Cwmni TG yn cymryd swyddfa newydd ym Mae Caerdydd gyda chymorth Banc Datblygu Cymru

Andrew-Drummond
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Twf
Marchnata
Technoleg busnesau
Steer IT Solutions

Mae cwmni TG mawr o Gymru yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous yn ei gartref newydd, diolch i fenthyciad o £289k gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Steer IT Solutions yn darparu gwasanaethau TG i fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys rhwydweithio, seiber ddiogelwch a chysylltedd ffonau symudol.

Lansiwyd y busnes yn 2014 fel cwmni teuluol bach sy’n cael ei redeg gan y tîm gŵr a gwraig Emily a Stuart Steer, gyda’r tîm yn gweithio i ddechrau o swyddfa fach a reolir yn Windsor Place, Caerdydd.

Diolch i’r benthyciad gan y Banc Datblygu, maen nhw bellach wedi prynu eu lleoliad eu hunain ar Stad Ddiwydiannol Southpoint oddi ar Clos Marion, ym Mae Caerdydd.

Dan arweiniad y cyfarwyddwr gweithrediadau grŵp Stuart Steer, mae’r cwmni’n ddarparwr cymorth TG, technoleg, meddalwedd a diogelwch poblogaidd i gwmnïau ledled Cymru gan gynnwys cwmnïau gofal preifat ac iechyd, cwmnïau adeiladu a chyfreithiol i enwi dim ond ychydig o ddiwydiannau a wasanaethir.

Dywedodd Emily Steer, y Cyfarwyddwr: “Roedd ein safle cyntaf yn lle gwych i ni ddechrau fel busnes, ond gan ein bod ni bellach yn bwriadu ehangu a chymryd mwy o rolau, roedd angen i ni gael ychydig o adfywiad o ran ein gofod a chael rhywle mwy.

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn wych. Gyda’u cymorth, llwyddwyd i sicrhau’r safle newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Southpoint mewn da bryd, ac mae symud i’r safle newydd wedi bod yn ddi-boen – sy’n golygu ein bod wedi gallu cadw ein ffocws ar yr hyn a wnawn fel busnes a cefnogi ein cwsmeriaid heb unrhyw ymyrraeth.

“Bydd cael ein safle mwy ein hunain hefyd yn rhoi’r lle sydd ei angen arnom i ehangu’r busnes – boed hynny’n rhoi cyfleusterau hyfforddi pwrpasol i’n staff, neu ystafelloedd cyfarfod mewnol.”

Dywedodd Andrew Drummond, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi Steer IT Solutions i symud. Maen nhw’n enghraifft wych o fusnes blaenllaw yn sector technoleg ffyniannus Cymru, yn darparu gwasanaethau y mae mawr eu hangen i gwmnïau eraill ledled y wlad, ac rydym yn falch o fod wedi rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i ehangu.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn cynnig buddsoddiad ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, gyda benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiad ecwiti ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.bancdatblygu.cymru.