Mentergarwr ifanc yn taro’r targed gyda lleoliad newydd i daflu bwyeill ac “ystafell torri tensiwn” yn Abertawe

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Lumberjack Axe Throwing

Mae perchennog busnes 24 oed yn gobeithio y bydd ei leoliad hamdden newydd yn Abertawe yn boblogaidd dros ben

Agorodd Matthew Griffin, 24 oed, y Lumberjack Axe Throwing cyntaf ar Catherine Street, Caerdydd ym mis Gorffennaf, 2019 ac yntau’n ddim ond 21 oed.

Nawr, mae Banc Datblygu Cymru wedi rhoi micro fenthyciad o £35,000 i Matthew er mwyn iddo allu agor safle Lumberjack ar Stryd Dilwyn, Abertawe.

Yn ogystal â darparu lleoliad i daflu bwyeill – camp dan do sy’n dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd – bydd y lleoliad newydd yn cynnwys “ystafell torri tensiwn” barhaol gyntaf Cymru, sy’n rhoi cyfle i gwsmeriaid ryddhau straen drwy falu crochenwaith ac eitemau eraill. Mae Matthew yn bwriadu eu hagor yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Roedd Matthew wedi ennill gwobr Person Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2020. Sylwodd fod bwlch yn y farchnad am leoliad taflu bwyeill yng Nghaerdydd. Achubodd ar y cyfle i agor ei safle cyntaf ar yr un pryd â pharau i weithio fel saer hunangyflogedig a gweithio ar ei radd prifysgol.

Yn y lleoliad yng Nghaerdydd, sef y ganolfan taflu bwyeill drefol gyntaf yng Nghymru, mae’r gwesteion yn cael cyfle i brofi eu sgiliau corfforol a chydsymud a chystadlu yn erbyn ei gilydd drwy daflu bwyeill at dargedau, dan oruchwyliaeth aelodau o staff sydd wedi cael eu hyfforddi.

Agorodd y safle ganol 2019 a llwyddodd i lywio’r busnes drwy’r anawsterau a achoswyd gan bandemig Covid-19 drwy weithio yn ysbyty maes yr Eos yng Nghaerdydd. Roedd Matthew eisiau ehangu Lumberjack ddiwedd 2021 a daeth o hyd i safle addas ar Stryd Dilwyn yng nghanol dinas Abertawe.

Roedd y micro fenthyciad o £35k gan y Banc Datblygu yn caniatáu iddo gadw’r busnes yn sefydlog yn ystod gwaith o adnewyddu’r safle newydd. Mae’r datblygiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Grant Gwella Eiddo Cyngor Dinas Abertawe.

Ychwanegodd Matthew: “Roedd hi’n hawdd gweithio gyda Banc Datblygu Cymru – roeddwn i wastad wedi meddwl y byddai gofyn am fenthyciad yn golygu cael fy ngwrthod dro ar ôl tro oherwydd mae anfanteision yn perthyn i fod yn ifanc, ond doedd hynny ddim yn wir ac alla i ddim canmol y Banc Datblygu ddigon.

“Roeddwn i’n ariannu Caerdydd ar fy mhen fy hun ac roedd yn rhaid i mi ddefnyddio fy holl gynilion personol ar y pryd i gychwyn pethau. Mae’r benthyciad wedi bod yn help mawr i sicrhau nad yw gwaith adeiladu Abertawe yn cael gormod o effaith ar lif arian y cwmni yn ei gyfanrwydd.

“Fel gallwch chi ddychmygu, mae rhedeg cwmni wrth geisio adeiladu safle ddwywaith maint yr un sy’n dod â’r refeniw i mewn yn gallu llyncu cronfeydd cyfalaf yn sylweddol, gan beryglu’r cwmni cyfan a gwneud y prosiect bron yn amhosibl ar ôl y blynyddoedd diweddar o ansicrwydd economaidd.”

“Roedd y broses yn syml, ac roedd y swyddog buddsoddi Donna Strohmeyer bob amser wrth law i esbonio pethau pan oedd angen, ac alla i ddim bod yn fwy diolchgar am hynny. Fe wnaethon nhw dynnu’r straen allan o’r broses yn llwyr. Byddaf bob tro’n cysylltu â’r Banc Datblygu am unrhyw gyllid byddaf i ei angen yn y dyfodol.”

Mae Matthew yn bwriadu cynnal twrnameintiau ar gyfer y gamp ar y safle newydd, yn ogystal â pharhau â’r cysylltiadau presennol â’r partneriaid lletygarwch, Smoke Haus, sy’n gweithio ochr yn ochr â Lumberjack Axe Throwing i ddarparu pecynnau bwyd ac adloniant i gwsmeriaid.

Dywedodd Donna Strohmeyer, swyddog buddsoddi micro fenthyciadau yn y Banc Datblygu: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda Matthew i’w helpu i sicrhau safle newydd yn Abertawe, gan ei alluogi i ehangu ei fusnes presennol a dod â’r gamp newydd gyffrous hon i gwsmeriaid newydd sbon.

“Mae’n wych gweld safle Abertawe yn cael ei gwblhau, a dymunwn y gorau i Matthew wrth iddo ddod â Lumberjack Axe Throwing i ddinas newydd.”

Dywedodd Bethan Cousins, cyfarwyddwr buddsoddiadau newydd yn y Banc Datblygu: “Rydyn ni’n awyddus i weithio gydag mentergarwyr ifanc addawol fel Matthew, sydd efallai ddim yn meddwl bod ganddyn nhw sylfaen gref i chwilio am fuddsoddiad.

“Gallwn helpu i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer unrhyw fuddsoddiad, a’u harwain drwy bob cam o’r ffordd, gan roi cyfle iddyn nhw wireddu eu breuddwydion busnes.”

I ddarllen fwy am sut gall y Banc Datblygu helpu mentergarwyr ifanc, ewch i https://developmentbank.wales/cy/mentergarwyr-ifanc