A-Z o fuddsoddi angylion

Ydych chi'n bwriadu cymryd y naid i fyd cyffrous buddsoddi angylion, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Ymunwch â ni ar gyfer gweminar A i Z ar Fuddsoddi Angylion, wrth i ni archwilio popeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn fuddsoddwr angylion i adeiladu portffolio amrywiol, llwyddiannus o fuddsoddiadau cam cynnar.

Mae'r weminar hon yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac fe'i cynhelir gan Gymdeithas Angylion Busnes y DU ac Angylion Buddsoddi Cymru, ac mae'n cynnig cyfle unigryw i gael mewnolwg i'r diwydiant ar beth ddylid ei wneud a be’ na ddylid eu gwneud ym maes buddsoddi angylion a sut i ddeall y dirwedd cam cynnar yn lleol ac ar draws y DU.

Yn ystod y gweithdy rhithwir hwn, byddwn yn ymchwilio cwestiynau llosg fel sut olwg sydd ar angel busnes a beth yw rhai o'r strategaethau allweddol y tu ôl i fuddsoddi'n llwyddiannus. Byddwch hefyd yn clywed am gyfleoedd ar gyfer cyd-fuddsoddi, pa fath o adnoddau sydd ar gael i chi a mwy.

Cyflwynir y sesiwn gan Reolwr Gyfarwyddwr Cymdeithas Angylion Busnes y DU, Roderick Beer, sy’n meddu ar dros 15 mlynedd o brofiad mewn buddsoddi cyfnod cynnar.

Cofrestrwch heddiw i fod yn rhan o'r sgwrs!

https://us02web.zoom.us/webinar/register/5915910193783/WN_xJ4KXYEHRFqf1_waS3p10g

Pwy sy'n dod

Carol-Hall
Rheolwr Buddsoddi
Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol