Sut i dyfu busnes

Owe Carter
Awdur / Golygydd Llawrydd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Female business owner in carpentry workshop making call on phone

Wrth redeg busnes llwyddiannus, efallai y daw’r amser pan fyddwch chi'n meddwl mynd ag ef i'r lefel nesaf. Yma rydym yn edrych ar beth i'w ystyried os ydych am ehangu eich busnes, ac ychydig o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer tyfu eich busnes yn gynaliadwy.

Os ydych chi'n rhedeg busnes bach, mae'n beth hynod o werth chweil os ydych chi'n gallu gwneud bywoliaeth ohono, a bod galw am eich cynhyrchion neu'ch gwasanaethau. Efallai y bydd yn cyrraedd y pwynt lle rydych chi'n teimlo ei bod hi'n bryd cymryd camau i'w dyfu. Efallai yr hoffech chi agor adeilad newydd, llogi staff neu lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Mae ehangu yn gam mawr ac mae angen llawer o feddwl a chynllunio gofalus cyn ei roi ar waith. Yma byddwn yn edrych ar y ffactorau pwysig i'w hystyried yn [sut i dyfu busnes bach], a rhai awgrymiadau defnyddiol er mwyn eich gosod ar y trywydd iawn.

1. Gofynnwch i chi'ch hun: A oes angen i mi dyfu fy musnes?

Cyn mynd ymhellach, mae'n bwysig ystyried ai dyma'r amser iawn ar gyfer twf. Hyd yn oed os yw'r arwyddion yn gadarnhaol, nid yw'r penderfyniad i dyfu busnes yn dod heb unrhyw risg. Gall ehangu'n rhy gyflym achosi problemau, felly mae angen i'r amseriad fod yn gywir.

Dyma rai o’r arwyddion sy’n awgrymu y gallai eich busnes fod yn barod i ehangu:

  • Mae'r galw yn gyson uwch na'r cyflenwad. Gall bod yn brysur ymddangos fel problem dda i'w chael, ond mae yna bendraw i hynny - yn enwedig os oes rhaid i chi wrthod cwsmeriaid posibl. Os nad oes gennych y gallu i gymryd mwy o waith, efallai y byddwch yn colli cyfleoedd.
     
  • Mae'r diwydiant yn tyfu. Os ydych chi'n parhau i fod yr un maint mewn diwydiant y mae galw cynyddol amdano, fe allech chi fod ar eich colled yn y pen draw i'ch cystadleuwyr.
     
  • Mae llif arian yn gyson, ac mae eich elw yn cynyddu. Os oes gennych chi incwm rheolaidd, a bod eich elw yn cynyddu'n gyson, mae'n arwydd da y byddwch chi'n gallu amsugno cost ehangu.
     
  • Mae gennych amser i'w neilltuo i dyfu'r busnes . Fel perchennog busnes, mae'n debyg eich bod yn ymwneud â'r rhan fwyaf o weithrediadau'r busnes o ddydd i ddydd. Bydd cymryd y camau angenrheidiol i dyfu'ch cwmni, boed hynny'n codi arian neu'n dod o hyd i eiddo newydd, yn eich tynnu oddi wrth y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd. Felly, cyn gwneud y penderfyniad i ehangu, gofynnwch i chi'ch hun a all y busnes redeg yn esmwyth heboch chi. Os gall eich gweithwyr gyflawni gweithgareddau dyddiol tra byddwch chi'n treulio mwy o amser yn canolbwyntio ar yr ehangu, mae hyn yn dangos y gallai fod gennych yr amser i'w neilltuo i'r bennod nesaf.

 

2. Penderfynu ar y strategaeth twf gywir

Mae yna nifer o wahanol strategaethau twf y gallai eich busnes eu dilyn. Mae'n well peidio â rhuthro i mewn i hyn ond yn hytrach treulio amser yn llunio strategaeth bendant. Mae yna wahanol fframweithiau a modelau a all eich helpu i benderfynu ar y ffordd gywir i dyfu.

Gallai cynnal dadansoddiad CGCB eich helpu i lunio eich strategaeth drwy eich galluogi i adolygu sefyllfa bresennol eich cwmni. Ystyr CGCB yw cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau. Cryfderau a gwendidau yw'r ffactorau mewnol y gallwch eu rheoli, megis gweithwyr, brand a diwylliant. Cyfleoedd a bygythiadau yw'r grymoedd allanol sy'n effeithio ar eich busnes, megis newidiadau economaidd, tueddiadau cymdeithasol, a chystadleuwyr.

Offeryn arall y gallwch ei ddefnyddio ar ôl i chi gwblhau eich dadansoddiad CGCB yw'r Matrics Ansoff. Mae hwn yn amlinellu pedair strategaeth wahanol y gallech eu defnyddio i dyfu eich busnes.

Treiddiad i'r farchnad

Dyma lle rydych chi'n canolbwyntio ar gynyddu gwerthiant eich cynhyrchion neu wasanaethau presennol mewn marchnadoedd presennol i gynyddu cyfran y farchnad. Ystyrir mai dyma’r risg isaf o blith y pedwar opsiwn, oherwydd gwyddoch fod yr hyn sydd gennych i’w gynnig yn gweithio, ac mae gennych brofiad yn y farchnad benodol honno. Gallai dulliau posibl yma gynnwys addasu prisiau, cynyddu hyrwyddiad, neu ychwanegu sianeli dosbarthu.

