Datgloi potensial economi cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
RLG

Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru, oedd cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau a arweiniodd at greu Busnes Cymru, a Chronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru yn dilyn hynny. Mae’n dweud bod Banc Datblygu newydd Cymru mewn sefyllfa wych i greu gwerth hirdymor.

Mae hwn yn gyfnod na welwyd mo’i debyg erioed o'r blaen i entrepreneuriaid ac i berchnogion busnes yng Nghymru. 

Nid yw mynediad at gyllid effeithiol a chynaliadwy yn y farchnad erioed wedi bod mor bwysig. Wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae gofyn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i greu gwerth hirdymor yn economi Cymru sy'n sbarduno twf ac yn hybu’r broses o ddatblygu diwydiant cynhenid a chynaliadwy. 

Dyna pam mae lansio Banc Datblygu newydd Cymru yn rhywbeth cadarnhaol a chalonogol iawn. Mae hwn yn adnodd unigryw a all fod yn hollbwysig wrth ddatgloi potensial ein heconomi. Bydd pawb, o unig fasnachwyr i fusnesau gweithgynhyrchu canolig neu fusnesau technoleg IP, yn elwa.

Mae aelodau Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru yn dweud wrthym dros ar ôl tro pa mor bwysig yw mynediad at gyllid hyblyg a chyflym er mwyn cynorthwyo twf. O fuddsoddiad cyfalaf i archwilio marchnadoedd newydd ar gyfer allforio, os yw cyllid yn gyfyngedig, mae cyfleoedd yn gyfyngedig. Yn wir, roedd y neges hon yn gwbl glir pan oeddwn i'n arwain yr adolygiad yn 2014 i edrych ar gyfuno cymorth heb fod yn ariannol gan Lywodraeth Cymru â’r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru. 

Mae ar berchnogion busnes angen dull o weithredu sy'n hyblyg, yn gyflym ac yn barod i newid – nid prosesau ymgeisio hirfaith a hirwyntog. Mae angen iddynt allu delio â benthycwyr sydd â meini prawf clir, cryno a hwylus ar gyfer benthyca.   

Mae gan Fanc Datblygu Cymru rôl a chenhadaeth glir, gyda rheolwyr cyfrifon ymroddedig sydd â’r grym i gefnogi busnesau. Mae eu hymrwymiad penodol i sicrhau bod y cwsmer wrth galon y model busnes yn union fel y dylai fod. Ar ben hynny, mae’n dda clywed bod y Banc Datblygu yn gallu buddsoddi ochr yn ochr â chyllidwyr eraill, a’u bod yn fodlon gwneud hynny. Yn fy marn i, y nod yw gwneud beth sy'n iawn i fusnesau unigol, fel sy'n wir am Busnes Cymru – cangen cymorth busnes Llywodraeth Cymru, yr wyf fi’n ei chadeirio. 

Gan weithio ochr yn ochr â Busnes Cymru a'r sector preifat, erbyn hyn mae gan dîm y banc datblygu y cylch gwaith a’r cymhelliant i sicrhau newid parhaol gwirioneddol. Caf ar ddeall y bydd eu rheolwyr cyfrifon profiadol yn cymryd amser i ddod i’ch adnabod chi a’ch busnes, felly fe fydd hi wir yn haws nag erioed i fusnesau gael y cyfalaf angenrheidiol i ddechrau arni, i gryfhau ac i dyfu gyda chyllid newydd. Gyda mwy o gyllid ar gael i ficrofusnesau a chyfnodau benthyca estynedig, mae benthyciadau rhwng £1000 a £5 miliwn ar gael, yn ogystal â chyfnodau ad-dalu o hyd at 10 mlynedd. Dyna'r union beth sydd ei angen ar ein busnesau. 

Rwy'n arbennig o falch o weld bod y Banc Datblygu hefyd yn treblu’r micro-gyllid sydd ar gael, gan godi’r cyfanswm i £18 miliwn. I gyd gyda’i gilydd, bydd £440 miliwn ar gael i fusnesau Cymru, ac mae rhagor o gronfeydd wrthi'n cael eu datblygu. Mae’r arian hwn ar gael ar gyfer busnesau newydd a busnesau sydd wedi cael eu sefydlu. 

Dros y bum mlynedd nesaf, nod y Banc Datblygu fydd cael effaith sy'n werth dros £1 biliwn ar Economi Cymru. Yn sgil hyn, disgwylir iddo gefnogi 1,400 o fusnesau, ac y bydd y busnesau hynny'n creu neu’n diogelu mwy nag 20,000 o swyddi. Mae’r niferoedd hyn yn sylweddol, ac mae’n bwysig ein bod yn sylweddoli hynny. 

Mae arloesi a thwf yn y sector microfusnesau a'r sector busnesau bach a chanolig yn ganolog i'n heconomi. Mae Banc Datblygu Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatgloi’r potensial hwn,  ac mae hyn yn sicr yn newyddion da i bob un ohonom.