Beth allwch chi ei wneud gyda benthyciad busnes o £10k?

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Dechrau busnes

Nid oes yn rhaid i fenthyciadau busnes fod yn chwech neu saith ffigur bob amser i gael effaith. Gall benthyciad bach wedi ei fuddsoddi'n ddoeth roi hwb sylweddol i'ch cwmni.

Rydym yn aml yn delio â chwmnïau sy'n chwilio am fenthyciadau o hyd at £10k. Y llynedd fe wnaethom gyflwyno proses symlach i helpu busnesau sefydledig i gael penderfyniad cyflym ar eu ceisiadau.

Gall £10k fynd yn bell i fusnes bach. Sut allech chi fuddsoddi'r arian hwnnw i gael y gwerth gorau i'ch cwmni chi? Dyma rai syniadau isod: 

1. Prynu offer newydd

Gall buddsoddi mewn offer neu beiriannau roi hwb i gynhyrchiant a lleihau costau. Gall hefyd greu cyfleoedd i gynnig gwasanaethau newydd i'ch cwsmeriaid. Gall hyn ddenu busnes newydd yn ogystal â chynyddu eich mantais gystadleuol.

2. Agor siop neu swyddfa newydd

Ydych chi wedi dod o hyd i'r eiddo perffaith ar gyfer eich busnes syn tyfu ond eich bod angen arian ar gyfer y rhent am yr ychydig fisoedd cyntaf? Gallai benthyciad busnes o £10k wirioneddol helpu. Gallech hefyd ddefnyddio benthyciad o £10k i helpu i adnewyddu siop neu swyddfa sy'n bodoli'n barod.

3. Buddsoddi mewn marchnata

Mae marchnata yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'ch brand a'r hyn rydych chi'n ei gynnig. Gallai £10k helpu i greu gwefan newydd, talu am hysbysebu neu ymgyrch farchnata uniongyrchol.

4. Talu am hyfforddiant staff

Os yw'ch busnes yn ehangu, fe fyddwch chi eisiau buddsoddi ynddo chi eich hun a'ch staff. Beth am ddefnyddio benthyciad o £10k i roi hwb i'ch gwybodaeth chi a'ch staff? Gall hyfforddiant priodol helpu gydag effeithlonrwydd busnes a chreadigrwydd.

5. Prynu stoc newydd

Bydd gan unrhyw adwerthwr da drwyn am eu cynhyrchion allweddol. Trwy fuddsoddi mewn stoc ychwanegol ar yr adeg iawn, gallwch roi hwb amserol i'ch trosiant er mwyn datgloi mwy o arian ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.

6. Llif arian

Os ydych chi'n adnabod llanw a thrai eich busnes, yna gallwch chi baratoi ymlaen llaw. Trwy ddefnyddio benthyciad, gallwch wneud yn siŵr fod eich busnes yn barod i fanteisio ar yr amserau prysuraf o'r flwyddyn.
Mae sawl ffordd y gallai eich busnes elwa o gael benthyciad o £10k. Gyda'r buddsoddiad cywir, gallwch droi benthyciad bach yn elw mawr a rhoi eich busnes ar y droed flaen ar gyfer 2018.

Os yw'ch cwmni chi wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd, ac rydych am fenthyg hyd at £10k, gallwn roi penderfyniad i chi ar eich cais mewn cyn lleied â dim dau ddiwrnod gwaith. Gwnewch gais ar-lein yn y fan hon