Micro fenthyciad trac cyflym o £10,000 yn helpu cynlluniau ehangu ECR Concepts

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
ecr

Diolch i fenthyciad, mae cwmni meddalwedd yn y man-gwerthu sy'n seiliedig yn y Cymoedd yn cynllunio hwb marchnata a gwerthiant mawr

Mae ECR Concepts, cwmni meddalwedd yn y man-gwerthu sy'n seiliedig yn Nhaf yn cynllunio hwb marchnata a gyriant gwerthu mawr, wedi iddo gael hwb trwy gael offer arddangos newydd a brynwyd ganddynt gyda micro fenthyciad trac cyflym gan Fanc Datblygu Cymru.

Prynodd Sean Hosking gwmni meddalwedd man-gwerthu sy'n seiliedig yn y Cymoedd yn 2004. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn gwasanaethau talu sgrin gyffwrdd yn y man-gwerthu ac atebion ar gyfer rheoli stoc.

Roedd Sean eisiau buddsoddi mewn marchnata, hyfforddi staff a meddalwedd cyflwyno newydd i helpu'r cwmni i dyfu a denu hyd yn oed mwy o gwsmeriaid.

Ar ôl ymchwilio i'w opsiynau cyllid, gwnaeth gais am fenthyciad trac cyflym o £10,000 trwy gyfrwng gwefan Banc Datblygu Cymru. Cafodd benderfyniad ar ei gais o fewn dau ddiwrnod busnes.

Meddai Sean: "Roedd y broses o wneud cais am fenthyciad trac cyflym ar-lein yn gyflym a syml. Mae'r ffurflen gais yn hawdd iawn i'w llywio. Cefais benderfyniad yn gyflym iawn ac rwyf eisoes wedi gweithredu fy nghynlluniau twf busnes."

Dros y ddwy flynedd nesaf, mae'n bwriadu cyflogi mwy o staff mewn rolau datblygu technegol a busnes.

Mae cwsmeriaid ECR Concepts eisoes yn cynnwys Stadiwm Dinas Caerdydd, Dreigiau Casnewydd Gwent, Gerddi Botaneg Cymru a'r cadwyni Cymreig Buyology a Rabart.

Dywedodd Tara Lee-Fox, y Swyddog Buddsoddi: "Mae gan Sean fusnes sefydledig, sydd ar daith twf da. Rydyn ni'n falch ein bod wedi gallu ei gefnogi o ac ECR Concepts wrth i'r cwmni ehangu ei sylfaen o gwsmeriaid."

Gall cwmnïau a masnachwyr unigol o Gymru sydd wedi bod yn gweithredu am fwy na dwy flynedd wneud cais am fenthyciadau o £1,000 hyd at £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru, a chael penderfyniad ymhen dau ddiwrnod busnes. Gallwch wirio eich cymhwyster a gwneud cais ar-lein ar bancdatblygu.cymru.