Y ‘grefft o weld y posibiliadau’

Chris-Griffiths
Cyfarwyddwr Buddsoddi Technegol
Newidwyd:
Prynu busnes
Ecwiti
Cyllid
buy out

Mae'n dal i fy synnu pan 'dwi'n clywed am dimau rheoli galluog sydd ddim yn manteisio ar y cyfle i brynu'r busnes y maen nhw'n gweithio iddo pan fydd yn cael ei roi ar werth. Mae llawer o'r timau hyn yn adnabod y busnes fel cefn eu llaw ac mae ganddynt farn gadarn hefyd ar sut y byddent yn ei symud ymlaen.

Mae gwerthu busnes i'w dîm rheoli presennol yn aml yn opsiwn deniadol i'r perchennog, felly pam nad yw rhagor o dimau rheoli yn mentro?

Er y gallai diffyg hyder fod yn un rheswm, tybed faint o dimau rheoli sy'n cael eu digalonni am eu bod yn credu na allant fforddio i brynu'r busnes. Yn ffodus, nid oes yn rhaid i fynediad at gyllid fod yn gymaint o rwystr ag y gall ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Pa opsiynau cyllido posibl sydd yna?

Fel y Cyfarwyddwr Buddsoddi Technegol yma gyda'r banc datblygu, mae meddwl am y 'grefft o weld y posibiliadau' yn rhywbeth rydw i’n ei wneud yn aml - yn enwedig o ran helpu rheolwyr uchelgeisiol a galluog i sicrhau'r arian i brynu busnes.

Yn aml, gall banciau neu fuddsoddwyr fel Banc Datblygu Cymru ddod o hyd i'r gyfran fwyaf o'r cyllid sydd ei angen, gan adael y tîm rheoli i ganfod cyfran cymharol fach o'r arian sydd ei angen arnynt.

Os yw'r tîm rheoli yn parhau i fod â bwlch cyllido, nid dyna ddiwedd y stori.

  • Trosoli asedau sefydlog - Gall codi cyllid yn erbyn asedau sefydlog fod yn ffordd effeithiol o sicrhau cyllid ychwanegol. Bydd stoc sy'n hawdd i'w werthu wastad yn ddeniadol i fenthycwyr sy'n seiliedig ar asedau ac mae peiriannau a pheirianwaith hefyd yn opsiwn, yn enwedig os yw'r rhain yn rhai pwrpasol neu wedi cael eu huwchraddio'n ddiweddar.
  • Trosoli llyfr dyledwyr / anfonebau busnes - Bydd rhai banciau a chyllidwyr arbenigol yn darparu arian yn erbyn anfonebau cyfredol ac yn y dyfodol. Er y gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o ddatgloi cyllid, mae'n werth ei ystyried dros yr hirdymor oherwydd fe allwch gael eich gadael heb fawr o le i symud pe bai refeniw yn mynd ar i lawr am gyfnod ar ôl i chi gymryd drosodd.
  • Prydlesu eiddo - Mae costau eiddo yn ddieithriad yn cynyddu pris busnes, ond os cânt eu tynnu allan o'r hafaliad, gallwch leihau'r pris. Bydd prydlesu adeiladau yn golygu bod y cytundeb yn haws i'w ariannu, ond bydd hefyd yn gadael y perchennog presennol gydag incwm misol. 

 

Canolbwyntio ar y ‘grefft o weld y posibiliadau’

Felly, gyda meddwl agored, agwedd gadarnhaol a ffocws clir ar y 'grefft o weld y posibiliadau', tybed mai 2018 fydd y flwyddyn pan fyddwch chi'n cyflawni'ch nod o fod yn berchen ar eich busnes eich hun?

Gall Banc Datblygu Cymru gefnogi ystod lawn o opsiynau olyniaeth busnes. I ddarganfod mwy am sut y gallwn ni helpu cysylltwch â ni.

 

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr