JBF Group yn ehangu gweithrediadau Wrecsam gyda chyllid gan Fanc Datblygu Cymru a Chyngor Wrecsam

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Technoleg busnesau
Ariannu
Twf
Marchnata
JBF Group

Mae’r JBF Group, cwmni peirianneg arbenigol sydd wedi'i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, wedi ehangu ei weithrediadau a chreu naw swydd newydd yn dilyn buddsoddiad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru a chyllid grant gan Gyngor Wrecsam.

Mae’r JBF Group yn fusnes teuluol sy'n arbenigo mewn atebion peirianneg sifil, strwythurol a mecanyddol o ansawdd uchel ar draws ystod o sectorau gan gynnwys pŵer a chyfleustodau cyhoeddus. Mae'n cyflogi 82 o bobl ar draws ei safleoedd yn Wrecsam, Bromborough a Swydd Efrog.

Mae'r pecyn ariannu — a ddarperir drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru — wedi galluogi’r JBF Group i adeiladu gweithdy pwrpasol newydd yn ei ganolfan yn Wrecsam. Mae'r ehangu yn gosod y cwmni mewn sefyllfa dda i ymgymryd â chontractau newydd o dan gylch rheoleiddio AMP8, sy'n sbarduno uwchraddio seilwaith ar draws sector cyfleustodau'r DU.

Mae'r busnes hefyd wedi derbyn cymorth grant gan Gyngor Wrecsam drwy Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU, gan gynnwys £250,000 drwy'r Cynllun Safleoedd ac Eiddo a grant busnes o £31,890.

Dywedodd Ash Jones, Rheolwr Cyllid yn y JBF Group: “Mae’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, a chefnogaeth gan Gyngor Wrecsam, wedi ein galluogi i gynyddu’r gweithlu a’r capasiti yn ein safle yn Wrecsam. Roedd y cymorth a ddarparwyd drwy gydol y broses fuddsoddi yn golygu bod popeth wedi’i wneud mewn modd amserol ac effeithlon.

“Cynigiodd y Banc Datblygu’r cyllid gorau ar gyfer yr hyn yr oedd ei angen arnom, sydd wedi ein galluogi i dyfu ar ein cyflymder ein hunain.”

Dywedodd Stewart Williams ac Aled Robertson, Swyddogion Portffolio yn y Banc Datblygu: “Mae’r JBF Group yn gyflogwr pwysig yn Wrecsam. Maent mewn sefyllfa dda i gefnogi cylchred AMP8 wrth i gwmnïau cyfleustodau fuddsoddi yn eu rhwydweithiau. Rydym yn falch bod ein cyllid wedi helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd a hybu creu swyddi lleol.”

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru gyda thelerau hyd at 15 mlynedd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Banc Datblygu Cymru.