Coincover

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol

Gyda Coincover, rydym yn darparu bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer marchnad sy'n aeddfedu'n gyflym trwy sicrhau y gellir amddiffyn pobl rhag gwneud camgymeriad a all gostio miloedd iddynt yn y pen draw. Mae'r buddsoddiad hwn yn golygu y gallwn gynyddu graddfa ein twf yn gyflym yn unol â gofynion y farchnad a defnyddwyr, ac wrth wneud hynny sicrhau y gall mwy o bobl fuddsoddi mewn arian crypto yn ddiogel.

David Janczewski, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Coincover

Sefydlwyd Coincover ym mis Mai 2018, ac mae’n llunio safon diogelwch y byd ar gyfer cryptoarian. Gyda chymaint ag 20% o bitcoin y byd yn cael ei golli o ganlyniad i wall dynol, mae llwyfan Coincover yn diogelu defnyddwyr crypto a buddsoddwyr rhag lladrad, camgymeriad gan ddefnyddwyr, a methiant seilwaith.

Ym mis Tachwedd 2018, cododd y cwmni gyllid cynnar gan syndicet o angylion busnes dan arweiniad Ashley Cooper ac arian cyfatebol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Bu’r buddsoddiad hwn yn gymorth i Coincover fireinio a marchnata, profi’r cynnig a sicrhau bod y cynnyrch cychwynnol yn addas i’r farchnad cyn ei lansio’n fasnachol. Er mwyn diwallu’r galw cynyddol o’r farchnad cryptoarian cynhaliodd Coincover rownd gyllido ar gyfer twf pellach yn 2020. Arweiniwyd y buddsoddiad ecwiti saith ffigur gan Insurtech Gateway, gyda buddsoddiad ar y cyd gan Fanc Datblygu Cymru.

Yn 2021, roedd ymadawiad rhannol Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru wedi galluogi’r cwmni i godi $9.2m mewn rownd Cyfres A dan arweiniad Element Ventures, cronfa cyfalaf menter byd-eang. Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru wedi cadw rhan o’i chyfranddaliad, ac mae’r Banc Datblygu wedi buddsoddi £390,000 ychwanegol o gyllid ecwiti trwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Angylion Buddsoddi Cymru

Mae rhwydwaith angylion mwyaf Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru, yn cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau Cymreig sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat

Darganfod mwy