Mae ECL (Environmental Compliance Limited) yn bwriadu ehangu ei weithlu a'i weithrediadau gyda chymorth benthyciad o £150,000 pellach gan Fanc Datblygu Cymru.
Mae'r rownd ddiweddaraf hon o gyllid, yn nodi perthynas hir sefydledig gyda'r banc datblygu, yn dilyn benthyciadau blaenorol i gynorthwyo'r busnes i ddechrau yn 2002 a chyllido pryniant ecwiti yn 2010.
Wedi'i sefydlu yn 2001, mae ECL yn darparu amrywiaeth o brofion hylendid amgylcheddol a galwedigaethol arbenigol yn ogystal â gwasanaethau ymgynghorol amgylcheddol ymgynghorol. I ddechrau, roedd y cwmni'n canolbwyntio ar fonitro allyriadau proses i'r atmosffer a cheisiadau am drwydded amgylcheddol ar gyfer gosodiadau diwydiannol. Fodd bynnag, mae'r cwmni wedi tyfu ac arallgyfeirio dros y blynyddoedd, ac mae bellach yn cynnig gwasanaethau ychwanegol megis ceisiadau cynllunio, asesiadau effaith amgylcheddol, systemau rheoli amgylcheddol a diwydrwydd dyladwy, yn ogystal â phrofi gwasanaethau ar gyfer iechyd galwedigaethol yn y gweithle.
Ar hyn o bryd mae ECL yn cyflogi 25 o staff ac mae ganddynt swyddfeydd yng Nghaerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae rhwydwaith o weithwyr lloeren a chymdeithion yn darparu presenoldeb rhanbarthol i'r cwmni ar draws y DU hefyd.
Bydd y rownd gyllido ddiweddaraf yn caniatáu i'r cwmni ehangu trwy dargedu marchnadoedd newydd a recriwtio saith aelod newydd o staff sy’n meddu ar sgiliau medrus ar y tîm.
Yn ddiweddar, mae'r cwmni, sydd â throsiant o ryw £1.8m, wedi gweld cryn ddatblygiad i'r busnes trwy gaffael cleientiaid, rhwydweithio a chyd-fentrau newydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gyda mwy o gyfleoedd posibl yn agor dramor yn Ewrop ac yn Asia.
Dywedodd David Boles, y Rheolwr Gyfarwyddwr a'r cyd-sylfaenydd: "Hyd yn hyn mae ein busnes preifat wedi llwyddo i dyfu'n organig a bellach ni yw’r cwmni mwyaf yng Nghymru sy'n darparu'r gwasanaethau profi amgylcheddol ac ymgynghorol hyn. Mae gennym hanes profedig o ran darparu ein gwasanaethau i gwsmeriaid rhyngwladol sy'n cwmpasu Ewrop, Affrica, Asia a Gogledd America. Rydym yn darparu ein gwasanaethau i lawer o gwmnïau adnabyddus, gan gynnwys Airbus, Veolia, Tata Steel, BAE, Warburtons, RWE npower, Kimberly-Clark, Nestle a Rolls-Royce.
"Gyda'r rownd ddiweddaraf hon o gyllid gan y Banc Datblygu Cymru mae'n ein cynorthwyo i fanteisio ar gyfleoedd newydd i dyfu mewn marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg a recriwtio aelodau profiadol o staff. Mae hefyd yn gyfle i ni ehangu i'n marchnadoedd traddodiadol ein hunain, lle rydym eisoes wedi cael llwyddiant mawr a lle mae gennym brofiad blaenorol ar brosiectau amlddisgyblaethol.
“Mae cael y gefnogaeth ariannol gan y banc datblygu ers i'r cwmni ddechrau wedi chwarae rhan arwyddocaol yn llwyddiant a datblygiad blaenorol y cwmni. Rydym yn falch iawn o gael y chwistrelliad hwn o gyllid ganddynt i'n galluogi i symud y busnes yn ei flaen."
Dywedodd Joanna Thomas, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: "Mae ECL yn gwmni cyffrous sy'n darparu gwasanaeth gwerthfawr a phwysig iawn i fusnesau i fyny ac i lawr y DU ac yn rhyngwladol ac maent yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Rydym wedi adeiladu perthynas gyda ECL dros y 16 mlynedd diwethaf fel eu partner buddsoddi hirdymor ac rydym wrth ein bodd yn parhau i'w cefnogi."
“Mae'r banc datblygu wedi ymrwymo i helpu cwmnïau fel ECL, sydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."