Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Luxstar

Donna-Williams
Uwch Swyddog Portffolio

Rydw i wedi bod yn ymchwilio i sefydlu fy musnes fy hun ers nifer o flynyddoedd. Arweiniodd y perthnasoedd yr oeddwn wedi'u hennill gyda phobl dros y blynyddoedd, y wybodaeth a gefais gan y cleientiaid yr oeddwn wedi'u gyrru, a'r ymddiriedaeth a gefais i mi archwilio i'r cyfleoedd i ddechrau fy musnes chauffeur fy hun. Yn wyneb cael fy niswyddo oherwydd pandemig Covid 19, penderfynais mai nawr oedd yr amser i fentro a dod yn fos arnaf fi fy hun.

Carl Harris, Sylfaenydd Luxstar Ltd

Lansiodd Carl Harris, mentergarwr o Gasnewydd, fusnes chauffer preifat Luxstar Ltd gyda chefnogaeth micro fenthyciad gwerth £24,000 gan Fanc Datblygu Cymru ym mis Tachwedd 2020. Derbyniodd gefnogaeth hefyd gan Busnes Cymru, Cyngor Casnewydd ac USKE.

Yn wyneb diswyddiad oherwydd pandemig Covid-19, bachodd Carl ar y cyfle i droi ei brofiad a'i angerdd yn fusnes ei hun. Gydag wyth mlynedd o brofiad gyrru proffesiynol, roedd Carl wedi gweithio gyda Llysgenhadaeth America yn darparu gwasanaethau i gyngres, NATO, Gwylwyr y Glannau yn yr Unol Daleithiau, arlywyddion a chyn-lywyddion.

Her gyntaf Carl oedd llunio cynllun busnes cadarn. Roedd ganddo lawer o wybodaeth am weithio yn y diwydiant cludo ond dim profiad o redeg ei gwmni ei hun. Gyda chefnogaeth Busnes Cymru cynhaliodd ymchwil i'r farchnad ac yna cynnwys ei holl ganfyddiadau mewn cynllun busnes cyn gwneud cais am micro fenthyciad gan y Banc Datblygu. Gyda chynllun busnes ar waith, roeddem yn gallu sicrhau cyllid cychwynnol a phrynu cerbyd chauffeur safon uchel addas.

I ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael am ddim gan Busnes Cymru ewch i weld: https://businesswales.gov.wales/campaigns/cy

I wirio cymhwysedd ac i wneud cais am fenthyciad cychwynnol gan Fanc Datblygu Cymru, ewch i weld ein  tudalen ar ddechrau busnes. https://developmentbank.wales/cy/cael-cyllid-busnes/dechrau-busnes