Y Banc Datblygu yn buddsoddi £80m mewn busnesau yng Nghymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Giles Thorley and Ken Skates

Mae blwyddyn lawn gyntaf Banc Datblygu Cymru wedi helpu hyd yn oed mwy o fusnesau yng Nghymru i dyfu.

Yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 buddsoddodd Banc Datblygu Cymru gyfanswm o £80m, sef cynnydd o bron i 18% ar y flwyddyn flaenorol. Cwblhawyd 420 o fuddsoddiadau ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn, sef 30% yn fwy na'r 12 mis blaenorol.

Mae newidiadau ym model busnes y banc datblygu yn gyrru twf buddsoddiadau, yn gwella taith y cwsmer ac yn ymestyn yr amrywiaeth o gynhyrchion sydd ar gael. Arweiniodd agoriad ei bencadlys yn Wrecsam ym mis Medi at fwy o gytundebau yn cael eu cwblhau yng Ngogledd Cymru hefyd.

Cafodd buddsoddiadau'r banc datblygu eu gwasgaru ar draws y wlad, gyda £37m wedi'i fuddsoddi yn Ne Cymru £26m yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a £17m yng Ngogledd Cymru.

Roedd £21m ar ffurf ecwiti, draean (£7m) mewn 23 o gwmnïau yng Nghaerdydd sydd wedi dod yn fwrlwm o fuddsoddiadau ecwiti erbyn hyn ynghyd â £5 miliwn arall yng Ngorllewin Cymru.

Cyrhaeddodd swm y buddsoddiad gan y sector breifat a ysgogwyd gan weithgareddau'r banc £126m, gyda hwb gan Creo Medical, cwmni offer meddygol sy'n seiliedig yng Nghas-gwent, a gododd £46m.

Ers i'w delerau ad-dalu benthyciadau gael ei ymestyn i 10 mlynedd, mae'r banc hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw am gyfalaf tymor estynedig gyda 97 o gwsmeriaid yn manteisio ar y telerau gwell.

Cwblhawyd 220 o micro fenthyciadau yn ystod y flwyddyn a phriodolwyd y galw cynyddol am welliannau i wasanaethau - mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 bellach yn haws i gael mynediad atynt ac mae busnesau sydd wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd neu fwy yn elwa o’r ffaith fod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn gyflymach a swm sylweddol lai o waith papur, gyda rhai penderfyniadau benthyca yn cael eu gwneud o fewn 48 awr.

Bu twf sylweddol yn her y banc i gefnogi'r sector eiddo yng Nghymru gyda buddsoddiadau yn cyrraedd £24 miliwn, cynnydd o 54% ar y flwyddyn flaenorol. Daeth mwy nag 80% o'r trafodion hyn o gronfeydd eiddo penodol, dyma’r rhan o weithgaredd buddsoddi'r banc sy'n tyfu gyflymaf.

Mae gwerth yr arian cyllido ar gyfer cefnogi'r sector adeiladu bellach yn dod i gyfanswm o £177m gyda lansiad Cronfa Eiddo Masnachol Cymru sy'n werth £55m.

Ynghyd â chronfeydd eraill a godwyd gan gynnwys Cronfa Twristiaeth Cymru sy'n £50m a Chronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £16m, mae hyn yn dod â chyfanswm y gwaith codi arian am y flwyddyn yn agos at £200m a dros £430m ers ei lansio yn 2017.

Yn ystod y flwyddyn, lansiodd y banc Angylion Buddsoddi Cymru ochr yn ochr â Chronfa Cyd-fuddsoddi Cymru sy'n werth £8m. Mae'r cynnig sydd wedi'i adnewyddu yn rhoi mynediad at fwy na 100 o fuddsoddwyr angel a syndicetiau drwy gyfrwng ei blatfform ar-lein i fusnesau. Cafodd bargeinion o fwy na £ 3.2m eu hwyluso yn ystod y flwyddyn.

Sicrhaodd y banc hefyd fuddsoddiad ecwiti sefydliadol am y tro cyntaf, gyda £10m yn cael ei fuddsoddi gan Gronfa Pensiynau Clwyd i mewn i Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru.

Un busnes y mae'r banc wedi'i helpu yw busnes recriwtio 'ALS Managed Services,' sy'n darparu gwasanaeth recriwtio arloesol, moesegol a chynaliadwy i'r sectorau ailgylchu a warysau o'i bencadlys yng Nghaerffili.

Ynghyd â HSBC, darparodd y banc datblygu becyn ariannu cyfunol o fwy na £1m, gan ganiatáu i fwyafrif y cyfranddalwyr i adael y busnes. Yn ystod y trafodiad, cymerodd y banc gyfran ecwiti o 20% yn y busnes newydd, a chaniataodd ei fuddsoddiad drwy gyfrwng Cronfa Olyniaeth Reoli Cymru i ALS symud i eiddo newydd 3,500 troedfedd sgwâr a chynyddu ei gynnig gwasanaeth i gleientiaid.

Dywedodd Steve Lanigan, Prif Weithredwr ALS: “Bu'r gefnogaeth a'r arweiniad a gawsom gan y tîm ym Manc Datblygu Cymru yn allweddol dros y 18 mis diwethaf. Mae eu profiad o ddarparu cyllid ar gyfer Allbryniannau Rheoli ynghyd â'u dealltwriaeth o'n nodau busnes yn golygu ein bod wedi dod o hyd i fuddsoddwr sydd wirioneddol yn rhannu ein cyffro a'n brwdfrydedd. Mae hynny'n werth cymaint mwy na dim ond yr arian.”

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr y Banc Datblygu:

“Rydw i'n falch bod cynifer o fusnesau ar hyd a lled Cymru wedi gallu cael gafael ar y cyllid cywir i gefnogi eu taith eleni. Rydym wedi cynyddu ein gallu i gyflawni ac yn parhau i fuddsoddi ym mhrofiad y cwsmer wrth i ni symud ymlaen gyda’n trawsnewidiad busnes.

Efallai ein bod yn wynebu cyfnod o ansicrwydd, ond bydd Banc Datblygu Cymru yn gweithio i sicrhau bod busnesau Cymru yn derbyn cefnogaeth waeth ar ba ffurf y bydd Brexit. Rwy'n falch o weithio gyda thîm ymroddedig sydd eisiau cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn bwysig i'r Banc Datblygu ac rwy'n ei llongyfarch ar gyflawni ei darged buddsoddi pum mlynedd o £80 miliwn mewn dim ond deunaw mis.

“Mae'r Banc, yn uniongyrchol ac mewn partneriaeth â Busnes Cymru a buddsoddwyr preifat, wedi ychwanegu gwerth sylweddol i economi Cymru, gyda'r gweithgarwch cynyddol yn y farchnad eiddo yn rhoi ymdeimlad o foddhad arbennig.

“Mae'r deuddeg mis diwethaf hefyd wedi gweld y Banc yn symud i'w bencadlys newydd yn Wrecsam, gan ddangos ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru bod y Banc wirioneddol yn gwasanaethu Cymru gyfan ac yn cryfhau ein heconomïau rhanbarthol. Nid oes amheuaeth bod y Banc wedi llwyddo yn hyn o beth, gan gefnogi busnesau o bob maint o bob cwr o Gymru i dyfu a ffynnu ac edrychaf ymlaen at weld y deuddeg mis nesaf yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn wrth i'r Banc helpu mwy o fusnesau Cymru i gyrraedd eu potensial.”

Cyhoeddir yr adroddiad blynyddol ym mis Gorffennaf 2019.