Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Knighton Costcutter

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio

Rwy’n ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru am y rownd ddiweddaraf hon o gymorth buddsoddi. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni gael mwy o reolaeth dros ein costau ynni, ac roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cymryd camau i ddiogelu ein defnydd o ynni ar gyfer y dyfodol lle bynnag y bo modd.

John Ewens, Perchennog, Costcutter Trefyclo 

Trosolwg o’r busnes

Siop cyfleustra ym Mhowys yw Costcutter Trefyclo, sy’n gwasanaethu cymunedau Trefyclo a’r pentrefi cyfagos. Mae siopau cyfleustra yng Nghymru yn dal yn hanfodol i’r economi leol, a hwythau’n darparu bron i 23,000 o swyddi i bobl leol.

Rheoli

John Ewens, Perchennog, Costcutter Trefyclo - Mae gan John gyfoeth o brofiad yn y sector manwerthu, ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n gweithredu cadwyni o siopau cyfleustra. Bu’n rheoli’r siop hon am ddegawd cyn prynu’r busnes yn gyfan gwbl.

 

John Ewens

 

Gweithio gyda ni

Mae’r busnes hwn yn un o gwsmeriaid hirsefydlog y Banc Datblygu. Dechreuodd ein perthynas yn 2019, pan wnaethom ddarparu benthyciad o £200,000 o Gronfa Benthyciadau Busnes Cymru i gefnogi John i brynu’r lesddaliad ac i adnewyddu’r siop. 

Mae ein buddsoddiad wedi helpu i ddiogelu swyddi 15 o aelodau staff, ac mae John yn gobeithio y bydd y siop yn helpu i gadw cwsmeriaid a denu pobl newydd i’r stryd fawr yn y dref fach hon yn y canolbarth.

Yn 2020, fe wnaethom gefnogi Costcutter Trefyclo gyda benthyciad o £60,000 drwy Gynllun Benthyciadau Busnes Covid Cymru i helpu’r busnes i ymdopi ag effaith pandemig COVID-19.

Cyllid

  • Dyddiad y rownd gyllido fwyaf diweddar: Chwefror 2023
  • Maint: £100,000
  • Y gronfa: Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru

Fe wnaeth ein buddsoddiad alluogi Costcutter Trefyclo i ehangu drwy ychwanegu gofod cyfwerth â chwarter maint gwreiddiol y siop – gan ddarparu rhagor o ofod manwerthu angenrheidiol. Roedd y benthyciad hefyd wedi galluogi Costcutter i osod unedau oeri ac arddangos ynni-effeithlon newydd. Mae’r unedau newydd wedi helpu i leihau defnydd cyffredinol y busnes o ynni hyd at ddwy ran o dair.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Rwy’n ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru am y rownd ddiweddaraf hon o gymorth buddsoddi. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni gael mwy o reolaeth dros ein costau ynni, ac roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cymryd camau i ddiogelu ein defnydd o ynni ar gyfer y dyfodol lle bynnag y bo modd.

Mae’r unedau newydd wedi’n helpu ni i leihau ein defnydd cyffredinol o ynni yn sylweddol, ac rydyn ni nawr yn gallu cynnig amrywiaeth well o gynnyrch ffres ac wedi’i oeri i’n cwsmeriaid.

John Ewens, Perchennog, Costcutter Trefyclo

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda John dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r gwaith mae wedi’i wneud i sicrhau bod Costcutter Trefyclo yn dal i fod yn gystadleuol ac yn parhau i wasanaethu cymunedau yn y rhan hon o Gymru wedi bod yn wych.

Mae’r gwelliannau y mae John wedi’u gwneud wedi bod yn gam synhwyrol iawn i ddiogelu effeithlonrwydd ynni ei fusnes ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n falch o fod wedi gweithio gydag ef i sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol.

Stewart Williams, Swyddog Gweithredol Portffolios, Banc Datblygu Cymru