Datblygu cynnyrch

Datblygu cynnyrch yw pan fyddwch yn datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd ar gyfer marchnadoedd presennol. Mae hon yn strategaeth ychydig yn fwy peryglus na threiddiad y farchnad ac mae angen dealltwriaeth dda o'ch marchnad gyfredol.

Datblygu'r farchnad

Mae strategaeth datblygu marchnad yn cynnwys gwerthu cynhyrchion presennol i farchnadoedd newydd. Gallai hyn olygu targedu segmentau cwsmeriaid newydd neu ehangu i farchnadoedd rhanbarthol neu ryngwladol newydd.

Arallgyfeirio

Dyma lle rydych chi'n lansio cynhyrchion neu wasanaethau cwbl newydd i farchnadoedd newydd. Dyma'r strategaeth risg uchaf o'r pedwar opsiwn, gan nad yw eich cynnyrch wedi'i brofi ac efallai na fyddwch yn arbennig o gyfarwydd â'r farchnad.

3. Cynllunio ar gyfer twf

Mae cynllun busnes yn arf defnyddiol ar unrhyw gam o fusnes. Gall eich helpu i egluro a chyflawni eich strategaeth twf, ac yn aml mae'n hanfodol os ydych yn bwriadu codi cyllid allanol. Os nad oes gennych un yn barod, gallwch ddarganfod sut i ysgrifennu cynllun busnes yn fan hyn. Os y gwnaethoch chi greu cynllun pan ddechreuoch chi'ch busnes am y tro cyntaf, mae nawr yn amser da i'w ddiweddaru.

Fel rhan o gynhyrchu eich cynllun busnes, bydd angen i chi gynnal ymchwil marchnad. Hyd yn oed os oedd gennych gynllun pan ddechreuoch, mae'n syniad da pwyso a mesur cyflwr presennol y farchnad. Sut mae eich cystadleuwyr yn dod yn eu blaen? A oes unrhyw newydd-ddyfodiaid? Mae'n hanfodol deall y farchnad gyfredol yr ydych am weithredu ynddi cyn i chi roi eich cynllun ar waith.

Bydd angen i chi hefyd gynllunio'ch cyllid hyd at y manylion olaf. Er bod eich llif arian yn debygol o fod yn iach, sut bydd hyn yn cael ei effeithio gan eich ehangiad?

Bydd llunio rhagolygon llif arian parod yn eich helpu i gael darlun gwell o’r arian sy’n mynd i mewn ac allan o’ch busnes. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol, enghreifftiau, a thempledi i’ch helpu i greu rhagolygon llif arian ar wefan Busnes Cymru.

4. Llogi a hyfforddi gweithwyr

Wrth i'ch busnes dyfu, efallai y bydd angen i chi logi gweithwyr ychwanegol neu ddarparu hyfforddiant i weithwyr presennol i gynyddu capasiti neu lenwi unrhyw fylchau sgiliau.

Mae cael tîm gwych o'ch cwmpas yn hanfodol i lwyddiant eich cwmni, felly mae hefyd yn bwysig eu cadw'n hapus ac yn llawn cymhelliant. I ddarganfod sut i gadw gweithwyr a gwella eich brand fel cyflogwr, darllenwch ein canllaw ar gadw gweithwyr.

5. Ystyriwch sut i ariannu eich twf

Mae gweithio allan sut i ariannu eich ehangiad yn ystyriaeth bwysig. Er y gallai fod gennych yr opsiwn o ail-fuddsoddi eich elw yn y busnes, efallai na fydd hyn yn cwmpasu eich gweledigaeth ar gyfer twf.

Hyd yn oed os yw eich llif arian yn iach, efallai y bydd angen cyllid allanol arnoch o hyd i ehangu eich busnes. Mae llawer o opsiynau ariannu posibl, y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i un o ddau gategori: dyled neu ecwiti. Gallwch ddarganfod popeth am ddyled a chyllid ecwiti yn fan hyn a manteision ac anfanteision pob un.

Os ydych chi'n ystyried cael cyllid, darllenwch ein 5 awgrym ar gyfer gwneud cais am fenthyciad busnes bach yn fan hyn.

6. Gweithio gyda mentor busnes

Er eich bod wedi profi y gallwch ddechrau busnes yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn dal i elwa o gael rhywfaint o gymorth.

Mae ehangu busnes yn amser gwych i weithio gyda mentor busnes, oherwydd fe allant ddarparu profiad, cysylltiadau, a phersbectif ffres i'ch helpu i ddyfeisio a chyflawni eich cynlluniau ar gyfer twf. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y gall mentoriaid busnes ei gynnig yn ein canllaw, A oes angen mentor ar eich busnes?

Os yw’ch cwmni wedi’i leoli yng Nghymru, mae’n werth gwybod bod Busnes Cymru yn cynnal rhaglen fentora ar gyfer perchnogion busnes sydd eisiau cymorth gan berson busnes profiadol. Os oes angen help arnoch i farchnata neu dyfu eich busnes, gweithredu newid, neu ddelio â her benodol, yna gallai'r rhaglen hon roi arweiniad amhrisiadwy i chi.