Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Sparkles Bar

Jessica-White
Uwch Swyddog Buddsoddi

Er mai dim ond 21 oed ydw i, mae cael cefnogaeth fy rhieni a’r Banc Datblygu wedi rhoi’r hyder i mi fentro ar fy mhen fy hun. Gobeithio y bydd fy stori’n ysbrydoli eraill i ddechrau ar eu taith eu hunain fel entrepreneur ifanc.

Freya Curtis, Sylfaenydd, Sparkles Bar

Trosolwg o’r busnes

Mae Sparkles Bar yn far thema LHDTC+ ym Merthyr Tudful. Agorodd y bar yn 2024, ac mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd gyda’r gymuned LHDTC+ a chwsmeriaid 18 oed a hŷn yn yr ardal.

Sylfaenydd

Freya Curtis

 

Freya Curtis - Merch Marnie a Matthew Curtis, sy’n rhedeg Clwb Llafur Merthyr Tudful, yw Freya, felly mae hi wedi cael ei magu yn y diwydiant lletygarwch. Bu’n gweithio i’w rhieni cyn penderfynu dechrau ei menter busnes ei hun.

Pwrpas y busnes

Mae Sparkles Bar yn rhywle lle gall unigolion LHDTC+ fod yn nhw eu hunain heb ofni gwahaniaethu na beirniadaeth. Mae’r bar yn cynnig ymdeimlad o berthyn a chymuned, lle gall pobl deimlo’n gyfforddus a’u bod yn cael eu derbyn.  

Mae Sparkles Bar wedi dod yn ganolbwynt i’r gymuned LHDTC+ ym Merthyr Tudful, gan gynnig lle i gysylltu ag eraill, cymryd rhan mewn digwyddiadau, a dathlu diwylliant LHDTC+. 

Mae Sparkles ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul ac yn gwerthu coctels ar themâu yn ogystal ag amrywiaeth o ddiodydd alcohol. Gyda’r nos, mae’r bar yn fwrlwm o gerddoriaeth fyw, sioeau drag, nosweithiau carioci, yn ogystal â dathlu digwyddiadau Pride.

Cyllid

Sparkles Bar

 

A hithau’n 21 oed, llwyddodd Freya i agor Sparkles, y bar thema LHDTC+ cyntaf ym Merthyr Tudful gyda chymorth benthyciad o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru i dalu’r costau cychwyn yn rhannol. Roedd ein cyllid hefyd wedi galluogi Freya i ariannu pedair swydd ran-amser.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Rwyf wedi dysgu cymaint gan fy rhieni am sut i redeg busnes lletygarwch llwyddiannus. Fe wnaethon nhw fy ysbrydoli i sefydlu ar fy mhen fy hun, ac fel aelod o’r gymuned LHDTC+ leol, roeddwn i’n gwybod bod bwlch go iawn yn y farchnad am far thema ym Merthyr. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth. 

Er mai dim ond 21 oed ydw i, mae cael cefnogaeth fy rhieni a’r Banc Datblygu wedi rhoi’r hyder i mi fentro ar fy mhen fy hun. Gobeithio y bydd fy stori’n ysbrydoli eraill i ddechrau ar eu taith eu hunain fel entrepreneur ifanc.

Freya Curtis, Sylfaenydd, Sparkles Bar

Mae ein cyllid hyblyg ar gael i entrepreneuriaid ifanc i’w helpu i gychwyn busnesau llwyddiannus yng Nghymru. Yn wir, rydyn ni wedi cefnogi dros 100 o bobl ifanc 18-30 oed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Pobl fel Freya, sydd â chynllun busnes cryf a digon o angerdd i wireddu eu breuddwyd o fod yn hunangyflogedig. 

Mae entrepreneuriaid ifanc uchelgeisiol fel Freya yn rhan bwysig o’n heconomi, felly rydyn ni’n falch o gefnogi’r mentrau busnes newydd hyn ac yn dymuno pob llwyddiant iddi.

Jessica White, Uwch Swyddog Gweithredol Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru