Buddsoddiad ecwiti yn ariannu ehangiad byd-eang ar gyfer Talkative

Andy-Morris
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae’r fenter dechnoleg Talkative o Gasnewydd wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti dilynol o bron i hanner miliwn o bunnoedd i helpu i ariannu ei ehangiad byd-eang i Ogledd America. 

O dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, a fuddsoddodd £200,000, daw’r cyd-fuddsoddiad gan ei fuddsoddwyr angel (£68,000), a Wesley Clover (£200,000). Mae'n dod â'r cyfanswm buddsoddiad yn y cwmni gan y Banc Datblygu ers 2018 i £450,000. 

Ar ôl cynyddu refeniw 800% ers 2018 a datblygu sylfaen cwsmeriaid sy’n cynnwys brandiau byd-eang fel Suzuki a Formula One, mae Talkative yn darparu cyfres o sianeli cyswllt digidol ar gyfer y diwydiant canolfannau cyswllt byd-eang $25 biliwn. Mae'r atebion pwerus a hawdd eu defnyddio ar y we wedi'u cynllunio i ddyneiddio'r daith ddigidol. 

Bydd y rownd ariannu ddiweddaraf yn helpu i ddatblygu cyfleoedd marchnad yng Ngogledd America gyda ffocws ar recriwtio a datblygu'r ystod cynnyrch craidd. Mae hyn yn cynnwys gwella ymarferoldeb sgwrsio dros fideo, cyswllt cwsmer digidol-ganolog a datrysiadau hunan wasanaeth. Bydd buddsoddiad hefyd mewn integreiddio pellach gyda llwyfannau ecosystem fel Salesforce a Microsoft. 

Wedi’i sefydlu gan y cyd-sylfaenwyr Felix Winstone a Jakub Srsen , mae Talkative wedi’i leoli yng Nghanolfan Arloesedd Wesley Clover yng Nghasnewydd a chymerodd ran yn yr Alacrity Foundation, rhaglen entrepreneuriaeth unigryw sy’n adeiladu ac yn cyflymu twf busnesau uwch-dechnoleg sy’n dechrau o’r newydd. 

Mae'r dechnoleg a ddatblygwyd gan Talkative yn trawsnewid sut mae sefydliadau'n rhyngweithio â defnyddwyr trwy eu gwefan. Mae llais, fideo a sgwrs wedi'u hymgorffori mewn gwefannau / apiau sy'n wynebu cwsmeriaid ac wedi'u cyfeirio'n ddeallus i seilwaith canolfannau cyswllt , gan bontio'r bwlch rhwng gwerthiannau ar-lein a chanolfannau cyswllt . 

Felix Winstone : “Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu a Wesley Clover fel ein buddsoddwyr sefydliadol wedi rhoi’r sicrwydd a’r hyder i ni fuddsoddi yn ein technoleg a chynyddu’r raddfa fel y gallwn fanteisio ar farchnad fyd-eang sy’n newid yn gyflym. 

“ Rydym wedi gweld twf sylweddol o dros 800% ers ein rownd gyntaf o gyllid sbarduno gyda 40% o’n sylfaen cwsmeriaid bellach y tu allan i’r DU. Gyda chefnogaeth ein partneriaid ecwiti, mae gennym gyfle mwy hirdymor i adeiladu cwmni byd-eang sydd ar flaen y gad yn y categori sgwrsio fideo sy'n dod i'r amlwg ac sy'n helpu i ail ddiffinio cyswllt cwsmeriaid yn yr oes ddigidol." 

Dywedodd Andy Morris o Fanc Datblygu Cymru: “Mae tîm Talkative wedi datblygu datrysiad technegol cadarn a phrofedig sydd â chyrhaeddiad byd-eang o ystyried y newid o ddatrysiadau cwsmeriaid ffôn i ddigidol sy’n ganolog a thwf arbennig o gyflym sgwrsio fideo yn y diwydiant canolfannau cyswllt. 

“Fel buddsoddwyr cynnar yn Talkative gyda chyfalaf cyn-sbarduno a chyllid dilynol, rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi twf y busnes arloesol hwn dros y pedair blynedd diwethaf. Mae hon yn farchnad gyffrous iawn gyda chyfle i gynyddu'n gyflym o ystyried nad oes unrhyw ddarparwr presennol wedi'i sefydlu. Yn wir, fel cyn- fyfyrwyr o’r Alacrity Foundation maent eisoes wedi cael eu denu gan sylfaen cwsmeriaid proffil uchel a chreu swyddi medrus iawn.” 

Dywedodd Simon Gibson, CBE, DL, Prif Weithredwr Wesley Clover ar y rownd fuddsoddi: “Fel buddsoddwyr, rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch y rhagolygon twf rhyngwladol ar gyfer Talkative. Mae'r cwmni'n darparu rhyngweithiadau cwsmeriaid ar-lein datblygedig ar gyfer brandiau byd-eang. Gyda’u rownd fuddsoddi newydd, edrychwn ymlaen at helpu Talkative i wireddu eu llawn botensial ym marchnadoedd Gogledd a De America”.