Siop newydd a swyddi newydd yn Nhroedyrhiw

Daniel-Kinsey
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
DAR Stores - L-R Daisy Sohanpal Rej Singh Sohanpal Daniel Kinsey 3

Bydd deg o swyddi newydd yn cael eu creu yn Nhroedyrhiw wrth i siop cyfleustra newydd agor ar Bridge Street ym mis Mehefin 2022.  

Mae cwpwl lleol, Rej Singh Sohanpal a’i wraig Daisy Sohanpal, eisoes yn rhedeg y siop leol boblogaidd Londis a Swyddfa’r Post ar Heol Merthyr yn y pentref. Mae gwaith ar eu menter ddiweddaraf bellach ar y gweill i ddarparu siop cyfleustra sy’n gwerthu alcohol, nwyddau a chynnyrch becws ffres. Darparwyd cyllid gan Fanc Datblygu Cymru a chafwyd benthyciad gan Gronfa Busnes Cymru.  

Meddai Rej a Daisy:  “Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu ein busnes presennol ar Heol Merthyr a gwelsom gyfle i ehangu ein busnes drwy agor siop arall sy’n agos at ysgolion lleol ac sy’n rhoi profiad siopa modern i’r gymuned a hynny ar garreg y drws. Ein gobaith hefyd yw lansio gwasanaeth danfon nwyddo ar-lein i bobl leol.  

“Mae’r cyllid a gawsom gan y Banc Datblygu yn golygu bod gennym yr arian i gwblhau’r holl waith sydd ei angen er mwyn rhoi bywyd newydd yn y siop hon a oedd wedi mynd â’i phen iddi. Rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o swyddi lleol i bobl leol ac i ddarparu gwasanaeth mawr ei angen i’r gymuned leol.” 

Mae Rej a Daisy eisoes wedi elwa ar Gynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru yn 2020 ac felly cafodd y telerau ad-dalu ar gyfer y benthyciad diweddaraf hwn eu haddasu yn unol â hynny i sicrhau trefniant hyblyg wedi’i deilwra.  

Mae Daniel Kinsey yn un o Swyddogion Portffolio Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae buddsoddi mewn busnesau bach yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad i gefnogi cymunedau a pherchenogion busnes sy’n cynnig gwasanaethau allweddol ac sy’n creu swyddi i bobl leol.

"Rydym yn helpu llawer o fusnesau a gysylltodd â ni am y tro cyntaf yn ystod y pandemig ac sydd bellach angen cyllid dilynol wrth iddyn nhw adfer a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gan Rej a Daisy brofiad yn y byd manwerthu gan eu bod yn rhedeg y siop Londis leol yn llwyddiannus ers 2005, felly mae’n bleser eu cefnogi nawr wrth iddyn nhw ddatblygu eu busnes yn Nhroedyrhiw.” 

Ariennir Cronfa Busnes Cymru sy’n werth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer cytundebau rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda thelerau’n amrywio rhwng un a saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.