud gwahaniaeth pendant i'r ffordd y mae syniadau busnes yn dod yn fentrau masnachol llwyddiannus.

Yn arwyddocaol, mae yna lawer o grwpiau diwydiant busnes ar hyd a lled y wlad, megis Busnes Cymru, IOD Cymru, CBI Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar gael yn y lle ac ar yr adeg mae ei angen ac mae'n amrywio o eiddo busnes, i'r cyngor a'r cyllid holl bwysig. Rydyn ni i gyd yn rhannu ymrwymiad go iawn i sicrhau bod yr amodau lle gall busnesau dyfu a ffynnu yn gadarn yn eu lle.

Cefnogi mentrau technoleg arloesol

Gyda chyllid wedi'i sicrhau ar gyfer y chwe blynedd nesaf, rydym yn arbennig o awyddus i fuddsoddi mewn cwmnïau sy'n dechrau, yn rhai camau cynnar neu gwmnïau sefydledig sy'n edrych tuag at ddatblygu a manteisio ar dechnoleg. Mae tua 80 o fusnesau technegol wedi elwa hyd yn hyn yn sgil ein cyfalaf menter i ariannu costau ymchwil a datblygu cyn refeniw.

Mae ein Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru yn cynnig arian cyllido cyflym a syml ar gyfer y camau cynnar hynny ac wedi helpu i ddatblygu'r sylfaen dechnoleg yng Nghymru a all aeddfedu i gael buddsoddiad dilynol o'n cyllid prif ffrwd. Mae hyn yn aml yn cynnwys cyd-fuddsoddiad gan gyfalafwyr menter ac, yn fwy diweddar, buddsoddwyr masnach. Mae Paypal, Intu, Munich Re, Hoya-Pentax; i enwi dim ond ychydig o'r buddsoddwyr corfforaethol yr ydym wedi gweithio â nhw.

Mae ein cefnogaeth gyfunol yn helpu busnesau i gynyddu eu graddfa.

Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi nifer o weithiau yn y cwmni technoleg profiad cwsmer Vizolution sydd â'i bencadlys yn Abertawe dros y pedair blynedd ddiwethaf. Maen nhw wedi cael eu henwi'n ddiweddar fel rhif 259 yn Fast 500 Deloitte Technology EMEA. Maen nhw wedi tyfu'n hynod o gyflym o ddechreuad stond i'r pwynt hwn ym mis Hydref 2017 lle'r oeddem yn rhan o gyd-fuddsoddiad ecwiti gyda Ventures HSBC a oedd yn werth cyfanswm o £5 miliwn.

Mae cyfraniad buddsoddwyr haen uchaf o'r fath yn rhoi’r neges dilysu amlycaf posib i'r cynlluniau busnes y mae'r cwmnïau hyn bellach yn eu datblygu, ac mai Cymru yw'r math o le iawn iddynt wneud hynny. Gyda dros 80 o fusnesau yn ein portffolio technoleg yn unig, mae yna ddwsinau o fusnesau cyffrous camau cynnar sydd eisoes yn dal llygad buddsoddwyr corfforaethol a thai cyfalaf menter fel ei gilydd.

Mae'r ffaith bod costau gweithredu yn sylweddol is yng Nghymru nac yn Llundain yn darparu tynfa arall ar gyfer buddsoddwyr corfforaethol, sydd o ganlyniad yn cael mwy am eu harian, tra bo'r cyfathrebiadau a'r isadeiledd o ansawdd uchel sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediadau busnes modern gydradd ag unrhyw ran arall  o'r DU.

Lle gwych i weithio a chwarae...

Mae Cymru yn ymfalchïo mewn ffordd o fyw y gall ychydig iawn o leoliadau gyfateb iddo. Mae'n golygu ein bod ni'n elwa o gael yr amgylchedd cywir i ddenu busnesau sy'n awyddus i adleoli a chadw'r math o bobl ddawnus sydd eu hangen i'n busnesau cynyddol ffynnu. Mae'n lle gwych i weithio a chwarae - gyda dinasoedd bywiog, cefn gwlad hardd a thraethau gwych.

Mae Cymru wirioneddol yn wlad sy'n gyfoethog o ran amrywiaeth a chyfleoedd. Yma yn y Banc Datblygu Cymru, yr ydym yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o fusnesau dynamig a buasem wrth ein bodd petaech chi'n dod yn rhan o'n stori ni.

Yn y Banc Datblygu Cymru, gallwn gynnig benthyciadau a phecynnau ecwiti a buddsoddiad dilynol o hyd at £5 miliwn hyd at gynnig cyhoeddus cychwynnol. Yn fwy na hynny, rydym bob amser yn annog cyd-fuddsoddiad gan syndicadau, angylion ac unigolion gwerth net uchel.