MKR Property Developments

Brad-Thatcher
Swyddog Datblygu Eiddo

Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i adfywio’r rhan hon o’n tirwedd drefol a darparu lle newydd gwych i fusnesau lleol ffynnu.

Rob Price, Cyfarwyddwr, MKR Property Developments

Trosolwg o’r busnes

Ffurfiwyd MKR Property Developments yn 2018, ac mae’n gwmni eiddo yn Ne Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu Parc Busnes Paisley.

Wedi’i leoli ar gyrion Merthyr Tudful, mae’r parc busnes ar hen safle’r ICI yn Ystad Ddiwydiannol Pant. Mae MKR wedi trawsnewid y safle tir llwyd hwn yn unedau masnachol a diwydiannol a fydd yn amrywio o ran maint a graddfa, sy’n addas ar gyfer busnesau o sectorau amrywiol.

MKR

Rheoli

Kerry Mullins, Mike Williams a Robert Price, Cyfarwyddwyr - Cafodd MKR Property Developments ei sefydlu gan Mike Williams a Kerry Mullins mewn partneriaeth â Robert Price, Cyfarwyddwr Grŵp Eiddo Highfield.

Mae Kerry a Mike yn Gyfarwyddwyr y cwmni peirianneg ac adeiladu Mikerry Rail, sy’n arbenigwyr cyflenwi llafur yn y diwydiant rheilffyrdd ac adeiladu.

Mae Robert wedi bod yn ymgynghorydd ariannol annibynnol sy’n arbenigo mewn pensiynau a buddsoddiadau ar gyfer unigolion sydd â gwerth net uchel ers dros 20 mlynedd, ac mae wedi ehangu i fuddsoddi mewn eiddo.

Cyllid

MKR

Parc Busnes Paisley yw’r fenter gyntaf ar gyfer MKR. Gyda’r buddsoddiad £4.1 miliwn sy’n cynnwys benthyciad o £1.5 miliwn ochr yn ochr â grant o £2.6 miliwn gan Gronfa Eiddo Masnachol Banc Datblygu Cymru, bydd y safle segur yn cael ei droi’n barc busnes deinamig o 14 o unedau ffatri modern, gan greu gofod masnachol a diwydiannol newydd y mae mawr ei angen, ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint a helpu i adfywio’r dirwedd drefol yn yr ardal.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Rydym ni’n deall gwerth rhoi bywyd newydd i leoliadau sy’n cael eu tanddefnyddio, i sbarduno cynnydd economaidd a chreu swyddi.

Ein holl bwrpas yw helpu busnesau ledled Cymru i wireddu eu huchelgais. Prosiectau fel hyn, sy’n rhoi cyfle iddyn nhw wneud hynny, yw’r union reswm rydym ni’n gwneud yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym ni’n falch o fod wedi gweithio gyda MKR ar y prosiect hwn. Edrychwn ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau.

Brad Thatcher a James Brennan, Swyddogion Gweithredol Datblygu Eiddo, Banc Datblygu Cymru

Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i adfywio’r rhan hon o’n tirwedd drefol a darparu lle newydd gwych i fusnesau lleol ffynnu.

Mae’r benthyciad, ynghyd â chymorth grant, yn gwella ein gallu i wireddu'r weledigaeth hon yn sylweddol, gan roi sylfaen gref i ni droi’r safle’n ganolfan fywiog o weithgarwch busnes – yn enwedig ar adeg pan fydd costau adeiladu’n codi.

Rydym ni’n ddiolchgar am yr ymddiriedaeth a’r gefnogaeth mae’r Banc Datblygu a Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i ni.

Rob Price, Cyfarwyddwr, MKR Property Developments

Rydw i’n falch iawn y bydd ein Grant Datblygu Eiddo yn cefnogi’r gwaith o adeiladu unedau ffatri modern yn y cymoedd gogleddol a fydd yn creu swyddi newydd mewn busnesau ffyniannus.

Mae busnesau o bob maint angen safleoedd ac adeiladau modern sy’n gallu datgloi eu huchelgais ar gyfer ehangu a thyfu. Mae ein Cynllun Cyflenwi Eiddo yn helpu i ddiwallu’r angen hwnnw er mwyn i fusnesau allu buddsoddi mewn swyddi o ansawdd da lle mae eu hangen fwyaf.

Mae buddsoddiad mawr ar hyd yr A465, cefnogaeth Banc Datblygu Cymru a buddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyfleoedd newydd ac uchelgeisiol ym Mlaenau’r Cymoedd. Rydw i’n dymuno’r gorau i MKR gyda datblygiad Parc Busnes Paisley, ac yn edrych ymlaen at weld swyddi newydd o ansawdd yn cael eu creu yn nes at adref.

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr.

Cysylltu â ni