Gall adeiladu clystyrau ecwiti gyflymu twf busnes

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
giles

Mae cyfran Cymru o faint y cytundebau ecwiti yn y DU yn 3% ac yn gymharol agos at ei chyfran o economi'r DU, meddai uned ymchwil, Dirnad Economi Cymru (DEC) yn ei adroddiad diweddaraf am glystyrau ecwiti yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, er bod Caerdydd yn glwstwr ecwiti sy'n datblygu, mae angen gwneud mwy i ddatblygu'r galw am ecwiti ar hyd a lled Cymru ac ymysg mwy o sectorau.

Sefydlwyd DEC yn 2018 ac mae'n gydweithrediad rhwng Ysgol Busnes Caerdydd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Banc Datblygu Cymru. Mae DEC yn coladu ac yn dadansoddi data i greu mewnwelediad annibynnol, cadarn a dibynadwy i helpu i ddeall a gwella economi Cymru. 

Mae clystyrau ecwiti yn elfen allweddol o ecosystemau entrepreneuraidd rhanbarthol sy'n cyflymu twf busnes ac arloesedd i greu economi ranbarthol ddeinamig. Mae adroddiad Clystyrau Ecwiti yng Nghymru yn archwilio'r gwahanol ffactorau sydd angen bod yn bresennol i ddod â buddsoddwyr ecwiti a buddsoddiadau yn agos at ei gilydd er mwyn hwyluso gweithgarwch entrepreneuraidd a thwf economaidd. Mae'r ffactorau'n cynnwys presenoldeb marchnadoedd a rhwydweithiau trefol sefydledig a sefydlog yn seiliedig ar rannu gwybodaeth a deallusrwydd.

Mae dros 12% o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, sy'n ei gwneud yn un o'r marchnadoedd trefol mwyaf sefydledig yng Nghymru. Gyda nifer uwch o gwmnïau uwch-dechnoleg a thwf uchel yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru o gymharu â gweddill Cymru, mae ganddi'r holl gynhwysion angenrheidiol i barhau i ddatblygu'n llwyddiannus fel clwstwr ecwiti.

Wrth groesawu cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru: “Er bod Caerdydd yn glwstwr ecwiti sy'n datblygu, mae'r adroddiad hwn yn argymell bod angen i'r galw a'r cyflenwad o fuddsoddiad ecwiti dyfu ar draws Cymru gyfan ac o fewn gwahanol sectorau. Er bod llawer wedi'i wneud i gefnogi buddsoddiad ecwiti eisoes, mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i ddenu mwy o fuddsoddiad ecwiti i Gymru ac mae datblygu'r amgylchedd cywir ar gyfer y twf hwn yn allweddol ar gyfer creu clystyrau ecwiti ledled Cymru.

Er y gall y banc datblygu fuddsoddi hyd at £5m fesul rownd ecwiti, mae'r adroddiad yn amlygu materion o ran dod o hyd i ecwiti o ffynonellau sector preifat yng Nghymru ar gyfer cytundebau ecwiti mwy o dros £500,000.  

“Rhan o'n rôl fel buddsoddwr ar draws Cymru gyfan yw arallgyfeirio ffynonellau cyfalaf trwy dynnu sylw buddsoddwyr at gyfleoedd ledled Cymru a chwarae rhan wrth agor cyfleoedd newydd ar gyfer buddsoddi. Bydd mentrau fel Angylion Buddsoddi Cymru a chyflymwyr busnes yn holl bwysig wrth wneud hynny,” ychwanegodd Thorley.

Mae ymgynghoriadau â sefydliadau gwasanaethau ariannol nodedig yn dangos bod cryfder gwirioneddol o ran parhau â datblygiad Caerdydd fel clwstwr ecwiti ac mae cyfleoedd i wneud hyn ar hyd a lled Cymru. Mae angen mynd i'r afael â gwendidau fel nifer isel o ddeilliannau prifysgolion yng Nghymru ac ymwybyddiaeth isel ymysg entrepreneuriaid am gyfleoedd cyllido ecwiti ledled Cymru.

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i developmentbank.wales/cy/gwasanaethau/dirnad-economi-cymru