Banc Datblygu Cymru yn penodi Scott Hughes a Chris Dhenin yng Ngogledd Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
investment team

Mae Banc Datblygu Cymru wedi penodi Scott Hughes a Chris Dhenin fel Swyddogion Buddsoddi yn eu pencadlys newydd yn Wrecsam.

Mae Scott, 40, o Landrillo-yn-Rhos, a Chris, 37, o Gilgwri, yn gweithio'n agos gyda busnesau lleol i ddarparu cefnogaeth gyda phecynnau ariannu pwrpasol i alluogi twf a chreu a diogelu swyddi.

Mae gan Scott dros 19 mlynedd o brofiad bancio. Cyn hynny, bu'n gweithio gyda Banc Lloyds ac roedd ganddo bortffolio o 150 o gleientiaid gyda throsiant o hyd at £12m.

Meddai: “Mae Datblygu Banc Cymru yn sefydliad deinamig sy'n cynnig adnodd unigryw i Gymru tra'n llenwi bwlch mewn marchnad gystadleuol sy'n newid drwy'r amser. Ar ôl cael fy magu yng Ngogledd Cymru ac erbyn hyn â minnau hefo teulu fanc, rwy'n cael fy ysgogi gan y cyfle i ddatgloi'r potensial yn yr economi leol i helpu i greu a diogelu dyfodol y genhedlaeth nesaf.”

Mae gan Chris fwy na 14 mlynedd o brofiad yn y sector bancio, gan weithio yn flaenorol i Fanc Nat West lle bu'n arbenigo mewn busnes corfforaethol a masnachol. Bu'n rheoli portffolio o 70 o gwsmeriaid gyda throsiant o £2m i £20m. Hefyd, fe gwblhaodd ddiploma benthyca gyda'r Sefydliad Bancio Siartredig yn 2016.

Meddai: “Mae'r rôl hon gyda Banc Datblygu Cymru yn gyfle gwych i mi weithio'n agos gyda pherchnogion busnesau lleol a chefnogi busnesau Cymru. Mae gweld busnesau yn cyflawni ei nodau yn rhoi teimlad o foddhad mawr i mi ac rydw i'n mwynhau'r hyn dwi'n ei wneud yn fawr iawn.”

Mae'r pâr yn gweithio ym mhencadlys newydd y banc yn Wrecsam yn hen swyddfeydd Moneypenny ym Mharc Technoleg Wrecsam.

Mae gan Banc Datblygu Cymru swyddfeydd ar hyd a lled y wlad, yng Nghaerdydd, Wrecsam, Llanelwy a Llanelli. Ar hyn o bryd mae dros 180 o weithwyr yng Nghymru a 30 yn Wrecsam.

Dywedodd Rhodri Evans, Dirprwy Reolwr y Gronfa ar gyfer buddsoddiadau newydd: “Mae Scott a Chris yn asedau gwych i'r tîm ac mae'n ffantastig bod y ddau wedi ymuno â ni. Pobl sydd wrth wraidd ein llwyddiant ac mae swyddogion buddsoddi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r busnesau 'rydyn ni'n eu cefnogi.

“Mae cael cyswllt wyneb yn wyneb â busnesau lleol yn bwysig iawn er mwyn eu helpu i ddod o hyd i'r math cywir o gyllid a chyfleoedd i ffynnu a chreu swyddi. Mae'r ddau yn meddu ar ddigon o brofiad masnachol ac mae ganddynt dealltwriaeth go iawn o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cwmnïau yn ardal Gogledd Cymru.”

Pan nad ydynt yn gweithio, mae Scott wrth ei fodd hefo pêl-droed, rygbi, beicio a threulio amser gyda'i deulu ac mae Chris yn mwynhau golff a choginio.