Dirnad Economi Cymru yn mynd i'r afael â'r bwlch yn y data cyllid ar fusnesau bach a chanolig (BBaCh) Cymru

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
EIW launch

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi lansio uned ymchwil newydd sydd â'r dasg o fynd i'r afael â'r bwlch yn y data cyllid ar BBaCh Cymru.

Lansiwyd Dirnad Economi Cymru, sy'n gydweithrediad newydd rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ffurfiol gan Ysgrifennydd yr Economi mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Mint Brenhinol yn Llantrisant yr wythnos hon.

Bydd gan yr uned ymchwil newydd gyfrifoldeb am gasglu a dadansoddi data i greu llwyfan annibynnol, cadarn a dibynadwy i lywio penderfyniadau polisi ac ariannu amserol. Nodir ac ymdrinnir â bylchau data fel rhan o'r broses hon.

Bydd Ysgol Busnes Caerdydd, ar ran Dirnad Economi Cymru, yn cynhyrchu adroddiadau chwarterol ar faterion cyllid BBaCh a chyflwr yr economi o safbwynt busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Dros amser bydd hyn yn creu corff o ddadansoddiad gwrthrychol sy’n seiliedig ar ffeithiau.

Yn ogystal ag adroddiadau chwarterol, bydd Ysgol Busnes Caerdydd yn cynhyrchu nifer o adroddiadau pwrpasol yn flynyddol ar faterion allweddol a phynciau sy'n berthnasol i fusnesau yng Nghymru. Bydd y cyntaf o'r rhain yn canolbwyntio ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru mewn perthynas ag allforion.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Cynlluniwyd ein penderfyniad i sefydlu Banc Datblygu Cymru i ategu ein gwasanaethau presennol fel Busnes Cymru ac i roi'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gwmnïau yng Nghymru.

"Bydd creu Dirnad Economi Cymru yn adeiladu ar y thema honno ac yn unol ag uchelgeisiau ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd, byddwn yn cynnal ymchwil i sicrhau bod buddsoddiadau'r Banc Datblygu yn cefnogi'r gwaith o ail-gydbwyso ein heconomïau rhanbarthol a gwledig yn uniongyrchol.

"Bydd hefyd yn llunio'r gwaith o greu atebion ariannu yn y dyfodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u gwreiddio mewn dealltwriaeth gadarn o ddynameg y farchnad fel bod modd sicrhau y gwneir y gorau o effaith cefnogaeth y Banc Datblygu."

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Tom Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Campws Gwyddoniaeth Data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol: "Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn falch o fod yn seiliedig yng Nghymru ac rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch y cyfle hwn i gynyddu twf a chynhyrchedd ar garreg ein drws. A ninnau eisoes yn gartref i ystadegau economaidd y DG, mae pencadlys y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd wedi ehangu yn ddiweddar i fod yn ganolbwynt i wyddoniaeth ddata yn y Llywodraeth. Nawr, bydd ein Campws Gwyddoniaeth Data newydd yn ceisio defnyddio cyfarpar, dulliau ac arferion arloesol i ddeall a chefnogi busnesau a marchnadoedd ariannol yng Nghymru yn well."

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: "Mae Dirnad Economi Cymru yn elfen graidd newydd o'r Banc Datblygu Cymru, a dyma'r diweddaraf o'n mentrau newydd ers i ni lansio ym mis Hydref 2017.

"Mae'r angen am asesiadau manwl gywir ac amserol o gyflwr economi Cymru yn hanfodol o ran ein gallu i ddarparu cymorth ariannol yn briodol i entrepreneuriaid a busnesau micro, bach a chanolig. Rydym yn awyddus i waith yr uned newydd ymgysylltu â chydweithwyr a phartneriaid; annog syniadau, adborth a chydweithio gyda'r disgwyliad y bydd yr adroddiadau a gyhoeddir yn dod yn ffynhonnell newydd ar economi Cymru sy'n cael ei pharchu."

Ychwanegodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr Ymchwil Ymgysylltu ac Effaith yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Bydd ein gwaith gyda Dirnad Economi Cymru yn rhoi dealltwriaeth fanwl o'r materion unigryw sy'n effeithio ar BBaChau Cymru. Bydd yr adroddiadau yn adnodd hanfodol i berchnogion busnes a gwneuthurwyr polisi wrth iddynt ymdrechu i wneud synnwyr o farchnad sy'n newid yn gyflym. Dadansoddiad cadarn a thrylwyr yw'r allwedd i ddatblygu economi fywiog a ffyniannus."

I ddarganfod mwy am Dirnad Economi Cymru ac i lawr lwytho'r cyntaf o'r adroddiadau hyn ewch i https://developmentbank.wales/cy/gwasanaethau/dirnad-economi-cymru